“Nid oes diben cynnal ymchwil os nad yw o fudd i'r cyhoedd”
Yn ddiweddar, ymunodd Pete Gee â thîm Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fel yr Uwch Reolwr Cynnwys y Cyhoedd newydd. Gydag ef, daw chwe blynedd o arbenigedd mewn helpu'r cyhoedd i fod yn rhan o ymchwil, angerdd dros roi llais i bawb, a'r gred na allai ymchwil ddigwydd heboch chi.
Llwyth o brofiad
“Cyn dod i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, bûm yn gweithio i Brifysgol Caerdydd, mewn nifer o ganolfannau ymchwil, gan gynnwys Uned Treialon Canser Cymru, Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie ac yn fwyaf diweddar y ganolfan ymchwil iechyd cyhoeddus, DECIPHer.
“Pan oeddwn yn DECIPHer, cefnogais y cyhoedd, gan eu helpu i fod yn rhan o ymchwil, rhoddais gyngor ac arweiniad i ymchwilwyr, a chynhaliais grwpiau ffocws gyda'r grŵp cynghori ieuenctid, ALPHA (Cyngor sy'n Arwain at Hyrwyddo Iechyd Cyhoeddus).
“Mae gallu cynnig cyfle i aelodau’r cyhoedd gael dweud eu dweud yn rhoi ymdeimlad gwirioneddol o falchder imi. Rwy’n teimlo cyffro ynghylch parhau â’r gwaith hwn i gynnig cyfleoedd newydd i bobl a allai fod yn meddwl nad oedd ymchwil yn rhywbeth iddyn nhw.”
Yn angerddol am gynnwys y cyhoedd
“Mae gan bawb yr hawl i ddweud eu dweud ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw. Bydd cael mwy o bobl o bob cefndir yn rhoi eu safbwynt yn rhoi darlun manylach i ni, a bydd ymchwilwyr yn gallu gofyn y cwestiynau y mae angen eu hateb.
“Gan weithio gydag ALPHA, rwyf wedi gweld pobl ifanc swil, tawel, dihyder yn ffynnu. Weithiau, byddent yn dod atom yn meddwl bod angen iddynt fod yn arbenigwyr mewn gwyddoniaeth, ond mae cael rhoi eu barn a newid y ffordd y cynhelir ymchwil yn eu helpu i ddod yn fwy hyderus, eglur ac angerddol.
“Yn ystod un cyfarfod, rhoddodd aelodau ALPHA adborth i ymchwilwyr ar brosiect am rieni yn taro eu plant. Cyflwynodd y grŵp rai pwyntiau gwych iawn ynghylch yr hyn a all newid pan y daw’r arfer yn anghyfreithlon yng Nghymru; cymerodd yr ymchwilwyr hyn i ystyriaeth, a'i ddefnyddio i helpu i lunio eu cais prosiect.
“Roedd yn werth chweil gweld pobl ifanc yn tyfu, gallu cyfleu eu pwyntiau a herio ymchwilwyr; nhw yw’r arbenigwyr o ran eu profiadau eu hunain.”
Lle fydden ni heb ymchwil?
“Lle yn wir fydden ni? Ni fyddai gennym y pethau sylfaenol fel paracetamol ac asbrin heb ymchwil. Ni fyddai fy nhad yma heb ymchwil, ni fyddai’n derbyn y gofal gwych y mae’n ei gael ar ôl ei strôc. Rydw i mor ddiolchgar i'r GIG am ofalu amdano, ac i ymchwilwyr am wneud y gofal hwnnw'n bosibl yn y lle cyntaf.
“Ni fyddai'r brechlyn COVID-19 yn bosibl heb ymchwil ychwaith, mae llawer o'r meddyginiaethau, y triniaethau a'r gofal a gawn trwy gydol ein bywydau oherwydd ymchwil. Rwy'n credu bod ymchwil yn hanfodol ac mae ei angen nawr yn fwy nag erioed i fynd i'r afael â'r holl broblemau y mae'r byd yn eu hwynebu ar hyn o bryd.”
Nid gwaith yw i gyd
“Rwy’n treulio llawer o fy amser y tu allan i’r gwaith yn gwneud gweithgareddau egnïol. Rwy'n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored, naill ai'n cerdded i fyny mynydd, nofio yn y môr, neu feicio trwy lonydd gwledig de Cymru – ond dim byd â gormod o fryniau! Yn fuan, hoffwn feicio ar hyd Cymru mewn diwrnod, gan gychwyn yng Nghaernarfon a gorffen yng Nghas-gwent, gydag amser am ddiod neu ddwy ar y diwedd.”