Tri pherson yn eistedd wrth fwrdd mewn ystafell gyfarfod. Mae un fenyw yn canolbwyntio ar ddogfennau, mae menyw arall yn siarad, ac mae person yn gwenu wrth ddal tabled.

Y deg prif flaenoriaeth ymchwil ar gyfer cyfathrebu ynghylch iechyd menywod

24 Mawrth

Rydym yn gyffrous i rannu gyda chi’r deg prif flaenoriaeth ymchwil sy'n ymwneud â'r pwnc:

Cyfathrebu ynghylch iechyd menywod

Mae'r blaenoriaethau hyn yn deillio o'n prosiect blaenoriaethu ymchwil diweddaraf lle clywsom yn uniongyrchol gan fenywod, merched ac ymarferwyr gofal iechyd.

Yr arolygon

Ym mis Hydref 2024, fe wnaethom ofyn tri chwestiwn agored am brofiadau menywod a merched mewn perthynas â chyfathrebu ynghylch iechyd menywod. Cawsom dros 500 o ymatebion a gafodd eu dadansoddi, a rhoddodd hyn restr o 37 cwestiwn inni.

Ym mis Ionawr 2025, gofynnwyd i'r ymatebwyr ddewis eu deg prif flaenoriaeth o'r rhestr o 37, a arweiniodd at lunio rhestr fer o 17 cwestiwn.

Yn olaf, cynhaliwyd gweithdy manwl gyda naw menyw a saith ymarferydd o ystod o ddisgyblaethau ym maes gwasanaethau iechyd. Trafodwyd yr 17 cwestiwn mewn grwpiau bach ac, ar ddiwedd y gweithdy, fe wnaethant bleidleisio'n unigol dros eu prif ddeg.

Y deg prif flaenoriaeth

  1. Sut y gall poblogaethau menywod a merched nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol a/neu sydd â rhwystrau diwylliannol, cymdeithasol neu iaith gael eu cefnogi i gael gafael ar wybodaeth iechyd?
  2. Sut y gellir sefydlu arferion gorau wrth siarad a chodi ymwybyddiaeth ymhlith menywod a merched am faterion sy'n gysylltiedig â'r menopos, y perimenopos ac iechyd mislif?
  3. Beth yw'r dulliau gorau o ran sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn meddu ar y cyfarpar a'r hyfforddiant priodol i gyfathrebu'n effeithiol â menywod a merched am eu problemau iechyd?
  4. Sut y gellir cyfathrebu orau â menywod a merched ag anableddau dysgu a/neu sy'n niwrowahanol am faterion sy'n ymwneud â'u hiechyd a'u gofal iechyd?
  5. Sut y gall trafodaethau agored am faterion iechyd sy'n effeithio ar fenywod a merched gael eu hannog a'u hwyluso o fewn gofal iechyd, ysgolion a'r gymdeithas ehangach?
  6. Beth yw'r dulliau gorau o helpu menywod a merched i deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu deall a'u cymryd o ddifrif mewn ymgyngoriadau gofal iechyd?
  7. Beth yw'r arferion gorau o ran ymgysylltu, hysbysu ac addysgu menywod a merched am iechyd rhywiol gan gynnwys atal cenhedlu a pharatoi ar gyfer beichiogrwydd?
  8. Beth yw'r ffordd orau o ymgysylltu, hysbysu ac addysgu menywod sydd angen cymorth iechyd meddwl mamol?
  9. Sut y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gynnwys tosturi a sicrhau canolbwynt ar yr unigolyn yn eu rhyngweithio â menywod a merched i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu 'gweld' a'u clywed yn ystod ymgyngoriadau?
  10. Sut y gellid dylunio technoleg yn well a'i defnyddio orau i gyfathrebu am wasanaethau gofal iechyd i fenywod a merched? (e.e: apiau, fideogynadledda, gwasanaethau neges destun neu ar-lein)

Y camau nesaf

Bydd is-set o'r blaenoriaethau hyn yn cael ei chynnwys mewn galwad benodol am ymchwilwyr sy'n lansio ym mis Ebrill 2025.

Byddwn hefyd yn hyrwyddo'r deg prif flaenoriaeth a'r rhestr hirach o 17 i gyllidwyr ymchwil.

Yn ogystal â nodi'r prif ddeg, bydd yr holl wybodaeth rydym wedi'i chasglu drwy'r prosiect (o'r arolygon a'r gweithdy) yn cael ei rhannu gyda swyddogion polisi Iechyd Menywod.

Diolch

Rydym am ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu at y prosiect hwn. Drwy rannu eich syniadau mewn prosiectau fel hyn, rydych yn helpu i lunio ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.