Researcher looking into a microscope

Ymunwch â Crwsibl Cymru - chwilio am arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru

Ymgeisiwch nawr i ymuno â Crwsibl Cymru, sef cyfres o weithdai preswyl arobryn sy’n cefnogi datblygiad personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.

Bob blwyddyn, mae 30 o ymchwilwyr yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn cyfres o ‘labordai sgiliau’. Mae’r labordai’n cynnig y cyfle i archwilio sut y gallwch chi elwa o weithio gydag ymchwilwyr mewn disgyblaethau eraill, sut y gall eich ymchwil gael mwy o effaith a sut y gallech chi adeiladu gyrfa ymchwil ryngwladol.

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Gall Crwsibl Cymru eich helpu i:

Adeiladu rhwydweithiau - drwy eich helpu i ddatblygu rhwydwaith agos o gyfoedion o’r un anian a meithrin cysylltiadau â Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r cyfryngau Cymreig.

Creu cydweithrediadau - trwy eich helpu i ddysgu am feysydd ymchwil newydd i hwyluso datblygiad personol a gyrfa ac i ddangos manteision cydweithredu ymchwil.

Gwella eich proffil proffesiynol - trwy eich helpu i ddatblygu'r hyder i gyfathrebu'ch ymchwil i'r cynulleidfaoedd perthnasol, gan sicrhau bod eich ymchwil yn fwy amlwg ac yn cael effaith.

Lle?

Bydd Crwsibl Cymru 2023 yn cael ei gynnal dros dri gweithdy deuddydd yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, sesiynau sgiliau rhyngweithiol a thrafodaethau anffurfiol. Telir holl gostau’r rhaglen ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus, a bydd gofyn iddynt fynychu pob un o’r sesiynau preswyl canlynol:

  • 18 – 19 Mai yng Nghaerdydd (cynhelir gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd)
  • 8 - 9 Mehefin yn Aberystwyth (cynhelir gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor)
  • 13 - 14 Gorffennaf yn Abertawe (cynhelir gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru)

Sut ydw i’n ymgeisio?

Gwahoddir ceisiadau gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i ganol eu gyrfa mewn unrhyw ddisgyblaeth, gydag o leiaf tair blynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethuriaeth (neu gyfwerth). Dylai ymgeiswyr fod wedi'u lleoli yng Nghymru ac yn gweithio naill ai mewn prifysgol bartner neu mewn ymchwil a datblygu mewn busnes, diwydiant neu'r sector cyhoeddus neu'r trydydd sector.

Ymgeisiwch ar wefan Crwsibl Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Chwefror 2023.