Dyfarnu bron i £6.5 miliwn i ymchwil achub bywyd yng Nghymru
5 Hydref
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi derbynwyr ei ddyfarniadau galwadau cyllido 2020-21, gyda buddsoddiadau allweddol yn ymchwilio i bynciau o bolisïau diogelwch haul mewn ysgolion cynradd i effaith COVID-19 ar bobl ag epilepsi.
O ganlyniad i'r galwadau cyllido a lansiwyd y llynedd, rhoddwyd 23 o ddyfarniadau cyllido newydd, gyda gwerth oes cyfun o dros £6.3miliwn.
Ariannu prosiectau ymchwil o ansawdd uchel
Roedd pedwar cynllun grant ar gael:
- Cymrodoriaethau Ymchwil Gofal Cymdeithasol
- Grantiau Ymchwil Iechyd
- Ymchwil er Budd Cleifion a'r Cyhoedd
- Efrydiaethau PhD Gofal Cymdeithasol
Mae'r cynlluniau'n cynnig lefelau amrywiol o gefnogaeth er mwyn mynd i'r afael â gwahanol anghenion ymchwil. Er enghraifft, mae'r Cynllun Cyllido Ymchwil: Grantiau Ymchwil Iechyd yn cefnogi prosiectau ymchwil o ansawdd uchel sy'n berthnasol i anghenion iechyd a llesiant, ac mae'r Cymrodoriaethau Ymchwil Gofal Cymdeithasol yn cynnig cyfle i unigolion talentog ddod yn ymchwilwyr annibynnol.
Buddsoddi mewn talent Cymreig
Yn ogystal â'r cynlluniau grant, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd wedi ariannu un wobr Cymrodoriaeth a dwy wobr Cymrodoriaeth Uwch yn dilyn ceisiadau llwyddiannus gan ymchwilwyr o Gymru, Leigh Sanyaolu, Victoria Shepherd a Claudia Metzler-Baddeley i'r Rhaglen Gymrodoriaeth Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd cystadleuol (NIHR). Mae'r dyfarniadau hyn yn gwneud cyfanswm o £2m o fuddsoddiad ychwanegol, ac yn gosod Cymru fel canolbwynt ymchwil sy'n newid bywydau yn y DU.
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Fel bob amser, roedd safon y ceisiadau yn uchel iawn eleni. Rydym yn falch o'r ystod o feysydd pwnc pwysig y mae'r dyfarniadau hyn yn eu cynnwys, gan gynnwys ymchwiliadau i effaith pandemig COVID-19 mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae buddsoddi mewn ymchwil a'n hymchwilwyr yn hanfodol i'n nod, sef hybu iechyd a ffyniant pobl Cymru.”
Mae rhestr lawn o ddyfarniadau a derbynwyr cyllid isod:
Cymrodoriaethau Ymchwil Gofal Cymdeithasol
Yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar unigolion talentog i ddod yn ymchwilwyr annibynnol wrth ymgymryd â phrosiectau ymchwil o ansawdd uchel sydd o fudd i ofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Dr Helen Hodges, Prifysgol Caerdydd
Cysylltu data arolwg a gweinyddol i wella dealltwriaeth o ymddygiadau peryglus a ffactorau amddiffynnol posibl mewn plant sy'n derbyn gofal cymdeithasol: Astudiaeth ddichonoldeb
- Dr Simon Read, Prifysgol Abertawe
Pennu Arfer Gofal Cymdeithasol Ataliol Gorau yng Nghyd-destunau Pobl Hŷn sy'n Derbyn Gofal a Chefnogaeth yn y Cartref a'r Rhai sy'n Byw â Dementia
- Dr Phillip Smith, Prifysgol Caerdydd
Gadael uned atgyfeirio disgyblion: Archwilio'r trawsnewidiadau a'r cyrchfannau gofal ôl-16 a brofir gan bobl ifanc ledled Cymru
- Dr Sarah Thompson, Prifysgol Caerdydd
Sut allwn ni wella profiadau a chanlyniadau plant awtistig mewn gofal? Astudiaeth dulliau cymysg o anghenion, gwasanaethau ac arfer da
Cynllun Cyllido Ymchwil: Grantiau Ymchwil Iechyd
Cefnogi prosiectau ymchwil o ansawdd uchel sy'n amlwg yn berthnasol i angen iechyd a llesiant a/neu drefnu a darparu gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.
- Mark Davies, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Defnyddio dysgu peiriant i ragfynegi esblygiad ac ymateb is-glôn yn ystod cemotherapi
- Rachel Errington, Prifysgol Caerdydd
Oncoleg fanwl: Dull newydd o fodelu niwroblastoma a thriniaeth benodol wrth i'w annormaleddau genetig sylfaenol newid yn ystod triniaeth claf
- Richard Fry, Prifysgol Abertawe
Mapio smotiau oer y gwasanaeth o gyfnodau clo COVID-19
- Lim Jones, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Epidemioleg ac effaith heintiau eilaidd bacteriol ac ymwrthedd gwrthficrobaidd ar Ofal Dwys yn ystod pandemig SARS-CoV-2
- Mari Jones, Prifysgol Abertawe
Dysgu o reolaeth genedlaethol y pandemig: Effaith economaidd iechyd COVID-19 ar ofal a chefnogaeth i bobl dros 65 oed
- Julie Peconi, Prifysgol Abertawe
Diogelu Rhag yr Haul: Gwerthusiad dulliau cymysg o bolisïau diogelwch haul mewn ysgolion cynradd yng Nghymru
- William Pickrell, Prifysgol Abertawe
Effaith COVID-19 ar gydraddoldeb iechyd a marwolaeth mewn pobl ag epilepsi yng Nghymru
- Rebecca Thomas, Prifysgol Abertawe
Effaith rhoi’r gorau i sgrinio ar gyfer clefyd llygaid diabetig ar bobl â diabetes yn ystod y pandemig COVID-19
- Joanna Zabkiewicz, Prifysgol Caerdydd
Archwilio ffitrwydd celloedd imiwnedd i bennu ymateb cleifion i therapi T-Cell Derbynnydd Antigen Chimerig (CAR)
Ymchwil er Budd Cleifion a'r Cyhoedd (RfPPB) Cymru
Cyllido ymchwil yn ymwneud ag arfer y gwasanaeth iechyd o ddydd i ddydd, gyda budd i'r claf a'r cyhoedd wedi'i ddiffinio'n glir.
- Ceri Battle, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Effeithlonrwydd clinigol a chost-effeithiol rhaglen ymarfer corff gynnar ar boen cronig ac ansawdd bywyd sy'n gysylltiedig ag iechyd yn dilyn trawma pŵl ar wal y frest: Treial rheoledig cyfochrog ar hap (treial ELECT2)
- Kate Button, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Astudiaeth ddichonoldeb reoledig ar hap o ymyrraeth ffisiotherapi digidol cyhyrysgerbydol TRAK ar gyfer unigolion â phoen cyhyrysgerbydol
- Simon Noble, Aneurin Bevan University Health Board
Astudiaeth Canfod Thrombosis Gwythiennau Dwfn Ysbyty mewn Cleifion Canser sy'n Derbyn Gofal Lliniarol (HIDDEN 2)
- Dr Gareth Roberts, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Protocol ar gyfer Gwerthusiad Realistig a Chymdeithasol ar Fuddsoddiad o'r defnydd o Ganlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion yn y Rhaglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth
Cymrodoriaeth NIHR Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Cefnogi unigolion ar eu taflwybr i ddod yn arweinwyr y dyfodol mewn ymchwil. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ymgymryd ag ariannu a rheoli ceisiadau llwyddiannus i Raglen Gymrodoriaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR).
Cymrodoriaeth Uwch:
- Victoria Shepherd, Prifysgol Caerdydd
Penderfynu ar ymchwil i eraill: astudiaeth ddichonoldeb a threial effeithiolrwydd ymyrraeth cefnogi penderfyniad newydd ar gyfer ymgyngoreion a chynrychiolwyr cyfreithiol oedolion sydd heb allu i gydsynio (CONSULT)
- Claudia Metzler-Baddeley, Prifysgol Caerdydd
Datblygiad a dichonoldeb astudiaeth beilot reoledig ar hap o HD-DRUM - ap hyfforddi dilyniant modur newydd ar gyfer pobl â chlefyd Huntington
Cymrodoriaeth:
- Leigh Sanyaolu, Prifysgol Caerdydd
Gwella Defnydd Gwrthfiotig Proffylactig ar gyfer haint Tract wrinol rheolaidd (IMPART): astudiaeth dulliau cymysg i fynd i'r afael â bylchau mewn tystiolaeth a datblygu cymorth penderfynu)
Efrydiaethau PhD Gofal Cymdeithasol
Cefnogi meithrin capasiti mewn ymchwil gofal cymdeithasol trwy gynnig cyfle i unigolion talentog ymgymryd ag ymchwil ac astudio gan arwain at Geisiadau PhD i ddod gan oruchwylwyr PhD arfaethedig.
- Mark Davies/Carolyn Wallace, Prifysgol De Cymru
Datblygu Pecyn Hyfforddi ar gyfer Gweithwyr Cyswllt yng Nghymru gan ddefnyddio Dull Realaidd
- Rachel Rahman, Prifysgol Aberystwyth
Sut mae byw mewn ardaloedd gwledig yn cyfrannu at deimladau o unigrwydd mewn cymunedau gwledig amrywiol, a'r rôl y mae cymunedau'n ei chwarae wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol
- Fiona Wood, Prifysgol Caerdydd
Cynnwys preswylwyr cartrefi gofal mewn ymchwil: nodi rhwystrau a hwyluswyr a datblygu ymyrraeth i gynorthwyo preswylwyr i wneud penderfyniadau a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer ymchwil (Astudiaeth EN-GAGE)