
WelshConfed25: Welsh NHS Confederation annual conference and exhibition
Mae WelshConfed25 yn dod ag arweinwyr iechyd a gofal a'u timau at ei gilydd yn un o'r cynadleddau iechyd a gofal mwyaf yng Nghymru, gyda chyfleoedd i rwydweithio gydag arweinwyr a rheolwyr sydd â'r gallu i arwain a gyrru newid mewn iechyd a gofal cymdeithasol, mynychu Trafodaethau Llawn a gweithdai rhyngweithiol.
Drwy fynychu WelshConfed25 byddwch:
- yn clywed gan arweinwyr sy'n ysbrydoli meddwl o bob rhan o'r sector iechyd a gofal a thu hwnt
- yn cael mynediad at sesiynau diddorol ar faterion allweddol a datblygiadau pwysig ym maes iechyd a gofal, rhannu dysgu ac arfer gorau
- yn rhwydweithio gyda'ch cyfoedion a chreu cysylltiadau newydd
- yn gadael wedi eich ysbrydoli gyda syniadau y gallwch eu mabwysiadu a'u haddasu yn eich sefydliad.
Mae’r rhaglen yn llawn sesiynau ysbrydoledig ar iechyd meddwl, ymchwil, atal eilaidd, gweithio mewn partneriaeth gydweithredol, arloesi canser, digidol a data, gofalwyr, cynaliadwyedd, y gweithlu ac arweinyddiaeth, y GIG a’r economi a mwy!
Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cymryd rhan weithredol yn WelshConfed25, gyda stondin arddangos a sesiwn drafod bwrpasol. Ein sesiwn, o'r enw "Sut bydd buddsoddiad diweddar mewn cyflwyno ymchwil fasnachol yn gwella canlyniadau cleifion?", yn dod ag arweinwyr y GIG, clinigwyr a phartneriaid yn y diwydiant at ei gilydd i arddangos sut mae buddsoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru a'r DU yn cryfhau cyflenwi ymchwil, gwella canlyniadau cleifion a gyrru effeithlonrwydd ledled Cymru.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â stondin Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn y digwyddiad a sgwrsio â'n cynrychiolwyr am fuddsoddiadau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Darganfyddwch fwy am y digwyddiad.
Trefnir y digwyddiad hwn gan Gydffederasiwn y GIG. Cysylltwch â'r tîm gydag unrhyw gwestiynau.
Pris: o £100