Woman in lab coat

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad sylweddol gwerth £49m mewn seilwaith ymchwil

28 Ionawr

Mae iechyd menywod, iechyd meddwl a thaclo canser ymhlith meysydd allweddol ar gyfer ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf, mewn cyhoeddiad cyllid sylweddol gwerth £49m gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru heddiw (27 Ionawr). 

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi cyllid Seilwaith Datblygu Ymchwil ar gyfer 17 o ganolfannau ymchwil ledled Cymru, gan gynnwys pum sefydliad newydd - Uned Firoleg Gymhwysol Cymru, Canolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, y Ganolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial, Ymchwil Iechyd Menywod Cymru a'r Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg. 

Mae'r buddsoddiad yn cynnwys cyllid ar gyfer canolfannau blaenllaw fel Cronfa Ddata SAIL, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, a Phartneriaeth CASCADE, a bydd yn hybu gallu academaidd a faint o ymchwil o ansawdd uchel sy'n digwydd yng Nghymru.  

Mae'r cyllid wedi'i ddyfarnu ar draws dau gategori - gwobrau cynaliadwyedd, ar gyfer grwpiau a ariennir ar hyn o bryd er mwyn cynnal modelau ymarfer effeithiol a chefnogi llwybr tuag at hunan-gynaliadwyedd, a dyfarniadau catalytig er mwyn hybu capasiti a gallu mewn meysydd o angen iechyd a gofal a chryfder ymchwil newydd Cymru sy'n dod i'r amlwg. 

Y rhestr lawn o ganolfannau a fydd yn derbyn arian yw:  

Cyllid Cynaliadwyedd

  • Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (£2,999,894)
  • Canolfan Ymchwil Canser Cymru (£4,866,172)
  • Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) (£4,551,338)
  • Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (£2,996,483)
  • Biofanc Canser Cymru (£2,363,320)
  • Economeg Iechyd a Gofal Cymru (£1,865,815)
  • Partneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (Partneriaeth CASCADE) (£2,999,636)
  • Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer Gwella Iechyd Cyhoeddus (DECIPHer) (£2,886,936)
  • Canolfan NiwroTherapïau Uwch (£2,856,309)
  • Uned Ymchwil Arennau Cymru (£2,984,527)
  • Canolfan Treialon Ymchwil (£4,742, 424)
  • Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol (£2,073,161)

  

Cyllid Catalytig

  • Uned Firoleg Gymhwysol Cymru (£3,000,000)   
  • Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed (£2,085,939)   
  • Canolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (£1,815,416)   
  • Ymchwil Iechyd Menywod Cymru (£3,013,936)
  • Canolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg (£1,746,729)   

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae gan ymchwil rôl hanfodol i'w chwarae wrth ein helpu i gyflawni ein nod o Gymru Iachach.  Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig mewn meysydd ymchwil newydd a chyffrous, gan gynnwys iechyd menywod; atal hunanladdiad a hunan-niweidio a DA - rwy'n gobeithio y bydd yn darparu tystiolaeth go iawn dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn helpu i lunio gwasanaethau a gofalu am bobl ledled Cymru."  

Dywedodd Michael Bowdery, Cyd-gyfarwyddwr Dros Dro yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phennaeth Isadran Rhaglenni, Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru:  "Mae'r cyhoeddiad hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith a ariennir yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac mae'n adlewyrchu ein huchelgais i ddatblygu gallu ymchwil sy'n cyd-fynd ag angen iechyd a chymdeithasol sydd heb ei ddiwallu mewn meysydd polisi allweddol. 

"Mae ein dull o ddarparu'r cyllid hwn yn seiliedig ar ddau faen prawf - yn gyntaf, lle mae angen ymchwil a thystiolaeth glir a chymhellol yn y maes ar gyfer Llywodraeth Cymru, y GIG a'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru; ac yn ail, lle mae gallu a chapasiti ymchwil cryf neu sy'n dod i'r amlwg yn yr ardal.   

"Mae'r canolfannau hyn yn ymgorffori'r egwyddor o ymchwil sydd â'r pŵer i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl, ac rydym yn falch o allu cefnogi eu gweithgarwch yn y maes hwn."