Staff ymchwil yn gweithio tuag at statws Ymarferydd Ymchwil Glinigol ledled Cymru
I ddathlu’r wythnos hon (18-24 Gorffennaf) sydd wedi’i chysegru i Ymarferwyr Ymchwil Glinigol, rydyn ni’n sgwrsio â staff ymchwil ledled Cymru sy’n gweithio tuag at y cofrestriad achrededig hwn sydd â’r nod o wella hunaniaeth broffesiynol staff cyflenwi ymchwil, gan ddarparu llwybr gyrfa clir.
Mae Lucy Hill, Uwch Swyddog Ymchwil Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn siarad am ei phrofiad.
Dechreuodd Lucy, 32 oed o Ffos Las, yn wreiddiol o Weston-Super-Mare, ei gyrfa fel ymchwilydd ond mae hi wedi symud i rôl gyflenwi sy’n galw am weithio’n agosach â’r cleifion. Mae hi ar ddechrau ei siwrnai Ymarferydd Ymchwil Glinigol, ac meddai:
Rydw i wedi gweithio ym maes ymchwil am lawer o flynyddoedd ond roeddwn ni bob amser yn teimlo nad oedd hi mor hawdd diffinio ein rôl ni â rolau mwy traddodiadol.
Rydyn ni newydd agor ein canolfan ymchwil glinigol newydd sbon yn Ysbyty Glangwili a bydd gweithio tuag at y cofrestriad achrededig hwn yn helpu i ddiffinio fy rôl a rhoi hunaniaeth adnabyddadwy a fydd yn cydweddu i’r proffesiwn ymchwil glinigol.
Rydyn ni’n gweithio ar rai astudiaethau rhyfeddol yma, yn amrywio o ymchwil i heintiau clwyfau llawfeddygol, a thriniaethau COVID i astudiaethau iechyd meddwl ac iechyd menywod, a bob dydd rydw i’n cael fy syfrdanu gan ba mor barod ydy’r cleifion i helpu i wella triniaeth a gofal yn y dyfodol – dyna pam ein bod ni’n gwneud beth rydyn ni’n ei wneud.”
Meddai Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Mae Ymarferwyr Ymchwil Glinigol yn rhan hanfodol o’n gweithlu ymchwil, gan gynorthwyo â chyflenwi ymchwil glinigol dra-effeithiol, o ansawdd uchel. Mae’r cynllun achredu’n helpu i gynyddu statws Ymarferwyr Ymchwil Glinigol proffesiynol, i gydnabod eu cyfraniadau ac i sicrhau eu bod yn cael yr un datblygiad proffesiynol â gweithwyr proffesiynol cydnabyddedig eraill. Pleser o’r mwyaf yw gweld Sean yn derbyn yr achrediad cofrestredig cyntaf yng Nghymru a mwy o Ymarferwyr Ymchwil Glinigol yn gweithio tuag at yr achrediad hwn.”
Mae’r cynllun achredu wedi’i lansio gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, mewn partneriaeth â Rhaglen Cofrestri Achrededig yr Academi Gwyddorau Gofal Iechyd, ac mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi’i gydnabod.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddechrau’ch siwrnai, ewch i wefan NIHR a sgwrsio â’ch rheolwr llinell neu, os ydych chi’n gweithio tuag at ddod yn Ymarferydd Ymchwil Glinigol, dilynwch y sgwrs ar Twitter gan ddefnyddio #YmarferyddYG