Defnyddio technoleg symudol i gofnodi arsylwadau cleifion: effaith ar reoli gofal ac ymarfer clinigol.
Ymchwilydd PhD: Shannon Costello
Crynodeb diwedd y prosiect
Yng Nghymru, cafodd technoleg newydd (CareFlow Vitals) sydd ar gael ar iPads ei rhoi ar waith yn ysbytai un bwrdd iechyd i'w defnyddio i gofnodi arwyddion hanfodol cleifion wrth ochr y gwely. Nod yr astudiaeth hon oedd datgelu derbynioldeb a defnyddioldeb y dyfeisiau hyn yn ôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n eu defnyddio ar wardiau'r ysbyty. Trwy arsylwadau, cyfweliadau, a dulliau arolygu, esboniodd ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol (meddygon, nyrsys, gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig â gweithwyr cymorth gofal iechyd), sut maent yn defnyddio'r dyfeisiau, y rheswm dros eu defnyddio, a rhoi eu barn ar fanteision ac anfanteision defnyddio'r dyfeisiau mewn ymarfer clinigol.
Prif Negeseuon
- Yn gyffredinol, ac ar sail y rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth, roedd yr ymateb tuag at CareFlow Vitals ar iPads yn gymysg. Roedd yn well gan rai grwpiau proffesiynol a oedd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth (nyrsys, gweithwyr cymorth gofal iechyd, ymarferwyr allgymorth gofal critigol) ddefnyddio'r dyfeisiau symudol a'r feddalwedd yn ymarferol, tra bod grwpiau eraill (fel ffisiotherapyddion) yn ffafrio defnyddio pen a phapur. Mae'r data'n awgrymu bod profiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi cael effaith sylweddol ar a oedd yn well gan y cyfranogwyr ddefnyddio CareFlow Vitals o'i gymharu â chofnodion pen a phapur. Yn benodol, roedd yn well gan y rhai a oedd hanner ffordd i'w gyrfa ddefnyddio CareFlow Vitals yn eu practis clinigol.
- Ar adeg yr astudiaeth, nid oedd mewngofnodi ar gyfer meddalwedd CareFlow Vitals ar gael i bob aelod o staff, yn enwedig staff asiantaeth. Creodd hyn broblemau rhannu cyfrineiriau gan fod angen i'r rhai sy'n mewnbynnu data o arsylwadau (fel arfer gweithwyr cymorth gofal iechyd a nyrsys) fewngofnodi i'r dyfeisiau.
- Roedd y manteision canfyddedig yn cynnwys gwell diogelwch cleifion, o bosibl nodi dirywiad yn gynt, gan arwain at benderfyniadau triniaeth cyflymach, ac arbed amser clinigwyr a oedd yn eu galluogi i gyflawni tasgau clinigol eraill. Fodd bynnag, roedd pryderon bod gan gleifion llai o amser cyswllt â meddygon gan fod modd cyrchu'r data arwyddion hanfodol o bell.
- Ar adeg yr astudiaeth, nid oedd potensial llawn defnyddio CareFlow Vitals wedi'i wireddu eto. Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (system cofnodion cleifion electronig) yn ategu CareFlow Vitals ac er mwyn lleihau'r defnydd o bapur, mae angen gweithredu'r ddau.