Ymchwil COVID-19 yng Nghymru

Ymchwil COVID-19 yng Nghymru

Mae’r astudiaethau ymchwil canlynol sy’n ymwneud â Choronafeirws COVID-19 ar waith neu wrthi’n cael eu sefydlu yng Nghymru:

Ar agor ac yn recriwtio – astudiaethau Iechyd Cyhoeddus Brys

Treial llwyfan addasol o feddyginiaethau gwrthfeirol ar gyfer trin COVID-19 yn gynnar yn y gymuned (PANORAMIC) (Platform Adaptive trial of NOvel antiviRals for eArly treatMent of COVID-19 In the Community)

Treial clinigol ledled y DU ydy PANORAMIC, i ddod o hyd i driniaethau gwrthfeirol COVID-19 i adfer yn y gymuned. Nod yr astudiaeth yw ymchwilio i driniaethau sy’n gallu helpu pobl â symptomau COVID-19 i wella’n gyflym ac atal yr angen iddyn nhw fynd i’r ysbyty.

Ar agor yn: Ledled Cymru


Astudiaeth Niwrowyddoniaeth Glinigol COVID-19 COVID-CNS

Yn rhoi sylw i’r angen enbyd am ddeall y pethau biolegol sy’n achosi cymhlethdodau niwrolegol a niwroseiciatrig mewn cleifion COVID-19 yn yr ysbyty.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


CCP-Cancer UK

CCP-Cancer UK: Protocol Nodweddu Clinigol ar gyfer Heintiau Datblygol Difrifol yn y DU (CCP-UK) – astudiaeth darpar gymdeithion ar gyfer cleifion â Chanser a COVID-19.

Ar agor yn: , Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


Hap-dreial Gwerthuso Therapi COVID-19 (RECOVERY)

Bydd yr Hap-dreial Gwerthuso Therapi COVID-19 (RECOVERY) yn rhoi cyffuriau sydd eisoes yn bodoli a rhai newydd ar brawf i weld a allan nhw helpu cleifion sydd yn yr ysbyty â COVID-19 wedi’i gadarnhau.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre


COVID-19: ISARIC – Consortiwm Nodweddu Coronafeirws o Safbwynt Clinigol (ISARIC-4C) / CCP-UK

Bydd yr astudiaeth hon yn darparu ymchwiliad clinigol cyflym, cydgysylltiedig o gleifion sydd â haint COVID-19 wedi’i gadarnhau. Bydd yn edrych ar sut y mae’r feirws yn ailgynhyrchu ac yn cael ei alldaflu o’r corff, sut y mae’r corff yn ymateb i haint a thriniaeth dros amser a sut y mae’r system imiwnedd yn ymateb. Mae’r astudiaeth wedi’i dylunio i sicrhau bod cymaint o ddata â phosibl yn cael eu casglu a’u rhannu’n gyflym mewn fformat y gellir ychwanegu ato’n rhwydd, ei dablu a’i ddadansoddi ar draws llawer o wahanol leoliadau’n fyd-eang. Mae wedi’i dylunio i fod yn hyblyg er mwyn sicrhau ei bod mor dderbyniadwy â phosibl i sefydliadau gofal iechyd.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Ataliwyd ynBwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel


REMAP-CAP: treial platfform ar gyfer cleifion sy’n ddifrifol wael â COVID-19

Hap-dreial wedi’i reoli ar gyfer cleifion sy’n mynd i mewn i’r uned gofal dwys (ICU) â niwmonia difrifol sydd wedi'i ddal yn y gymuned (CAP). Mae’r treial hwn yn astudio nifer o wahanol gategorïau triniaeth dan un platfform, â nod o benderfynu ar y pecyn triniaeth gorau i gleifion.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


System Arsylwi Obstetrig y DU (UKOSS)

Deilliannau Mamol ac Amenedigol yn sgil Ffliw Pandemig yn ystod Beichiogrwydd.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


Gwerthuso a mireinio offerynnau asesu ffliw pandemig yn y gymuned (FLU-CATs)

Mireinio a dilysu meini prawf ac offerynnau a ddefnyddir mewn gofal sylfaenol, mewn amser real, er mwyn cynorthwyo penderfyniadau ynglŷn ag atgyfeirio cleifion o bob oedran i’r ysbyty pe bai yna hwrdd o achosion yn ystod pandemig y ffliw.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


Geneteg rhagdueddiadau a marwolaethau mewn gofal critigol (GenOMICC)

Mae ein genau’n pennu pa mor agored ydyn ni i haint sy’n bygwth bywyd. Os ydy claf eisoes yn sâl, mae gwahanol ffactorau genetig yn pennu pa mor debygol ydy hi y bydd yn goroesi. Bydd astudiaeth GenOMICC (Geneteg Rhagdueddiadau a Marwolaethau mewn Gofal Critigol) yn nodi’r genau penodol sy’n achosi i rai pobl fod yn agored i heintiau penodol ac effeithiau anaf difrifol.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


RECOVERY – Cymorth Anadlu

Nod yr astudiaeth hon yw darganfod a yw pwysedd positif parhaus ar y llwybr anadlu (CPAP) neu ocsigen llif uchel trwy’r trwyn (HFNO) yn glinigol effeithiol o’u cymharu â’r gofal safonol (nad yw’n cynnwys CPAP neu HFNO).

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Astudiaeth Cymhlethdodau Clefyd Coronafeirws (COVID-19) yn y Newydd-anedig

Rhaglen arsylwi genedlaethol ydy hon, yn defnyddio dull Uned Arolygu Bediatrig Prydain (BPSU) o weithredu. Bydd yr astudiaeth hon yn rhedeg ochr yn ochr â’r astudiaeth arsylwi famol sy’n cael ei rhedeg trwy System Arsylwi Obstetrig y Deyrnas Unedig (UKOSS; CPMS: 14162), sydd eisoes ar waith, a bydd yna groes-gysylltiadau rhwng y ddwy astudiaeth.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Beichiogrwydd a Deilliannau Newydd-anedig yn ystod COVID-19

Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o rai cwestiynau ymchwil penodol ynglŷn â sut y mae COVID-19 yn effeithio ar feichiogrwydd cynnar, twf y ffetws, babanod cynamserol a throsglwyddiad y feirws i’r baban, bydd yr ymchwilwyr yn creu cofrestr o fenywod sydd dan amheuaeth o fod â COVID-19 neu sydd â COVID-19 wedi’i gadarnhau.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


Hap-dreial Platfform o Ymyriadau yn Erbyn COVID-19 Mewn Pobl Hŷn (PRINCIPLE)

Nod y treial ydy rhoi ateb cyflym ynglŷn ag effeithiolrwydd hydrocsiclorocwin wrth newid hynt clefyd COVID-19.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n gweithio gyda Phrifysgol Rhydychen a meddygon teulu ledled Cymru i sefydlu’r astudiaeth hon.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ataliwyd ynYmddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys


Mae astudiaeth dichonoldeb IRIS+ (Nodi ac Atgyfeirio Estynedig i wella diogelwch) yn rhan o Raglen REPROVIDE (Rhaglen Ymchwil i Drais mewn Amgylcheddau Domestig Amrywiol i Gyrraedd Pawb [Reaching Everyone Programme of Research on Violence in diverse Domestic Environments])

Mae trais a cham-drin domestig yn broblem iechyd cyhoeddus a chlinigol ddifrifol. Nod yr ymchwil hon yw gwella ffordd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ymateb i gleifion sy’n oedolion ac sy’n cael eu treisio neu eu cam-drin neu sydd eu hunain yn treisio neu’n cam-drin, ac i’w plant.

