Dyfrig Hughes

Yr Athro Dyfrig Hughes

Uwch Arweinydd Ymchwil

Prif feysydd diddordeb yr Athro Dyfrig Hughes yw economeg a pholisi fferyllol, ymchwil ym maes ymlyniad ac ymchwil fethodolegol a chymhwysol mewn gwerthusiadau economaidd ar sail treialon.  Graddiodd Dyfrig mewn fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd cyn astudio ar gyfer doethuriaeth mewn ffarmacoleg cardiofasgwlaidd ym Mhrifysgol Lerpwl.  Yna hyfforddodd ym maes economeg iechyd, ac mae bellach yn Athro Ffarmaeconomeg ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaeth ym Mhrifysgol Bangor.  Ef hefyd yw Arweinydd Academaidd Fferylliaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae’n athro anrhydeddus yn yr Adran Ffarmacoleg Foleciwlaidd a Chlinigol, Prifysgol Lerpwl.

Mae prif weithgareddau ymchwil Dyfrig, sydd wedi arwain at fwy na 180 o gyhoeddiadau, yn ymwneud ag economeg a pholisi fferyllol, asesiadau technoleg iechyd ac ymlyniad meddyginiaeth.  Mae’n Aelod o Fwrdd Golygyddol y cyfnodolion PharmacoEconomics a Clinical Pharmacology & Therapeutics.


Yn y newyddion:

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Sefydliad

Prifysgol Bangor

Cysylltwch â Dyfrig 

E-bost

Ffôn: 01248 382950