Merched yn siarad â chynulleidfa mewn digwyddiad

Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “un o’r mentrau pwysicaf y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi’i sefydlu”

Fis Medi 2022, gwelwyd cyfarfod cyntaf y Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sydd newydd ei sefydlu. Daeth pawb at ei gilydd i ddysgu am y cynlluniau ar gyfer y fenter newydd ac i helpu i siapio’i datblygiad yn y dyfodol.

Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan groesawu’r aelodau a oedd wedi derbyn dyfarniadau cyllid personol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gynnwys Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG, ac Uwch Arweinwyr Ymchwil.

Meddai Kieran: “Mae’r Gyfadran yn un o’r mentrau pwysicaf y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi’i sefydlu dros y tair blynedd diwethaf. Mae’n cipio brwdfrydedd a diddordeb llawer o bobl ar draws ymchwil iechyd a gofal sydd a wnelo â datblygu gyrfaoedd, gallu a chapasiti ymchwil ac sy’n cefnogi hyn.”

“Dylai pobl gael mentoriaeth, cefnogaeth a chyfleoedd gwych i ddysgu a chael y cyngor sy’n caniatáu iddyn nhw ddatblygu. Rydyn ni’n gobeithio, trwy’r Gyfadran, y gallwn ni annog sylfaen eang o ddoniau ar draws y system iechyd a gofal a’r byd academaidd, a datblygu a chefnogi arweinwyr ymchwil yn y dyfodol.”

Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Sefydlwyd y Gyfadran o ganlyniad i argymhellion o adroddiad mis Chwefror 2022 Hyrwyddo gyrfaoedd mewn ymchwil: adolygiad o gyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae holl ddeiliaid dyfarniadau personol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n aelodau o’r Gyfadran a bydd yn:

  • Cydlynu a goruchwylio amrywiaeth o gynlluniau dyfarniadau ymchwil personol hynod hygyrch (ac wedi’u targedu lle bo angen) ar gyfer ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar draws cyfnodau gyrfaoedd a phroffesiynau
  • Cyhoeddi data ymchwilwyr am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a datblygu cynlluniau gweithredu i helpu i hwyluso cynrychiolaeth gyfartal o bob grŵp, ar draws cyfnodau gyrfaoedd a phroffesiynau, yn y boblogaeth ymchwilwyr yng Nghymru
  • Symud ymlaen â’r cyfleoedd dysgu, datblygu a mentora ar gyfer unigolion a chyfoedion sydd eu hangen ar ddeiliaid ein dyfarniadau iechyd a gofal cymdeithasol personol i hyrwyddo’u gyrfaoedd ymchwil
  • Meithrin rhyngweithio a rhwydweithio rhyngddisgyblaethol ar draws cymuned y gyfadran o ddeiliaid dyfarniadau iechyd a gofal cymdeithasol personol o bob cefndir a phob ardal o Gymru
  • Galluogi cyfleoedd ar gyfer rhannu ymchwil y gyfadran o ansawdd uchel gyda chymunedau perthnasol y DU a rhai rhyngwladol, â’r nod o gynyddu proffil ymchwil yng Nghymru a hybu cyfleoedd gyrfaoedd ymchwil yr ymchwilwyr eu hunain.

Adeiladu’r Gyfadran

Yn y digwyddiad, gwnaeth yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, roi trosolwg o’r Gyfadran a gofyn i’r mynychwyr helpu i siapio cyfeiriadau yn y dyfodol.

Bu Uwch Arweinwyr Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn hwyluso grwpiau bach y gofynnwyd iddyn nhw am eu barn ar yr hyn a oedd yn gweithio’n dda o ran gyrfaoedd ymchwil yng Nghymru a sut y gall y Gyfadran adeiladu ar gyfer y dyfodol.

Nododd y cyfranogion y gweithgareddau â blaenoriaeth allweddol ar gyfer Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru y dylid canolbwyntio arnyn nhw: “Hybu perthnasoedd ar draws y gymuned ymchwil” a “Darparu cefnogaeth gynaliadwy ar draws y llwybr gyrfa cyfan.” Awgrymodd y cyfranogion hefyd fod “Sefydlu rhwydweithiau a chydweithio y tu hwnt i Gymru yn bwysig iawn i aelodau.”

Pan ofynnwyd sut olwg fyddai ar Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru lwyddiannus, dywedodd aelodau y byddai’r Gyfadran i’w gweld “yn tyfu arweinwyr ymchwil y dyfodol, gan sicrhau mwy o gyfleoedd i hyfforddi a datblygu a galluogi rhwydweithio (gwir neu rithwir) a fyddai’n dod ag uwch ymchwilwyr/ ymchwilwyr iau ar draws gwahanol sefydliadau at ei gilydd i ofyn cwestiynau.”

Casglwyd barn cyfranogion gan ddefnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol ar-lein a bydd hyn yn hynod werthfawr i ddarparu sail ar gyfer y camau nesaf ar gyfer y Gyfadran, gan gynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf ym mis Rhagfyr. 

Er mwyn cael y newyddion diweddaraf am gyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Gyfadran, cofrestrwch i dderbyn bwletin wythnosol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â Chyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, anfonwch e-bost at dîm y Gyfadran.