Evidence Centre logo

Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru

Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru bellach wedi trawsnewid i Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae COVID-19 wedi newid anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl yng Nghymru’n ddramatig a hefyd y ffordd o ddarparu gwasanaethau, ac mae’n dal i wneud hynny. Mae angen i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ynglŷn â pholisi ac arfer yn y maes hwn ddefnyddio ymchwil i ddeall a rheoli’r pandemig a’i effaith.

Mae swm anferthol o ymchwil COVID-19 wedi’i wneud, gan gynnwys astudiaethau ar:

  • Y ffordd y mae’r clefyd yn lledaenu
  • Ffactorau risg
  • Triniaethau
  • Brechiadau
  • Canlyniadau’r pandemig

Fodd bynnag, nid yw’r dystiolaeth ymchwil bob amser ar gael yn rhwydd i’r rheini sydd ei hangen, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y GIG, Gofal Cymdeithasol a’r cyhoedd, ac mae’n gallu bod yn heriol sicrhau bod sylfaen dystiolaeth yr ymchwil yn gyfoes ac yn berthnasol i Gymru.

Dyma sydd wedi ysgogi sefydlu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, â’r nod o wella ansawdd a diogelwch wrth gyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol trwy sicrhau bod ymchwil COVID-19 yn amserol ac yn berthnasol i Gymru.

 

Gwaith Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru

Mae ymchwil a thystiolaeth yn hanfodol wrth reoli’r pandemig COVID-19 yng Nghymru. Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru’n canolbwyntio ar ddau fath o ymchwil:

Adolygu tystiolaeth ymchwil

Mae’r tîm yn adolygu tystiolaeth o astudiaethau ymchwil sydd eisoes wedi’u gwneud, gan wneud yn siŵr eu bod yn gyfoes ac yn berthnasol i Gymru, â’r nod o gefnogi’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i reoli’r pandemig a sefydlu’r adferiad.

Gan weithio gyda sefydliadau ledled y byd, mae’r ganolfan yn cyfrannu at ymdrechion rhyngwladol, gan gynnwys Rhwydwaith Tystiolaeth COVID-END, i adolygu ymchwil a’i defnyddio i gefnogi polisi ac arfer.

Cynnal ymchwil newydd

Mae adolygu tystiolaeth ymchwil wedi darparu atebion i lawer o gwestiynau, ond maen nhw hefyd wedi dwyn sylw at fylchau allweddol mewn tystiolaeth y gallai ymchwilio pellach fod o fudd iddyn nhw. I fynd i’r afael â hyn, mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru’n cyflenwi astudiaethau ymchwil newydd ledled Cymru, i helpu i ddarparu sail ar gyfer adfer ar ôl y pandemig.

Gan weithio gydag ymchwilwyr a sefydliadau eraill yng Nghymru, mae’r Ganolfan:

  • Yn datblygu amcanion a chynigion ymchwil
  • Yn darparu cyllid i ymchwilwyr eraill  ar gyfer prosiectau ymchwil COVID-19 sydd â blaenoriaeth
  • Yn gweithio gydag aelodau o’r cyhoedd i flaenoriaethu ymchwil
  • Yn gwneud yn siŵr bod yr ymchwil ar gael i’r rheini sydd ei hangen i ddarparu sail ar gyfer polisi acarfer

Darllenwch am y prosiectau ymchwil mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi ariannu i wella rheolaeth pandemig a chefnogi cyfnod pontio Cymru allan o'r pandemig.

Pwy y mae’r Ganolfan yn gweithio gyda nhw

Mae’r Ganolfan yn gweithio gydag arbenigwyr i adolygu, crynhoi a chynhyrchu adroddiadau am y dystiolaeth ymchwil sydd ar gael, gan gynnwys:

Mae’r Ganolfan hefyd yn gweithio gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a grwpiau polisi, gofal cymdeithasol, yr Academi Colegau Meddygol Brenhinol (Cymru), sefydliadau cynnwys cleifion a’r cyhoedd, seilwaith ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, grwpiau cyflenwi gwasanaethau GIG Cymru, Byrddau Iechyd Prifysgol/ Ymddiriedolaethau GIG Cymru a rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

I ddysgu mwy ac i gymryd rhan, anfonwch e-bost i’r Ganolfan.