Ar agor yn: Ledled Cymru


CLARITY

Effaith therapi biolegol ar haint sars-cov-2 ac imiwnedd (ImpaCt of bioLogic therApy on saRs-cov-2 Infection and immuniTY)

Bydd yr astudiaeth hon yn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer rhagnodi cyffuriau sy’n cyweirio imiwnedd a chyffuriau biolegol yn fwy diogel yn oes COVID-19 ac yn darparu sail ar gyfer polisi iechyd cyhoeddus ynglŷn â mesurau cadw pellter corfforol, a strategaethau brechu yn y dyfodol. Er y bydd yr astudiaeth hon yn diffinio risg mewn cleifion â chlefyd llidiol y coluddyn, mae yna wersi a allai fod yn bwysig i’w dysgu ar gyfer miliynau o gleifion ledled y DU â chlefydau imiwn-gyfryngol eraill sy’n cael eu trin â therapïau tebyg.

Ar agor ynBwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


MERMAIDS – ARI

Astudiaeth Ewropeaidd aml-ganolfan o syndromau clefydau heintus mawr: Heintiau Anadlol Acíwt mewn Oedolion (Multi-centre EuRopean study of MAjor Infectious Disease Syndromes: Acute Respiratory Infections in Adults)

Nod yr astudiaeth hon yw darganfod pam fod rhai pobl yn dod gymaint yn salach nag eraill pan y mae ganddyn nhw heintiau anadlol acíwt. Bydd cael rhagor o wybodaeth am sut y mae gwahanol bobl yn ymateb i gyfryngau sy’n achosi clefyd anadlol acíwt yn caniatáu i ni ragweld yn well pa mor ddrwg y mae’r haint yn debygol o fod a datblygu triniaethau’n benodol i’r claf penodol hwnnw. Gallai hyn leihau difrifoldeb y clefyd a’r risg o gymhlethdodau a hefyd cwtogi ar yr angen i bobl fynd i mewn i’r ysbyty.

Ar agor yn: Bwrdd lechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr


PHOSP-COVID

Astudiaeth COVID-19 ar ôl bod yn yr ysbyty: consortiwm cenedlaethol i ddeall a gwella deilliannau iechyd tymor hir

Mae angen astudiaeth holistaidd, gynhwysfawr sy'n canolbwyntio ar y claf i ddarganfod beth yw ôl-effeithiau haint COVID-19 o ran iechyd cronig ac economeg iechyd yn y rheini sydd wedi goroesi ar ôl bod yn yr ysbyty. Bydd hyn yn diffinio biofarcwyr demograffig, clinigol a molecwlaidd y rhagdueddiadau ac yn darparu sail ar gyfer ein dealltwriaeth o ymyriadau yn ystod y salwch acíwt. Bydd y rhain yn cyfeirio astudiaethau trylwyr dilynol i ddarparu sail ar gyfer meddygaeth fanwl mewn grwpiau mewn risg trwy roi cyfeiriad i dreialon clinigol newydd a gofal ar gyfer cleifion ôl-COVID-19 presennol a rhai yn y dyfodol. Bydd yr astudiaeth yn parhau i gysylltu data clinigol cyfranogion am o leiaf 25 mlynedd neu tan fydd y claf wedi marw neu wedi tynnu ei gydsyniad yn ôl.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


Virus Watch

Deall pam fod y feirws yn digwydd mewn cymunedau, proffiliau o symptomau a ffordd COVID-19 o drosglwyddo gan ystyried symudiadau ac ymddygiad y boblogaeth.

Virus Watch yw astudiaeth gymunedol fwyaf a mwyaf cynhwysfawr o’i bath o aelwydydd yn y DU. Bydd yr astudiaeth hon yn dilyn hanes mwy na 40,000 o gyfranogion. Bydd y rhain yn cynnwys aelodau’r cyhoedd o ledled Cymru a Lloegr a bydd yr astudiaeth yn defnyddio arolygon ar-lein rheolaidd o symptomau ac ymddygiad yn ogystal ag ap diogel dewisol i olrhain symudiadau. Bydd grŵp o 10,000 o gyfranogion yn cael eu profi ar gyfer haint COVID-19 ac yna ar gyfer imiwnedd. Caiff y wybodaeth ei defnyddio i adeiladu darlun manwl o sut y mae’r feirws yn lledaenu a sut y mae’r cyhoedd yn ymddwyn. Caiff y wybodaeth ei rhannu â’r cyfranogwyr, y gwasanaeth iechyd, cynllunwyr iechyd cyhoeddus a’r cyhoedd i helpu i sicrhau bod effaith y feirws mor fach â phosibl.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Wedi’u cwblhau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


