Pete Gee presenting to a group of the public

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd

Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd, 9 Gorffennaf 2025 – 10:00:11:30 

Byddwn yn lansio Darganfod Eich Rôl 2.0 – y fersiwn newydd o'n menter genedlaethol sy'n cefnogi ac yn grymuso ymchwilwyr ac aelodau o'r cyhoedd i gyfrannu at ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn datgelu ein gweledigaeth ar gyfer y cam nesaf a sut y gallwch chi gymryd rhan. 

Byddwch yn clywed gan ein tîm am y tri maes ffocws cychwynnol a fydd yn llywio ein hymdrechion cynnwys y cyhoedd yn ystod y misoedd nesaf:

Maes ffocws 1 – Adnoddau

Byddwn yn archwilio strategaethau arloesol a modelau ymarferol ar gyfer gwella’r ffordd y mae adnoddau yn cael eu dyrannu a'u defnyddio i gefnogi cynnwys y cyhoedd yn ystyrlon. Mae hyn yn cynnwys sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen, lle hoffem i aelodau cyhoeddus lunio a dylanwadu ar y cyfeiriad.

Maes ffocws 2 – Cynhwysiant

Y flaenoriaeth yw ehangu cyfranogiad trwy ymgysylltu ag unigolion o gymunedau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol. Byddwn yn trafod cynlluniau i gynyddu amrywiaeth ymhlith cyfranwyr cyhoeddus a sicrhau bod arferion cynhwysol yn cael eu hymgorffori trwy gydol y broses ymchwil.

Maes ffocws 7 – Gwerthuso Darganfod Eich Rôl

Byddwn yn cyflwyno ein fframwaith gwerthuso cynhwysfawr newydd sydd wedi'i gynllunio i asesu canlyniadau, cyrhaeddiad ac effaith hirdymor y fenter Darganfod Eich Rôl.

Mae'r Fforwm hwn yn lle ar gyfer deialog agored, dysgu ar y cyd, a chydweithio. P'un a ydych chi'n gyfrannwr cyhoeddus profiadol, yn ymchwilydd, neu'n gyfranogwr newydd, mae eich llais yn bwysig.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu a gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod cynnwys y cyhoedd yng Nghymru yn gynhwysol, yn effeithiol ac yn ystyrlon.

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei rhedeg gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, os oes gennych unrhyw gwestiynau, plîs cysylltwch â'r tîm.

-

Online