Llun o'r Bartneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal gydag enillwyr Gwobr Diwydiant a noddwyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Cydnabod tîm Caerdydd a'r Fro am wella profiad triniaeth i gleifion â methiant datblygedig y galon

13 Rhagfyr

Mae Gwasanaethau Gofal Cefnogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ennill Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal gyda Diwydiant, a noddir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yng Ngwobrau Arloesi MediWales eleni

Mae'r wobr yn cael ei rhoi i'r rhai hynny sydd wedi partneru â diwydiant i gyflawni prosiect sy'n dangos effaith gadarnhaol sylweddol ar iechyd, lles a/neu ffyniant pobl Cymru. 

Gweithiodd y tîm buddugol yn agos gyda Vygon, partneriaid yn y diwydiant, a fferylliaeth i ddatblygu a chyflwyno triniaeth drwytho gost-effeithiol, sy'n addas i ddefnyddwyr, sy'n canolbwyntio ar gleifion, a gyflwynir yn y gymuned ar gyfer cleifion â methiant datblygedig y galon (AHFPs).  

Mae'r bartneriaeth wedi helpu i wella profiad cleifion a gofalwyr, gan gefnogi cleifion i gael eu trin yn yr amgylchedd y maen nhw'n ei ffafrio, yn ogystal â gwella diogelwch, lleihau effeithiau amgylcheddol, a gostwng derbyniadau i'r ysbyty yn effeithiol.

Derbyniodd Dr Clea Atkinson, Meddyg Ymgynghorol mewn Gofal Cefnogol a Gofal Lliniarol, y wobr. 

Dywedodd Clea: "Rydym yn falch iawn bod ein gwaith yn cael ei gydnabod gan MediWales a’n bod wedi ennill y wobr hon. Bu’n ymdrech tîm sy’n dangos gwerth gweithio ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Caerdydd a phartneriaid yn y diwydiant, wrth gyfrannu at wella ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.  

"Mae'r dull hwn wedi osgoi nifer o dderbyniadau i'r ysbyty a chaniatáu i gleifion gael eu rheoli yn y lle y mae’n well ganddynt dderbyn gofal sef gartref. Edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu ein model gofal er budd llawer mwy o gleifion yn y dyfodol". 

Dywedodd Lydia Vitolo, Uwch Reolwr Diwydiant yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

"Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o fod yn bartner gwobr ar gyfer 'Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Diwydiant' yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2022. Diolchwn i bawb sydd wedi cyflwyno cais, mae'n wirioneddol ysbrydoledig darllen cymaint o enghreifftiau o ymchwil o ansawdd uchel sy’n digwydd ledled Cymru. 

"Rydym wedi gweld ceisiadau o safon eithriadol o uchel eleni; dylai Dr Atkinson a Dr John, yn ogystal â'u holl gydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, fod yn hynod falch o'u holl waith caled a'u cyflawniadau. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn edrych ymlaen at barhau i ddathlu'r ymchwil anhygoel ar iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl Cymru".  

I gael rhagor o wybodaeth am enillwyr eraill y seremoni wobrwyo, ewch I gwefan Mediwales