Basil+ Ysgogiad Ymddygiadol ar gyfer Ynysigrwydd Cymdeithasol

Mae Ysgogiad Ymddygiadol yn helpu pobl i edrych ar y cyswllt rhwng yr hyn y mae pobl yn ei wneud a sut y maen nhw’n teimlo, ac yna pa newidiadau y gallan nhw eu gwneud i wella’u hiechyd a’u llesiant.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Treial ADAPT-Sepsis

Parhad triniaeth gwrthfiotigau dan arweiniad biofarcwyr mewn cleifion sydd yn yr ysbyty yr amheuir bod ganddyn nhw sepsis.

Mae diffyg ymchwil ynglŷn â phryd i atal triniaeth yn ddiogel yn gallu arwain at orddefnyddio gwrthfiotigau ar gyfer y cyflwr hwn. Mae gorddefnyddio gwrthfiotigau’n bwysig gan ei fod yn hybu bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau (ymwrthedd gwrthficrobaidd), sy’n golygu y byddai sepsis ac, yn wir, heintiau eraill yn dod yn anodd i’w trin yn y dyfodol. Nod yr astudiaeth hon yw darganfod p’un a fyddai’n bosibl lleihau parhad triniaeth gwrthfiotigau yn ddiogel yn sgil monitro biofarcwyr yn agos bob dydd.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Treial cyfnod III o gyfrwng gwrthfeirysol sy’n cael ei fewnanadlu (SNG001) ar gyfer SARS-CoV-2

Hap-dreial dwbl-ddall, yn defnyddio plasebo fel cymharydd, Cyfnod III i gadarnhau effeithlonrwydd a diogelwch SNG001 sy’n cael ei fewnanadlu ar gyfer trin cleifion sydd yn yr ysbyty oherwydd COVID-19 cymedrol.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


SPIKE-1 Hap-dreial Cyfnod II/III mewn amgylchedd cymunedol, yn asesu defnyddio camostat i leihau datblygiad clinigol COVID-19 trwy rwystro Sbigyn SARS-CoV-2

Mae’r treial eisiau recriwtio cleifion sydd â phrawf positif o COVID-19 ond sydd â chlefyd ysgafn ac y mae felly’n bosibl trin eu symptomau yn y gymuned. Prif nod y treial hwn yw canfod a yw Camostat yn gallu lleihau datblygiad clinigol COVID-19 ac felly’r angen i fynd i’r ysbyty a chael ocsigen atodol. Mae’r nodau eilaidd yn cynnwys casglu gwybodaeth am statws iechyd yn ôl cleifion, difrifoldeb y symptomau a marcwyr biolegol y feirws.

Ataliwyd yn:  Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Ar gau yn: Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre


Arolwg Haint COVID-19

Digwyddedd haint SARS-CoV-2 a chyffredinrwydd imiwnedd i SARS-CoV-2 ym mhoblogaeth gyffredinol y DU fel y’u hasesir trwy arolygon trawstoriadol mynych ag aelwydydd gyda samplo cyfresol ychwanegol a dilyniant hydredol – Arolwg  y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae’r pandemig COVID-19 yn cael effaith ddofn ledled y DU. Nod yr astudiaeth hon yw darganfod faint o bobl sydd â’r haint, faint o bobl sy’n debygol o fod wedi’u heintio a darganfod sut y mae’r haint ac imiwnedd yn newid dros amser.

Ar agor yn: Ledled Cymru


FALCON C-19

Hwyluso gwerthusiad clinigol carlam o brofion diagnostig newydd ar gyfer COVID-19 (Facilitating Accelerated CLinical evaluation Of Novel diagnostic tests for COVID-19)

Nod yr astudiaeth hon yw gwerthuso manwl gywirdeb nifer o brofion sydd ar gael yn fasnachol i wneud diagnosis o haint COVID-19 mewn ysbytai. Mae gwneud diagnosis o haint, nodi imiwnedd a monitro cynnydd yr haint yn fanwl gywir yn hynod bwysig yn ein hymateb i COVID-19. Mae profi’r boblogaeth yn helaeth wedi bod yn anodd yng ngwledydd y gorllewin ac mae nifer y profion sydd ar gael, y staff sydd ar gael ac amseroedd i gael canlyniadau yn ôl (hyd at 72 awr) wedi cyfyngu ar hyn. Mae hyn wedi cyfyngu ar ein gallu i reoli lledaeniad yr haint ac i ddatblygu ffyrdd effeithiol i sicrhau bod cleifion heintus yn hunan-ynysu’n gynnar a bod yna driniaeth gynnar ar gyfer y rheini â’r risg fwyaf. Mae’r diwydiant wedi datblygu nifer o brofion diagnostig in vitro newydd (y tu allan i’r corff dynol). Er mwyn manteisio ar fudd posibl y profion hynny, mae angen i ni gael asesiad effeithiol ohonyn nhw.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Wedi’u cwblhau:  Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


RAPTOR-C19 – Prawf cyflym yn y gymuned ar gyfer COVID-19

Estyn capasiti gwerthuso prawf cymunedol cyflym cenedlaethol ar gyfer COVID-19

Nod yr astudiaeth hon yw asesu manwl gywirdeb diagnostig nifer o brofion pwynt gofal (POCTs) ar gyfer haint COVID-19 gweithredol yn yr amgylchedd cymunedol. Gellir defnyddio POCTs mewn amgylcheddau cymunedol lle nad yw labordy arbenigol ar gael i’w ddefnyddio’n rhwydd. Maen nhw’n darparu canlyniadau cyflym sy’n caniatáu i bobl gael cyngor ar unwaith ynglŷn â hunanynysu a thriniaeth, gan o bosibl atal yr haint rhag lledaenu ymhellach yn y gymuned. Mae profion diagnostig cyflym sy’n fanwl gywir yn bwysig fel nad yw pobl yn cael tawelwch meddwl yn anghywir pan y maen nhw wedi’u heintio ac nad ydyn nhw’n cael diagnosis anghywir pan nad oes ganddyn nhw haint o gwbl. Bydd practisau meddygon teulu yn y rhwydwaith yn cymharu POCTs newydd ar gyfer COVID-19 yn gyflym â phrofion labordy fel ein bod ni’n gallu gweld pa mor dda ydy’r POCTs newydd mewn ffordd gydgysylltiedig ac effeithlon.

Ataliwyd yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


PRONTO f1.0 – Gwerthuso procalcitonin a NEWS2 ar gyfer nodi sepsis yn amserol a defnyddio gwrthfiotigau yn yr adran achosion cystal â phosibl

Astudiaeth y mae’r Sefydliad Cenedlaethol Dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn ei noddi ac y mae Prifysgol Lerpwl ac uned dreialon Caerdydd yn ei rhedeg yw PRONTO, â’r nod o wella gwaith asesu cleifion y tybir bod ganddyn nhw sepsis yn yr adran achosion brys gan ddefnyddio prawf 20 munud. Rydyn ni eisiau lleihau symiau’r gwrthfiotigau sbectrwm eang diangen sy’n cael eu defnyddio gyda phrin unrhyw newid o ran marwolaethau.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Treial HEAL-COVID

Helpu i liniaru canlyniadau tymor hir COVID-19: treial platfform cenedlaethol

Bydd yr astudiaeth hon yn asesu nifer o wahanol driniaethau a allai fod o fudd wrth leihau neu atal cymhlethdodau y mae cleifion â COVID-19 yn sôn amdanyn nhw ar ôl eu salwch acíwt. Treial platfform clinigol mawr ydy HEAL-COVID, â’r nod o asesu p’un a yw nifer o wahanol driniaethau’n well na’r “gofal safonol” presennol (y driniaeth seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd yr astudiaeth yn ddigon hyblyg i gynnwys triniaethau newydd nad ydyn nhw wedi’u nodi ar ddechrau’r treial, wrth i’n dealltwriaeth o COVID-19 newid.

