a_female_clinician_talks_to_a_woman

Ymarfer blaenoriaethu cenedlaethol yn llunio galwad ariannu gwerth £750,000 i wella heriau cyfathrebu mewn iechyd menywod

2 Mai

Mae galwad ariannu newydd wedi'i thargedu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn dal i fod ar agor ar gyfer ceisiadau, gan ganolbwyntio ar chwe phwnc ymchwil â blaenoriaeth ynghylch gwella cyfathrebu ym maes iechyd menywod, a gafodd ei nodi mewn ymarfer blaenoriaethu cenedlaethol diweddar.

Mae iechyd menywod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a lansiodd gynllun 10 mlynedd fis Rhagfyr diwethaf gyda'r nod o wella gofal iechyd i fenywod yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiadau i ariannu ymchwil ar gyfer cyflyrau iechyd menywod a sefydlu canolfannau iechyd ledled y wlad. 

Yn hanesyddol, mae iechyd menywod wedi cael ei dan-ymchwilio, gan gyfrannu at ganlyniadau iechyd gwael a diagnosis a thriniaethau yn aml wedi’u seilio ar brofiadau dynion.

Yng Nghymru’n unig, mae menywod yn wynebu siawns 50% o gael camddiagnosis ar ôl trawiad ar y galon, yn ôl cynllun iechyd menywod.

Bydd hyd at £750,000 ar gael o’r alwad am gyllid. Gall prosiectau bara am hyd at ddwy flynedd a byddant yn cael eu hasesu ar ansawdd ac effaith bosibl.

Nodwyd y chwe phwnc yn dilyn ymarfer blaenoriaethu ymchwil helaeth a wnaeth gynnwys y cyhoedd, a gynhaliwyd rhwng Awst 2024 a Mawrth 2025.

Ym mis Hydref 2024, fe wnaethom ofyn cwestiynau agored am gyfathrebu ynghylch iechyd menywod, gan gael dros 500 o ymatebion. Cafodd y rhain eu dadansoddi a'u llunio’n 37 cwestiwn allweddol.

Ym mis Ionawr 2025, pleidleisiodd ymatebwyr dros y deg uchaf, yn eu barn nhw, gan fyrhau’r rhestr i 17. Cynhaliwyd gweithdy wedi hynny lle trafododd menywod ac ymarferwyr y rhain gan bleidleisio ar eu blaenoriaethau terfynol.

Y chwech uchaf yw:

1. Sut y gellir cefnogi menywod a merched â rhwystrau diwylliannol, cymdeithasol neu ieithyddol i gael gwybodaeth am iechyd?

2. Sut y gallwn siarad â menywod yn effeithiol am faterion sy'n gysylltiedig â’r menopos, perimenopos ac iechyd mislif?

3. Beth yw'r ffyrdd gorau o hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol i gyfathrebu'n effeithiol â menywod a merched am eu problemau iechyd?

4. Sut y gallwn gyfathrebu orau â menywod a merched ag anableddau dysgu am faterion sy'n ymwneud â'u hiechyd a'u gofal iechyd?

5. Sut y gallwn gefnogi ac annog sgyrsiau am faterion iechyd sy'n effeithio ar fenywod a merched mewn mannau gofal iechyd, ysgolion a'r gymdeithas ehangach?

6. Sut y gallwn sicrhau bod menywod a merched yn teimlo’u bod yn cael eu clywed, eu deall a'u parchu mewn ymgynghoriadau gofal iechyd? 

Dywedodd yr Athro Jacky Boivin, Cyfarwyddwr canolfan newydd Ymchwil Iechyd Menywod Cymru, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Roedd yr ymarfer blaenoriaethu yn hanfodol bwysig wrth sefydlu'r meysydd i ganolbwyntio arnyn nhw ar gyfer yr alwad ariannu ymchwil newydd sy'n canolbwyntio ar wella cyfathrebu ym maes iechyd menywod.

"Mae lansio canolfan newydd Ymchwil Iechyd Menywod Cymru yng Nghymru yn gam cyffrous a hanfodol i wella ansawdd bywyd a chanlyniadau iechyd menywod ledled Cymru." 

Dysgwch fwy am yr alwad ariannu sy'n cau ar Fai 28 a darllenwch y rhestr lawn o flaenoriaethau ar ein gwefan.

Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr wythnosol i gael y newyddion ymchwil diweddaraf, cyfleoedd ariannu a gwybodaeth ddefnyddiol arall.