Gweminar y Gyfadran: Myfyrdodau ar fy Nghymrodoriaeth Ddoethurol a fy nhaith Dyfarniad Camau Nesaf gyda Dr Tim Pickles
Bydd Tim yn rhannu ei fyfyrdodau ar sut mae ei yrfa wedi newid a thyfu o ganlyniad i ddyfarniadau cyllid personol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru y mae wedi'u hennill. Yn 2019, derbyniodd Gymrodoriaeth Doethuriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru/NIHR, ac yn fwy diweddar cafodd hefyd Ddyfarniad Camau Nesaf Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae Tim Pickles yn gweithio yn y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd fel Cymrawd Ymchwil mewn Ystadegau. Cafodd Gymrodoriaeth Doethuriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru / NIHR yn 2019 i gwblhau PhD ar seicometreg, mesurau canlyniadau a adroddwyd gan gleifion (PROMs), damcaniaeth mesur Rasch a phrawf ymaddasol cyfrifiadurol ym maes Gweithgarwch Clefyd Arthritis Gwynegol (yr astudiaeth SOCRATES).
Mae hefyd wedi ennill Dyfarniad Camau Nesaf Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i barhau â'r ymchwil o'i PhD, a alwyd yn astudiaeth PLAN-HERACLES.
Tan 2019, roedd ei waith yn y Ganolfan Ymchwil Treialon yn ymwneud yn bennaf â bod yn ystadegydd ar dreialon clinigol lluosog a gwahanol, ar draws llawer o ddisgyblaethau amrywiol. Mae hefyd wedi gweithio yng Nghanolfan Trin a Gwerthuso Arthritis Arbrofol Rhanbarthol Caerdydd (CREATE) ac yn yr Ysgol Ddeintyddiaeth.
Yn 2019 cymerodd ran yn y Crucible GW4 ar Arloesi Digidol a derbyniodd gyllid sbarduno ar gyfer astudiaeth GW4-PATH.
Cyflwynwch eich cwestiwn i Tim ei ateb yn ystod y weminar.