Ar agor yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ar gau ynBwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


Haint coronafeirws mewn plant â gwrthimiwnedd cynradd neu eilaidd

Bwriad yr astudiaeth hon yw caniatáu i deuluoedd plant a phobl ifanc sydd â gwrthimiwnedd hunan-gofnodi eu profiadau o COVID-19 a chlefydau anadlol feirysol eraill yn ystod yr epidemig COVID-19. Caiff gwybodaeth ei chasglu a’i dadansoddi’n wythnosol i edrych am unrhyw beth sydd, i bob golwg, yn cynyddu’r siawns o glefyd difrifol.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


COVID-HEART

Effaith demograffeg, cydafiachedd a geneteg ar achosion myocardaidd ac adferiad o hyn yn sgil COVID-19: astudiaeth genedlaethol y DU (Astudiaeth COVID-HEART)

Mae gan hyd at 1 ym mhob 5 o gleifion sy’n mynd i mewn i’r ysbyty â COVID-19 dystiolaeth o niwed i gyhyrau’r galon a fesurir trwy brawf gwaed. Mae yna gysylltiad rhwng hyn â chyfradd farwolaethau uwch. Gan ddefnyddio sgan delweddu cyseinedd magnetig (MRI) (math o sgan sy’n defnyddio meysydd magnetig cryf a thonnau radio i gynhyrchu delweddau manwl o’r tu mewn i’r galon), byddwn ni’n edrych ar ba mor aml, ac ym mha ffordd, y mae’r galon yn cael ei niweidio, a sut roedd y galon wedi adfer 6 mis yn ddiweddarach.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


SIREN – gwerthusiad o imiwnedd i SARS-COV2 ac ailheintiad (SARS-COV2 immunity and reinfection evaluation)

Effaith gwrthgorff gwrth SARS-COV2 datgeladwy ar nifer yr achosion o COVID-19 mewn gweithwyr gofal iechyd

Nod yr astudiaeth hon yw darganfod a yw gweithwyr gofal iechyd sydd â thystiolaeth o fod wedi cael COVID-19 o’r blaen (wedi’i ddatgelu gan brofion gwrthgyrff positif) wedi’u hamddiffyn rhag gael pyliau o’r haint yn y dyfodol, o’u cymharu â’r rheini sydd heb dystiolaeth o haint (profion gwrthgyrff negyddol). Byddwn ni’n recriwtio gweithwyr gofal iechyd i’w dilyn am o leiaf blwyddyn ac yn astudio’u hadwaith i’r feirws sy’n achosi COVID-19. Byddwn ni’n gwneud hyn trwy gasglu data am eu hanes o haint COVID-19 ac unrhyw symptomau newydd. Trwy’r astudiaeth hon, byddwn ni’n darparu’r wybodaeth hynod bwysig hon a fydd yn ein helpu i ddeall effaith COVID-19 ar y boblogaeth yn y dyfodol.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe  


Astudiaeth Brysbennu System Argyfwng Haint Anadlol Pandemig (PRIEST)

Astudiaeth Brysbennu System Argyfwng Haint Anadlol Pandemig (yn gynt: Astudiaeth PAINTED: Brysbennu Ffliw Pandemig yn yr Adran Argyfwng).

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


CATALYST: Hap-dreial prawf o egwyddor aml-gangen aml-gyfnod Cyfnod II â’r nod o dywys gwaith dethol ymyriadau ar gyfer treialon cyfnod III mewn cleifion sydd yn yr ysbyty â haint COVID-19

Treial clinigol ydy hwn, lle y bydd cyfranogion yn cael eu dyrannu ar hap i un o nifer o driniaethau newydd posibl ar gyfer COVID-19.

Ar gau yn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro,Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe