Swyddog Ymchwil Clinigol Ronda Loosley

Staff ymchwil yn gweithio tuag at statws Ymarferydd Ymchwil Glinigol ledled Cymru

I ddathlu’r wythnos hon (18-24 Gorffennaf) sydd wedi’i chysegru i Ymarferwyr Ymchwil Glinigol, rydyn ni’n sgwrsio â staff ymchwil ledled Cymru sy’n gweithio tuag at y cofrestriad hwn sydd â’r nod o wella hunaniaeth broffesiynol staff cyflenwi ymchwil, gan ddarparu llwybr gyrfa clir.

Mae Ronda Loosley, Swyddog Ymchwil Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn siarad am ei phrofiad. Meddai:

Rydw i wedi gweithio ym maes ymchwil am lawer o flynyddoedd fel Cynorthwyydd Ymchwil, yn sefydlu treialon clinigol ac nawr, yn fwy diweddar, yn gweithio gyda’r cleifion yn fy rôl Swyddog Ymchwil Glinigol newydd, yn helpu i hwyluso rhywfaint o’r ymchwil fwyaf rhyfeddol sy’n mynd rhagddi yng Nghymru.

Roeddwn i eisiau gweithio tuag at y cofrestriad hwn fel ffordd o ddilysu fy rôl. Rydw i’n gwybod mai finnau a’r tîm yn yr adran ydy’r rhai sy’n arbenigo mewn cyflenwi ymchwil ac mae cael achrediad a theitl yn rhoi cydnabyddiaeth broffesiynol i ni ymhlith ein cyfoedion.

Er mwyn dod yn Ymarferydd Ymchwil Glinigol, mae staff ymchwil yn cwblhau cyfres o gymwyseddau sgiliau craidd ar sail anghenion astudiaethau unigol, a sicrhau diogelwch cleifion mewn treialon clinigol.

Mae mam dau o blant, Ronda, 43 oed o Aberystwyth, yn parhau:

Mae gweithio tuag at y gydnabyddiaeth hon wedi ailgynnau fy nghariad at ddysgu ac rydw i nawr yn mynd i fynd yn ôl i’r brifysgol i astudio gradd Meistr ran-amser mewn Ymchwil Glinigol gyda Phrifysgol Caerdydd.

Nawr bod fy mhlant yn hŷn, rydw i’n gallu canolbwyntio ar ddatblygu fy ngyrfa fy hun, ond mae hyn yn golygu y bydda’ i’n astudio ar yr un pryd ag y mae fy merch ieuengaf yn gwneud ei TGAU; rydw i wedi awgrymu nosweithiau astudio gyda’n gilydd ond dydw i ddim yn siŵr pa mor dda y bydd hynny’n gweithio!”

Meddai Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae Ymarferwyr Ymchwil Glinigol yn rhan hanfodol o’n gweithlu ymchwil, gan gynorthwyo â chyflenwi ymchwil glinigol dra-effeithiol, o ansawdd uchel. Mae’r cynllun achredu’n helpu i gynyddu statws Ymarferwyr  Ymchwil Glinigol proffesiynol, i gydnabod eu cyfraniadau ac i sicrhau eu bod yn cael yr un datblygiad proffesiynol a gweithwyr proffesiynol cydnabyddedig eraill. Pleser o’r mwyaf yw gweld Sean yn derbyn yr achrediad cofrestredig cyntaf yng Nghymru a mwy o Ymarferwyr Ymchwil Glinigol yn gweithio tuag at yr achrediad hwn.”

Mae’r cynllun achredu wedi’i lansio gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, mewn partneriaeth â Rhaglen Cofrestri Achrededig yr Academi Gwyddorau Gofal Iechyd, ac mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi’i gydnabod. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddechrau’ch siwrnai, ewch i wefan NIHR a sgwrsio â’ch rheolwr llinell neu, os ydych chi’n gweithio tuag at ddod yn Ymarferydd Ymchwil Glinigol, dilynwch y sgwrs ar Twitter gan ddefnyddio #YmarferyddYG