Yn annog y cyhoedd i gofrestru ar gyfer treialon brechlyn covid-19 gyda 100,000 eisoes wedi gwneud hynny
25 Awst
Mae mwy na 100,000 o bobl wedi gwirfoddoli i gymryd rhan mewn treialon brechlyn COVID-19, gan helpu i gyflymu’r ymdrechion i ddarganfod brechlyn diogel ac effeithiol.
- Mae mwy na 100,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer treialon clinigol brechlyn COVID-19 yn y dyfodol trwy gofrestrfa ymchwil brechlyn Covid-19 y GIG.
- Mae 3,835 o wirfoddolwyr wedi cofrestru yng Nghymru
- Mae gwirfoddolwyr yn helpu i gyflymu’r ymdrechion i ddod o hyd i frechlyn diogel ac effeithiol yn y frwydr yn erbyn coronafeirws
- Mae ymchwilwyr y DU yn annog mwy o wirfoddolwyr ar draws pob grŵp i gofrestru, yn enwedig y rheini dros 65 oed a’r rheini o gefndiroedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Mae mwy na 100,000 o bobl wedi gwirfoddoli i gymryd rhan mewn treialon brechlyn COVID-19, gan helpu i gyflymu’r ymdrechion i ddarganfod brechlyn diogel ac effeithiol.
Mae llywodraeth y DU heddiw (Dydd Llun 17 Awst) yn annog rhagor o bobl i ymuno â’r miloedd o wirfoddolwyr a chofrestru â Chofrestrfa Ymchwil Brechlyn COVID-19 y GIG i helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn coronafeirws a sicrhau bod y brechlynnau posibl dan sylw yn gweithio i bawb.
Er mwyn galluogi cynnal astudiaethau ymchwil ar raddfa fawr ledled y DU, y nod yw cael cynifer o bobl â phosibl wedi cofrestru â’r Gofrestrfa erbyn mis Hydref.
Mae ymchwilwyr yn croesawu’n arbennig pobl o bob rhan o’r gymdeithas, yn enwedig y rheini y mae brechlyn yn fwyaf tebygol o fod o fudd iddyn nhw, gan gynnwys y rheini dros 65 oed, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a’r rheini o gefndiroedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Bydd astudiaethau clinigol sydd â chronfa o wirfoddolwyr amrywiol yn helpu gwyddonwyr ac ymchwilwyr i ddeall effeithiolrwydd pob brechlyn dan sylw yn well a bydd yn cyflymu’n sylweddol yr ymdrechion i ddod o hyd i frechlyn diogel a dichonol.
Meddai Cadeirydd Tasglu Brechlynnau Llywodraeth y DU, Kate Bingham:
“Diogelu’r rheini mewn risg ydy’r unig ffordd y gallwn ni ddod â’r pandemig hwn i ben. Dyna pam ein bod ni’n gweithio mor gyflym â phosibl i redeg astudiaethau clinigol ar y brechlynnau mwyaf addawol i weld a ydyn nhw’n cynnig amddiffyniad yn erbyn COVID-19 ond, ar yr un pryd, glynu at brosesau diogelwch a rheoleiddio llym y DU. Ac mae angen i bobl ledled y DU gofrestru â’r gofrestrfa i’n helpu ni i gyflawni hyn.
“Mae cael 100,000 o wirfoddolwyr eisoes wedi cofrestru yn ddechrau gwych ond mae angen mwy o lawer o bobl sy’n dod o lawer o wahanol gefndiroedd y gallwn ni alw arnyn nhw ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol os ydyn ni am ddod o hyd i frechlyn yn gyflym i ddiogelu’r rheini sydd ei angen rhag coronafeirws.”
Meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:
“Mae’n wych gweld bod cynifer o bobl yng Nghymru eisoes wedi dewis cofrestru â’r gofrestrfa ar-lein DU-eang yma, sy’n caniatáu i ymchwilwyr gysylltu â nhw i gymryd rhan mewn astudiaethau brechlyn COVID-19.
“Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y brechlynnau sy’n cael eu datblygu’n gweithio i bawb, felly mae hi’n hynod bwysig bod pobl yn cofrestru o wahanol gefndiroedd ac oedrannau.
“Mae’r offeryn hwn yn hanfodol yn ein brwydr barhaus yn erbyn COVID-19 a buaswn i’n annog mwy o wirfoddolwyr i ystyried cymryd rhan.”
Mae disgwyl i nifer o dreialon ddechrau yn y DU yr hydref hwn, gan weithio gyda’r GIG, busnesau a sefydliadau ymchwil a fydd yn helpu i ddatblygu a gweithgynhyrchu’r brechlynnau.
Lansiwyd Cofrestrfa Ymchwil Brechlyn COVID-19 ar 20 Gorffennaf fel gwasanaeth ar-lein sy’n caniatáu i aelodau’r cyhoedd gofrestru eu diddordeb mewn astudiaethau brechlyn COVID-19 a chydsynio i ymchwilwyr gysylltu â nhw i gymryd rhan mewn treialon clinigol yn y dyfodol.
Mae brechlynnau’n cael eu rhoi ar brawf fesul cam i sicrhau eu bod nhw’n ddiogel ac yn effeithiol. Bydd gwirfoddolwyr y bydd ymchwilwyr yn cysylltu â nhw i gymryd rhan mewn treialon yn derbyn gwybodaeth am ba gam yn y broses y mae brechlyn penodol ynddo a manylion am sut y mae eisoes wedi’i roi ar brawf. Byddan nhw’n gallu ystyried hyn wrth benderfynu a fyddan nhw’n cymryd rhan ai peidio a gall pobl dynnu yn ôl o’r gofrestrfa ar unrhyw adeg.
Mae’r Gofrestrfa wedi’i datblygu gan y llywodraeth, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), NHS Digital, llywodraethau Cymru a’r Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.