Research nurse looking a sample in a vial

“Fe helpodd ni drwy daith anodd” - Etifeddiaeth Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru

7 Gorffennaf

Yr wythnos hon, mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi cyhoeddi ei hadroddiad terfynol yn arddangos dwy flynedd o waith a helpodd gweinidogion i wneud penderfyniadau iechyd a gofal cymdeithasol hanfodol yn ystod y pandemig.

Mae’r adroddiad “etifeddiaeth” yn trafod sut y bu i’r Ganolfan, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fynd i’r afael â materion a oedd yn bwysig i’r cyhoedd, gan chwarae rhan hanfodol mewn sicrhau ymchwil COVID-19, a lywiodd sut yr ymdriniwyd â’r pandemig yng Nghymru, ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol i'r boblogaeth.

Roedd aelodau’r cyhoedd yn hanfodol i waith y Ganolfan, gyda’r adroddiad yn amlygu sut mae’r cyhoedd wedi cefnogi creu adolygiadau tystiolaeth ac astudiaethau ymchwil newydd drwy roi eu barn ar flaenoriaethau ymchwil ac ysgrifennu crynodebau adroddiadau hawdd eu deall.

Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae ymchwil wyddonol a data yn arfau hanfodol i alluogi penderfyniadau gwybodus ynghylch sut rydym yn mynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf heriol.

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu darparu’r dystiolaeth orau sydd ar gael i gefnogi Llywodraeth Cymru, y GIG, gofal cymdeithasol ac eraill mewn da bryd i lywio’r penderfyniadau a wnaethant yn ystod y pandemig i’n helpu ni i gyd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe: “Fe wnaeth y Ganolfan ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gleifion a chymunedau yn ystod y pandemig. Rydym yn falch o fod wedi sefydlu ac ariannu’r Ganolfan.

“Roedd dod â’r pandemig i ben yn dibynnu’n sylfaenol ar ymchwil sy’n darparu atebion i ddiagnosis, triniaeth ac atal, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Athro Edwards a’i dîm am y gwaith a wnaed i fynd i’r afael â rhai o effeithiau pellgyrhaeddol COVID-19.”

Darparu tystiolaeth ymchwil

Ers ei lansio ym mis Mawrth 2021 i’w drawsnewid yn Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ym mis Ebrill 2023, mae’r Ganolfan wedi cyhoeddi 43 o adroddiadau yn crynhoi ymchwil ar bynciau megis effaith y pandemig ar addysg pobl ifanc, yr effaith ar iechyd meddwl ar weithwyr allweddol, a'r risg o drosglwyddo COVID-19 mewn cymunedau sydd wedi'u brechu.

Roedd adolygiad sylweddol, a gwblhawyd ym mlwyddyn gyntaf y Ganolfan, i effeithiolrwydd masgiau wyneb yn sail i gyngor Llywodraeth Cymru ynghylch parhau i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Trwy adolygiad ymchwil pwysig arall, darparodd y Ganolfan dystiolaeth am ddiogelwch brechlynnau yn ystod beichiogrwydd i gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei ymgyrch i annog menywod beichiog i gael y brechlyn ar ôl datgelu bod nifer y menywod beichiog sy’n cael y brechlyn yn isel, gan gyfrannu at fwy o dderbyniadau i’r ysbyty.

Dywedodd Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru: “mae cael Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn ei lle i dynnu'r ymchwil ynghyd wedi bod yn hollbwysig i Gymru. Mae'r Ganolfan wedi llywio trafodaethau tegwch ac wedi ein helpu ni drwy daith anodd … pan fyddaf yn meddwl am yr hyn a wnaeth y Ganolfan … credaf ei bod wedi rhagori. Mae'r gwaith maen nhw wedi'i wneud yn wych.”

Adeiladu ar lwyddiant

Dangosodd COVID-19 pa mor hanfodol yw tystiolaeth ymchwil i wneud penderfyniadau ar bob lefel ac mae angen i benderfyniadau am iechyd a gofal cymdeithasol ehangach hefyd gael eu llywio gan dystiolaeth gadarn. Yn dilyn ymlaen o gyflawniadau Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, bydd Canolfan Dystiolaeth newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu tystiolaeth hanfodol ar bynciau megis cyflyrau hirdymor, trais a cham-drin domestig a gofal cymdeithasol plant.

Parhaodd yr Athro Edwards: “gan adeiladu ar y profiad a’r sgiliau a ddatblygwyd yng Nghanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, nod y Ganolfan newydd yw sicrhau bod polisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn seiliedig ar y dystiolaeth orau bosibl.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn deall y ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud pethau, beth sydd orau i’r cyhoedd, cleifion, staff a beth yw’r gwerth gorau am arian. Mae’r dystiolaeth y gall y Ganolfan newydd ei darparu yn hanfodol.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer bwletin wythnosol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru