Dr Rachel Abbott

Dr Rachel Abbott

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG (2021 - 2024)

Teitl y prosiect: Use of peri-operative antibiotics with no antibiotics in people undergoing excision of ulcerated skin cancers


Bywgraffiad

Mae Dr Rachel Abbott yn ddermatolegydd ymgynghorol a llawfeddyg Mohs yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Cafodd ei chefnogi gan Ddyfarniad Amser Ymchwil y GIG 2021-4.

Ei phrif ddiddordeb ymchwil a chlinigol yw canser y croen. Mae hi wedi bod yn gyd-awdur ar sawl adolygiad Cochrane, wedi arwain astudiaeth aml-ganolfan arsylwadol i ymchwilio i heintiau yn safle’r llawdriniaeth mewn canserau croen wlseraidd (astudiaeth OASIS) ac wedi cydweithio gyda Dr Julie Peconi ym Mhrifysgol Abertawe ar yr astudiaeth 'Sunproofed'

Ar hyn o bryd mae hi'n Brif Ymchwilydd ar gyfer treial EXCISE: A ddylid rhagnodi gwrthfiotigau i gleifion yn ystod llawdriniaeth i drin canser y croen i atal haint?

Mae gan Rachel ddiddordeb hefyd mewn gofal iechyd cynaliadwy. Roedd hi'n Gadeirydd Is-bwyllgor Cynaliadwyedd Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain (2022-2024).


Darllen mwy am Rachel a’u gwaith:

Ysgolion cynradd yng Nghymru yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn astudiaeth diogelwch haul


 

Sefydliad

Consultant dermatologist and Mohs surgeon at Cardiff and Vale University Health Board

Cyswllt Rachel

Ffôn: 02920 743181

E-bost

Twitter

LinkedIn