Gweinyddwr Cefnogi Aelodau - Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae cyfle secondiad unigryw a chyffrous am gyfnod penodol wedi codi i unigolyn eithriadol gael ei benodi fel Gweinyddwr Cefnogi Aelodau Band 4.

Mae hon yn swydd ran-amser (0.8 WTE) sydd ar gael fel contract cyfnod penodol neu secondiad am 2 flynedd. 

Os oes gennych ddiddordeb gwneud cais am y cyfle secondiad hwn, rhaid bod gennych ganiatâd gan eich rheolwr llinell gyfredol cyn gwneud cais am y swydd hon.

ydd y rôl hon yn addas i unigolyn hunan-ysgogol sy’n gallu gweithio ar ei liwt ei hun dan oruchwyliaeth a chyfeiriad cyffredinol gan y rheolwr llinell, ac arddangos lefel uchel o dacteg, diplomyddiaeth a deallusrwydd emosiynol.

Bydd y rôl hon yn gofyn am gydweithio ag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol, er yn bennaf gyda Chadeiryddion Pwyllgor Moeseg Ymchwil ac aelodau a staff o Weithrediadau Cymeradwyo.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd â lefelau sylweddol o weithdrefnau gweinyddol arferol gyda lefel uchel o sylw i fanylion a chywirdeb.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae’r prif ddyletswyddau fel a ganlyn:

  • Derbyn a rheoli gwybodaeth bersonol sensitif a chyfrinachol sy'n ymwneud â cheisiadau am aelodaeth o'r Pwyllgor Moeseg Ymchwil a chydlynu talu treuliau i aelodau gwirfoddol.
  • Cysylltu â Chadeiryddion y Pwyllgor Moeseg Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a staff yr Awdurdod Ymchwil Iechyd mewn perthynas â phaneli cyfweliadau.
  • Cyfathrebu â staff gweithrediadau, aelodau gwirfoddol a Chadeiryddion Pwyllgor Moeseg Ymchwil mewn perthynas â threfnu teithio, lleoliadau ac arlwyo yn ôl yr angen.
  • Cysylltu â'r tîm cyllid, aelodau a Chadeiryddion ynghylch treuliau.
  • Rhoi sylw craff i fanylion wrth baratoi a threfnu ystafelloedd cyfarfod gan gynnwys sefydlu offer VC ar ran staff swyddfa, aelodau gwirfoddol a rhanddeiliaid allanol
Contract type: Cyfnod Penodol: 2 flynedd (Penodol/Secondiad Cyflenenwi ar gyfer absenoldeb)
Hours: Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Salary: Band 4 - £26,928 - £29,551 per annum pro rata
Lleoliad: Caerdydd
Job reference:
070-AC160-1224
Closing date: