Adnoddau ar-lein i gyflymu'r broses o roi diagnosis o awtistiaeth
24 Awst
Mae rhieni sy’n pryderu am y posibilrwydd bod eu plentyn yn dioddef o un o anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ASD) yn gorfod aros am hyd at bedair blynedd am ddiagnosis ffurfiol, ond gall asesiadau ar-lein helpu i gyflymu’r broses hon, yn ôl dwy astudiaeth ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.
Yn yr astudiaeth gyntaf, cafodd 200 o rieni a gofalwyr plant â phrofiad o wasanaethau ASD eu harolygu. Roedd rhieni wedi cael eu hysgogi i geisio help oherwydd pryderon megis problemau cysgu a bwyta, lefelau gweithgarwch uchel, pyliau o dymer ddrwg, ymddygiad ymosodol neu ddinistriol ac anawsterau o ran chwarae gydag eraill neu ryngweithio â hwy.
Yn ôl yr arolwg:
• Gwelodd y rhan fwyaf o’r rhieni bum gweithiwr proffesiynol neu fwy cyn i’w plentyn gael diagnosis ffurfiol o ASD.
• Y cyfnod cyfartalog rhwng ceisio help am y tro cyntaf a chael diagnosis oedd 46 mis.
Meddai Manahil Alfuraydan, arweinydd yr astudiaeth:
“Mae ein gwaith ymchwil yn dangos graddau’r broblem sy’n wynebu rhieni a gofalwyr ar hyn o bryd. Gall yr achosion o oedi ddeillio o ddiffyg arbenigedd, yr angen am sawl apwyntiad, a’r ffaith y gall y broses achosi straen i unigolion a allai gael diagnosis o ASD yn nes ymlaen. Gan fod y rhain yn wasanaethau arbenigol, gallant orfodi teuluoedd ac arbenigwyr fel ei gilydd i deithio’n sylweddol.
“Gall oedi’r diagnosis arwain at ganlyniadau gwael i’r teuluoedd a’r unigolion.”
Fodd bynnag, mae ail astudiaeth ymchwil sydd newydd gael ei chyhoeddi gan y tîm o Abertawe yn cynnig gobaith y bydd y sefyllfa’n gwella.
Mae wedi dangos ei bod yn bosib gwella gwasanaethau ym maes gofal awtistiaeth drwy ddefnyddio adnoddau gofal iechyd ar-lein – sef teleiechyd – ochr yn ochr â’r dulliau sydd eisoes yn bodoli.
Mae’r canlyniadau’n amserol gan fod pandemig Covid-19 yn ysgogi pobl i feddwl o’r newydd am ddarparu gwasanaethau ar-lein.
Defnyddir teleiechyd yn llwyddiannus eisoes mewn meysydd megis radioleg, cardioleg, iechyd meddwl, ac at ddibenion monitro cleifion sydd â diabetes neu sy’n dioddef o orbwysedd.
Gwnaeth y tîm ymchwil arolygu ugain mlynedd o waith ymchwil mewn meysydd sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth a theleiechyd, gan nodi dau brif ddull o ddefnyddio teleiechyd:
1 Y dull amser real – er enghraifft, fideogynadledda, sy’n galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol gwahanol i gwrdd â’r teulu er mwyn asesu’r plentyn neu’r oedolyn, gan leihau’r angen i deithio neu drefnu sawl apwyntiad
2 Y dull storio a rhannu – sy’n cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr lanlwytho fideos o ymddygiad plentyn i borth ar-lein, fel y caiff clinigwyr weld plentyn yn ei amgylchedd arferol
Gwelodd y tîm dystiolaeth fod y ddau ddull hyn:
• yn dderbyniol i deuluoedd a chlinigwyr fel ei gilydd;
• yn cynnig cywirdeb diagnostig da;
• yn galluogi teuluoedd o ardal ehangach i gael gafael ar weithwyr proffesiynol;
• yn lleihau’r gost o gael gafael ar ofal;
• yn cynnig cyfle i arsylwi ar ymddygiad naturiol yn y cartref;
• yn rhoi modd i ddau riant sydd wedi cael ysgariad gyfrannu at y broses ddiagnostig.
Meddai’r Athro Sinead Brophy o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, Gwyddor Data Poblogaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:
“Mae’n bosib y gall teleiechyd wella effeithlonrwydd y broses ddiagnostig ar gyfer ASD.
“Mae’r dystiolaeth a adolygwyd yn ein hastudiaeth yn dangos y gall teleiechyd gyflymu’r broses o roi diagnosis a gwella canlyniadau, pan gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â’r dulliau sydd eisoes yn bodoli. Gallai fod o fudd penodol i bobl sydd â nodweddion amlwg awtistiaeth ac oedolion sy’n dioddef o ASD.”
Meddai Dr Jodie Croxall, Cyfarwyddwr Rhaglen BSc Iechyd Poblogaethau a Gwyddorau Meddygol, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a wnaeth oruchwylio’r ymchwil:
“Gall teleiechyd gyflymu’r broses o roi diagnosis, yn enwedig i’r bobl hynny sydd ag awtistiaeth fwy difrifol lle ceir cytundeb da o ran y diagnosis o gymharu’r broses â’r dulliau wyneb yn wyneb.
“Mae ein hastudiaeth yn tynnu sylw at botensial teleiechyd. Mae modd cyfiawnhau cynnal hap-dreialon mwy wedi’u rheoli ar y dechnoleg hon mewn perthynas ag ASD.”
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu Canolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth. Cymerwyd yr erthygl uchod o ddatganiad i'r wasg a gafodd sylw gyntaf ar wefan Prifysgol Abertawe.