Yr Athro Ceri Battle
Cyd-arweinydd Arbenigedd ar gyfer Trawma a Gofal Brys
Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) Cymru (Hydref 2021 – Medi 2023)
Gwobr: Dyfarniad Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd (Hydref 2020 - Medi 2025)
Teitl y prosiect: Co-PaCT study: Development of Co-produced guidance for the care of Patients with blunt Chest wallTrauma: a mixed methods study
Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG (Ebrill 2018 – Mawrth 2021)
Gwobr: Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) Cymru (Hydref 2016 – Medi 2018
Teitl y prosiect: A multi-centre randomised feasibility study evaluating the impact of a prognostic model for management of blunt chest wall trauma patients. STUMBL Trial
Mae Ceri Battle wedi bod ffisiotherapydd meddygaeth mewn argyfwng a gofal critigol yn Abertawe am 20 mlynedd. Ar ôl iddi gwblhau ei Doethuriaeth yn 2013, newidiodd ei rôl i swydd academaidd glinigol. Ei phrif ddiddordeb ymchwil yw trawma ac epidemioleg meddygaeth mewn argyfwng, ac fe’i penodwyd yn ddiweddar yn Athro Cyswllt er Anrhydedd ym maes Ymchwil Meddygaeth mewn Argyfwng yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, mae Ceri yn Gymrawd Academaidd i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan ganiatáu iddi ganolbwyntio ar gwblhau ei gwaith ar drawma’r ysgyfaint, gan gynnwys Treial STUMBL2. Mae hefyd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Epidemioleg yn y Ganolfan Ymchwil Feddygol mewn Argyfwng yng Nghymru gyda’r Athro Adrian Evans, Ysbyty Treforys.
Darllenwch mwy am eu gwaith:
Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth 2023 (Chwefror 2023)
Llongyfarchiadau i’r Athro Ceri Battle (Ionawr 2023)
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi enwau enillwyr dros £5 miliwn o wobrau ariannol am 2019-20 (Tachwedd 2022)
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Tachwedd 2022)
Dyfarnu bron i £6.5 miliwn i ymchwil achub bywyd yng Nghymru (Hydref 2022)
O chwarae pêl rwyd i Gymru i arwain ymchwil ffisiotherapi sy’n newid bywydau yng Nghymru (Ebrill 2022)