Ydych chi'n ymchwilydd a allai rannu eich gwybodaeth a'ch profiadau?
31 Mawrth
Allech chi helpu eraill i wynebu heriau rydych chi wedi'u goresgyn?
Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn chwilio am Fentoriaid i gefnogi Cynllun Mentora'r Gyfadran.
Maent yn chwilio am fentoriaid sy'n gallu darparu profiadau a safbwyntiau gwahanol i fentoreion a all fod yn wynebu heriau ar hyd eu llwybr gyrfa. Efallai eich bod wedi dysgu o'ch profiadau yn unrhyw un o'r canlynol a fyddai o gymorth i fentorai:
- Llywio’r cam nesaf yn eu gyrfa
- Datblygu eu sgiliau arwain
- Adeiladu rhwydweithiau a chydweithio
- Datblygu a rheoli eu tîm ymchwil
- Symud i'r byd academaidd o gefndir GIG neu ymarfer gofal cymdeithasol
Fel un o fentoriaid y Gyfadran byddech yn:
- Cael eich paru’n ffurfiol â'ch mentorai (mentoreion) er mwyn sicrhau bod y mentorai a’r mentor sy’n gweddu orau yn cael eu paru gyda’i gilydd.
- Cael y cyfle i gymryd rhan mewn cyfres o drafodaethau cefnogol, sy'n canolbwyntio ar nodau gyda mentorai (mentoreion) mewn meysydd lle mae gennych fwy o brofiad, gan dywys a chynghori’r mentorai.
- Cael mynediad at gyfleoedd cymorth a hyfforddiant i berffeithio'ch sgiliau mentora a chael cefnogaeth gan gymheiriaid drwy gydol y rhaglen.
- Darparu o leiaf chwe awr o gymorth mentora dros gyfnod o 12 mis
Llenwch ffurflen proffil mentor y Gyfadran fel bod y tîm yn gallu eich paru â mentorai addas.
Y fraint pan fydd rhywun yn agored ac yn onest am ei heriau a'i ddyheadau. Gallwn ni dueddu i beidio â rhannu pethau gyda phobl nad ydyn ni'n eu hadnabod - roedd hyn yn wahanol iawn.” David Bosanquet
Mae bod yn fentor wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau gwrando gweithredol fy hun a sgiliau cyfathrebu eraill. Mae'n fraint cael mentora nifer o bobl o wahanol broffesiynau gofal iechyd, ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd ymchwil. Mae pob un ohonyn nhw angen rhywbeth gwahanol gen i fel mentor, ac mae'n rhaid i mi addasu fy sgiliau mentora yn unol â hynny. Rwy'n ffynnu wrth weld pobl yn datblygu ac yn cyflawni eu nodau gyrfa personol.” Yr Athro Ceri Battle
Gall rhannu profiadau a gwybodaeth am faterion - gyda'r nod o helpu eraill - fod yn werth chweil.” Yr Athro Dyfrig Hughes
Rwyf wedi ei fwynhau ac wedi gallu helpu ymchwilydd ar ddechrau neu ganol ei yrfa i ddatblygu a llywio’r camau nesaf yn ei yrfa, o ran materion uniongyrchol a chynnydd a datblygiad strategol tymor hwy. Mae'n bleser ac yn werth chweil gweithio gyda'r unigolyn a chyfrannu at y ddisgyblaeth yn ei chyfanrwydd hefyd.” Yr Athro Adrian Edwards