Datblygu Radiotherapi Corff Abladol Stereotactig yng Nghymru
Prif Negeseuon
Roedd dwy brif thema i'm dyfarniad ymchwil:
- Radiotherapi addasol ar gyfer canser oroffaryngeal sy'n cael ei yrru gan y feirws papiloma dynol (sef y treial PEARL)
Rhoddodd y wobr ymchwil gyfle i mi sefydlu a dod yn brif ymchwilydd ar gyfer astudiaeth sy'n ymchwilio i rôl radiotherapi addasol mewn canser oroffaryngeal sy'n cael ei yrru gan y feirws papiloma dynol (neu HPV). Yn nodweddiadol, mae'r cleifion hyn yn cael cwrs chwe wythnos o cemo-radiotherapi, sy'n llwyddiannus iawn o ran gwella canser, ond sydd â sgîl-effeithiau hirdymor sylweddol ar ffurf ceg sych, materion llyncu ac ansawdd bywyd gwael. Prif negeseuon:
- Mae angen cryf am fwy o ymchwil wrth ddwysáu triniaeth ar gyfer canser oroffaryngeal sy'n cael ei yrru gan y feirws papiloma dynol.
- Mae'r astudiaeth wedi arsylwi bod canser oroffaryngeal yn crebachu trwy gwrs o gemo-radiotherapi gan ei wneud yn safle perffaith ar gyfer radiotherapi addasol.
- Er nad yw wedi'i brofi eto mae gan yr astudiaeth y potensial i leihau gwenwyndra a gwella ansawdd bywyd i gleifion.
- Mae radiotherapi addasol yn drwm o ran adnoddau, sy'n gofyn am ddau gynllun radiotherapi, sydd â goblygiadau ar ail-gyrsiau.
- Mae'r canlyniadau cychwynnol yn awgrymu nad yw radiotherapi addasol yn rhoi cleifion mewn perygl o fethiant triniaeth.
- Effeithiau imiwnolegol radiotherapi corff abladol stereotactig (yr astudiaeth SABR_IT)
Sefydlais brosiect cydweithredol gyda'r adran imiwnolegol ym Mhrifysgol Caerdydd gan archwilio'r effeithiau imiwnolegol o fewn samplau gwaed cleifion sy'n derbyn radiotherapi corff abladol stereotactig. Prif negeseuon:
- Ychydig a ddeallir sut y gall y math hwn o radiotherapi ysgogi'r system imiwnedd i helpu i frwydro yn erbyn canser.
- Mae gan yr astudiaeth y potensial i ddatgloi targed posibl ar gyfer defnyddio therapi cyffuriau ar y cyd â radiotherapi corff abladol stereotactig.
- Mae'r prosiect yn tynnu sylw at y ffaith y gall gwaith cydweithredol rhwng clinigwyr ac ymchwilwyr yn y brifysgol fod o fudd ac yn gynhyrchiol i'r ddwy ochr.