 

Gwerthoedd Craidd

Mae gwerthoedd Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi’u hadeiladu o amgylch cyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol; mae’n gyson â ffocws Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o ran y cenedlaethau.

Mae’r tîm hefyd yn ceisio nodi lle y gellir cael y gwerth mwyaf yn ogystal â nod culach cost-effeithiolrwydd.

Mae’r Ganolfan yn defnyddio dull gweithredu amlddisgyblaeth llawn parch, cynhwysol sy’n estyn ar draws y sector iechyd, y sector cymdeithasol a’r trydydd sector a gyda phartneriaid yn y diwydiant.

 

Ein Rhaglen Waith

Gyda chylch gwaith ‘cwestiynau da, wedi’u hateb yn gyflym’, mae’r Ganolfan yn gweithio gyda sefydliadau eraill i flaenoriaethu cwestiynau y mae’n bosibl eu hateb o’r dystiolaeth ymchwil, ac sy’n gallu helpu Cymru i ddeall effaith y pandemig, helpu i sicrhau bod anghenion iechyd ac anghenion ehangach mwyaf dwys cymunedau a phobl yng Nghymru’n cael eu diwallu, a helpu Cymru i adfer ac ailadeiladu.

Caiff cwestiynau ymchwil eu blaenoriaethu yn ôl eu perthnasedd i gyd-destun COVID-19 yng Nghymru ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, eu pwysigrwydd i’r bwlch yn y dystiolaeth (graddfa, cost, canlyniad), buddion posibl, y potensial i’w trosi’n arfer a lefel y brys.

Mae Rhaglen Waith Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru’n disgrifio’r prosesau hyd yma a chaiff ei diweddaru wrth i’r rhaglen waith barhau i ddatblygu.

Cynnwys y cyhoedd

Mae Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru’n cynnwys aelodau’r cyhoedd ac maen nhw’n cael eu cynnwys yn holl waith y Ganolfan o’r dechrau i’r diwedd – gan gynnwys blaenoriaethu cwestiynau, bod yn rhan o baneli cyllid grantiau, cymryd rhan mewn prosiectau, mynychu cyfarfodydd, dehongli darganfyddiadau, ysgrifennu crynodebau lleyg a mynychu sesiynau briffio ar dystiolaeth Llywodraeth Cymru, a bod yn gydawduron cyhoeddiadau. I ddysgu mwy neu i gymryd rhan, anfonwch e-bost i’r Ganolfan.

Mae’r Ganolfan hefyd yn gofyn i’r Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus ysgrifennu crynodebau o’r holl adroddiadau mae’n eu cyhoeddi. Mae hyn y sicrhau bod yr adroddiadau’n hygyrch i bawb. Ewch i’r llyfrgell adroddiadau i ddarllen mwy am yr adroddiadau.

Cylchlythyr

Beth am gael newyddion diweddaraf oll Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn ein cylchlythyr chwarterol? Cofrestrwch nawr i dderbyn gwybodaeth am y newyddion, adroddiadau a digwyddiadau diweddaraf gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn syth i'ch mewnflwch.

Gallwch chi ddarllen pob rhifyn sydd wedi’i gyhoeddi hyd yma isod:

Rhifyn un - Tachwedd 2021

Rhifyn dau - Mawrth 2022

Rhifyn tri - Medi 2022

Tystiolaeth ar waith Symposiwm

Rhagfyr 2021 - Effaith y pandemig COVID-19 ar addysg, plant a phobl ifanc

Mawrth 2022 - Symposiwm Dathlu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru: Blwyddyn o Effaith

Medi 2022 - Effaith anghyfartal, adferiad tecach - Symposiwm sy'n arddangos ymchwil hanfodol i gefnogi adferiad o'r pandemig i gymunedau yng Nghymru

Newyddion

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru: