Research nurse in bauble

2021 – Blwyddyn wedi'i llenwi ag ymchwil sy'n newid bywyd yng Nghymru

Unwaith eto, mae Cymru wedi parhau i fod yn ganolbwynt ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy'n achub bywydau yn 2021. O astudiaethau i ganser a diabetes, i hyrwyddo gofal cymdeithasol plant ac oedolion, bu ymchwil yn gwella bywydau eleni.

Gan osod cleifion a'r cyhoedd wrth ei wraidd, mae cymuned ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu triniaethau a ffyrdd newydd o ofalu am bobl yng Nghymru a thu hwnt. Dyma rai o uchafbwyntiau ymchwil anhygoel 2021:

Diagnosis cynharach o ganser

Eleni, gweithiodd Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol a Brys Cymru (Canolfan PRIME Cymru) mewn partneriaeth ag Ymchwil Canser Cymru ar ymgyrch yn gofyn i bobl gymryd unrhyw newidiadau yn eu corff o ddifrif a gwneud apwyntiad i weld eu meddyg teulu.

Mewn ymateb i dystiolaeth yn dangos bod llai o bobl yn ymweld â'u meddygfa oherwydd COVID-19, anogodd yr ymgyrch y rhai â symptomau canser posibl i ofyn am gymorth yn gynnar.

Cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil

Mae Partneriaeth CASCADE wedi parhau i gynyddu ei grwpiau cynghori ymchwil sy'n cynnwys pobl ifanc a rhieni sydd â phrofiad o ofal cymdeithasol, er gwaethaf yr heriau a grëwyd gan bandemig COVID-19.

Mae'r grwpiau cynghori ymchwil yn helpu ymchwilwyr i ddatblygu eu hastudiaethau i ofal cymdeithasol plant gan lunio ymchwil i bynciau fel pobl ifanc sy'n gadael gofal, gofal a phandemig COVID-19 – a galluogi'r rhai mewn gofal i gymryd rhan mewn ymchwil.

Grymuso pobl sydd â COVID-19

Gweithiodd Economeg Iechyd a Gofal Cymru (HCEC) gyda Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru i adolygu tystiolaeth economaidd iechyd o ran atal a rheoli lledaeniad COVID-19.

Gyda chanfyddiadau'r adolygiad hwn, nod HCEC yw grymuso pobl y mae COVID-19 yn effeithio arnynt i wneud penderfyniadau triniaeth gwybodus, a chefnogi Cymru wrth iddi baratoi ar gyfer argyfyngau iechyd yn y dyfodol.

Rheoli diabetes mewn pobl ifanc

Er gwaethaf heriau a grëwyd gan bandemig COVID-19, gorffennodd Uned Treialon Abertawe recriwtio i astudiaeth yn edrych ar ddefnyddio cyffur o'r enw Ustekinumab i drin pobl ifanc sydd newydd gael eu diagnosio â diabetes math 1 eleni.

Mae ymchwilwyr yn gobeithio y bydd y cyffur hwn yn helpu cleifion ifanc i reoli eu cyflwr yn well gan leihau'r angen am inswlin neu eu gwneud yn rhydd o inswlin.

Gwella iechyd meddwl pobl ifanc

Ffurfiodd DECIPHer bartnewriaeth â Chanolfan Wolfson yn 2021 i ddatblygu ffyrdd newydd o leihau pryder ac iselder ymysg pobl ifanc, gyda DECIPHer yn arwain rhaglen ar sut y gall ysgolion godi ymwybyddiaeth o heriau iechyd meddwl.

Helpodd y gwaith hwn Lywodraeth Cymru i ddatblygu dull newydd o ymdrin ag iechyd a llesiant mewn ysgolion, gyda pherthnasoedd cryf wrth wraidd y canllawiau sy’n ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant dysgwyr a staff.

Gwell triniaethau trallwysiad gwaed

Yn 2021, cychwynnodd Gwasanaeth Gwaed Cymru astudiaeth yn edrych ar storio platennau oer trwy'r Labordy Datblygu Cydrannau ac Ymchwil newydd a agorwyd eleni.

Gallai hyn olygu llai o risg o halogiad, oes silff hirach, a thriniaethau trallwysiad gwell i bobl sydd â thaer angen am waed.

Helpu pobl hŷn i ddefnyddio technoleg

Canfu ymchwil y gall pobl hŷn ei chael hi'n anodd oherwydd diffyg gwybodaeth am eiconau digidol. Mewn ymateb i hyn, cefnogodd y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia gynhyrchu llyfr eicon sy'n rhoi mewnwelediadau i beth yw eiconau a beth maen nhw'n ei olygu.

Bydd y llyfr, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, CHERISH-ED, Y Brifysgol Agored, Ymchwil Iechyd a Llesiant Prifysgol Northumbria, Digital Voice for Communities a Chymunedau Digidol Cymru, yn helpu i oresgyn rhwystrau sy'n cael effaith negyddol ar y ffordd mae pobl hŷn yn defnyddio technoleg.

Datblygu polisi ac arfer COVID-19 yng Nghymru

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi adolygu tystiolaeth COVID-19 ar orchuddion wyneb, atal heintiau ac ecwiti brechlynnau.

Defnyddiwyd yr adolygiadau hyn i ddatblygu polisi ac arfer COVID-19 yng Nghymru, gan gynnwys symud Cymru i Lefel Rhybudd 0 ym mis Gorffennaf 2021. Mae'r Ganolfan hefyd wedi darparu tystiolaeth i ddangos y dylai gorchuddion wyneb, ynghyd â hylendid dwylo, pellhau cymdeithasol ac awyru fod yn elfennau allweddol o'r strategaeth i reoli effaith COVID-19.

Ochr yn ochr â'r astudiaethau hyn, mae cyfoeth o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol anhygoel wedi digwydd ledled Cymru eleni. I gael gwybodaeth gyfredol ar yr holl ymchwil sy'n newid bywyd y gallech fod wedi'i fethu, ymwelwch â'n tudalennau newyddion, a thanysgrifiwch i'n bwletin ymchwilwyr neu’r bwletin cyhoeddus i sicrhau nad ydych yn methu dim yn 2022.