Helpu i wneud yn siŵr bod ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn foesegol a theg
Beth am ymuno â Phwyllgor Moeseg Ymchwil (REC) i helpu i ddiogelu’r rheini sy’n cymryd rhan mewn ymchwil a datblygu sgiliau newydd i gefnogi’ch gyrfa?
Rydyn ni’n edrych am weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, yn enwedig meddygon, nyrsys a fferyllwyr, i helpu i adolygu ceisiadau ymchwil gan sicrhau eu bod yn foesegol a theg.
Fel aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil, gallwch chi ddweud eich dweud ynglŷn ag ymchwil sy’n edrych ar rai o’r heriau mwyaf rydyn ni’n eu hwynebu heddiw. O astudiaethau canser a dementia i COVID-19, mae aelodau pwyllgorau’n cyfrannu at wella bywydau pobl sy’n byw yng Nghymru a thu hwnt.
Meddai’r Athro Delyth James, sydd wedi bod yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil ers 2018: “Mae bod yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil GIG Cymru yn un o’r gweithgareddau mwyaf proffesiynol werth chweil dwi wedi cymryd rhan ynddo.”
“Dwi wedi dysgu cryn dipyn dros y blynyddoedd, yn enwedig ynglŷn â’r broses gydsynio a phwysigrwydd cynnwys cleifion a’r cyhoedd mewn ymchwil. Does dim amheuaeth bod ymuno â Phwyllgor Moeseg Ymchwil wedi bod o fudd i fy arfer fy hun fel ymchwilydd.”
Beth y mae’n galw amdano?
Bydd gofyn i aelodau:
- fynychu cyfarfodydd misol y Pwyllgor Moeseg Ymchwil yn rhithiol trwy Zoom. Mae aelodau’n mynychu o leiaf chwe chyfarfod y flwyddyn. Mae cyfarfodydd yn para am dair awr ac yn galw am dreulio tair i bedair awr yn darllen i baratoi ar eu cyfer.
- cymryd rhan mewn gwaith is-bwyllgor trwy e-bost. Mae hyn yn galw am adolygu ceisiadau heb unrhyw faterion moesegol neu adolygu diwygiadau i ymchwil sydd wedi’i chymeradwyo. Mae gwaith is-bwyllgor yn ychwanegol at gyfarfodydd y Pwyllgor Moeseg Ymchwil. Mae hyn fel rheol yn galw am gymryd rhan ryw ddwywaith neu deirgwaith y flwyddyn, gyda dwy awr o ddarllen ar gyfer pob un o gyfarfodydd yr is-bwyllgor.
- adolygu ceisiadau ymchwil a diwygiadau’n electronig trwy ein porth i aelodau neu e-bost.
- cymryd rhan mewn hyfforddiant cynefino cyn pen y chwe mis cyntaf o’ch penodi, hyfforddiant mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol cyn pen y flwyddyn gyntaf o’ch penodi ac yna o leiaf pedair awr o hyfforddiant yn ymwneud â moeseg ymchwil am bob blwyddyn fel aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil.
Yr hyn y byddwch chi’n ei ennill
Mae bod yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil yn rhoi llawer o sgiliau ichi sy’n gallu helpu yn eich gyrfa. Mae’r rhain yn cynnwys:
- dealltwriaeth o foeseg ymchwil
- gwybodaeth gynyddol o ymchwil, gan gynnwys methodoleg ac ystadegau
- dealltwriaeth o ddeddfwriaeth berthnasol
- gwybodaeth arbenigol, er enghraifft ymchwil bediatrig neu oedolion sy’n methu â chydsynio drostyn nhw eu hunain
- gwell sgiliau pwyllgor: crynhoi, dadlau, gwerthuso a gwneud penderfyniadau
Sut i gael eich cynnwys
Os hoffech chi ddod yn rhan o Bwyllgor Moeseg Ymchwil, gofynnwch am ffurflen gais. Wrth gwblhau eich cais, cyfeiriwch at fanyleb y person.
I anfon eich cais, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm cefnogi REC Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Gallwch chi hefyd weld rhagor o wybodaeth ar gyfer darpar aelodau, gan gynnwys cyfle cyfartal a’r polisi a’r weithdrefn recriwtio, ar wefan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd.