PharmaTimes International Clinical Researcher of the Year yn seremoni Gwobrau 2022

Enwebwch eich tîm ar gyfer Gwobrau Ymchwilydd Clinigol Rhyngwladol y Flwyddyn PharmaTimes

Mae Gwobrau Ymchwilydd Clinigol Rhyngwladol y Flwyddyn PharmaTimes bellach ar agor.

Gallwch enwebu eich hun neu eich tîm ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn, sy'n cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ar draws pob math o ymchwil clinigol.

Gwella enw da ymchwil Cymru

Mae’r gystadleuaeth yn cynnig cyfle unigryw i feincnodi sgiliau, derbyn adborth a chael cydnabyddiaeth broffesiynol gan uwch arweinwyr gweithrediadau clinigol a rhanddeiliaid – yn ogystal â gwella enw da ymchwil Cymru ar raddfa fyd-eang.

Ymhlith y categorïau mae Cydymaith Ymchwil Clinigol, Tîm Safle ac Arweinydd Tîm. Gallwch weld y rhestr lawn o gategorïau gwobrau ar y wefan gwobrau.

Rhaid i ymgeiswyr symud ymlaen trwy dri cham cyn i'r enillwyr cyffredinol gael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo gyffrous ym mis Mai. Mae pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn mentora ac adborth ar eu perfformiad, gyda'r enillwyr yn mynd â thlws gwych adref.

Arddangos eich gwaith

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i arddangos eich gwaith anhygoel. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 27 Ionawr 2023 gyda cham cyntaf y gystadleuaeth yn digwydd ym mis Mawrth 2023. Am fanylion llawn, gan gynnwys sut i gystadlu, ewch i'r wefan gwobrau.