Six pictures of ethics members

Helpu i ddiogelu’r rheini sy’n cymryd rhan mewn ymchwil - #CamuYmlaen er ymchwil foesegol

Gallwch chi helpu i wneud yn siŵr bod ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn foesegol a theg trwy ddod yn rhan o Bwyllgor Moeseg Ymchwil (REC).

Dyma’ch cyfle i ennill sgiliau newydd a dweud eich dweud ynglŷn â cheisiadau ymchwil i rai o’r heriau mwyaf rydyn ni’n eu hwynebu heddiw. O astudiaethau canser a dementia i COVID-19, mae aelodau pwyllgorau’n helpu i ddiogelu’r rheini sy’n cymryd rhan mewn ymchwil.

I ddod yn aelod, does dim angen ichi fod yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol; y cyfan sydd ei angen ydy bod yn frwd dros ymchwil a dyheu am gyfrannu at wella bywydau pobl sy’n byw yng Nghymru a thu hwnt.

Meddai Lara-Susan James, aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil yng Nghymru: “Mi benderfynais i ymgeisio i ymuno â phwyllgor moeseg ar ôl cymryd rhan mewn ymchwil fel nyrs a magu diddordeb mewn ymchwil. Mae bod yn aelod o REC yn caniatáu i mi barhau i ddefnyddio fy ngwybodaeth i eirioli dros gleifion a’r cyhoedd a’u helpu, hyd yn oed pan dydw i ddim yn gweithio’n uniongyrchol â nhw.

“Trwy gymryd rhan, dwi wedi dod i ddeall y broses ymchwil yn well ac wedi gweld bod yr amrywiaeth gyfoethog o wahanol safbwyntiau y mae aelodau eraill o’r pwyllgor wedi’u cyfrannu’n werthfawr iawn.”

Gall unrhyw un ymgeisio ond fe hoffen ni glywed yn arbennig oddi wrth weithwyr proffesiynol fel cyfreithwyr, ficeriaid, bargyfreithwyr, crwneriaid, cyfarwyddwyr eu busnesau eu hunain, yr heddlu ac athrawon.

Beth y mae’n galw amdano?

Bydd gofyn i aelodau:

  • fynychu cyfarfodydd misol y Pwyllgor Moeseg Ymchwil yn rhithiol trwy Zoom. Mae aelodau’n mynychu o leiaf chwe chyfarfod y flwyddyn. Mae cyfarfodydd yn para am dair awr ac yn galw am dreulio tair i bedair awr yn darllen i baratoi ar eu cyfer.
  • cymryd rhan mewn gwaith is-bwyllgor trwy e-bost. Mae hyn yn galw am adolygu ceisiadau heb unrhyw faterion moesegol neu adolygu diwygiadau i ymchwil sydd wedi’i chymeradwyo. Mae gwaith is-bwyllgor yn ychwanegol at gyfarfodydd y Pwyllgor Moeseg Ymchwil. Mae hyn fel rheol yn galw am gymryd rhan ryw ddwywaith neu deirgwaith y flwyddyn, gyda dwy awr o ddarllen ar gyfer pob un o gyfarfodydd yr is-bwyllgor.
  • adolygu ceisiadau ymchwil a diwygiadau’n electronig trwy ein porth i aelodau neu e-bost.
  • cymryd rhan mewn hyfforddiant cynefino cyn pen y chwe mis cyntaf o’ch penodi, hyfforddiant mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol cyn pen y flwyddyn gyntaf o’ch penodi ac yna o leiaf pedair awr o hyfforddiant yn ymwneud â moeseg ymchwil am bob blwyddyn fel aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil.

Yr hyn y byddwch chi’n ei ennill

Mae bod yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil yn rhoi llawer o sgiliau ichi sy’n gallu helpu yn eich gyrfa. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dealltwriaeth o foeseg ymchwil
  • gwybodaeth gynyddol o ymchwil, gan gynnwys methodoleg ac ystadegau
  • dealltwriaeth o ddeddfwriaeth berthnasol
  • gwybodaeth arbenigol, er enghraifft ymchwil bediatrig neu oedolion sy’n methu â chydsynio drostyn nhw eu hunain
  • gwell sgiliau pwyllgor: crynhoi, dadlau, gwerthuso a gwneud penderfyniadau

Sut i gael eich cynnwys

Os hoffech chi ddod yn rhan o Bwyllgor Moeseg Ymchwil, gofynnwch am ffurflen gais. Wrth gwblhau eich cais, cyfeiriwch at fanyleb y person.

I anfon eich cais, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm cefnogi REC Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Gallwch chi hefyd weld rhagor o wybodaeth ar gyfer darpar aelodau, gan gynnwys cyfle cyfartal a’r polisi a’r weithdrefn recriwtio, ar wefan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd.