‘Sgwrs gyhoeddus’ newydd yn edrych ar adolygiad moeseg ar gyfer ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol
22 Mehefin
*Mae'r arolwg hwn bellach ar gau*
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) i lansio ‘sgwrs gyhoeddus’ am sut y gellid newid yr adolygiad moeseg ymchwil i’w wneud yn well i ymchwilwyr, aelodau’r pwyllgor moeseg a phobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil.
Dysgu o COVID-19
Gan ddysgu o adolygu ymchwil yn ystod pandemig COVID-19, mae’r Awdurdod yn chwilio am ymateb i’w syniadau ar gyfer gwneud adolygiad moeseg yn fwy arloesol ac effeithlon, wrth hefyd gadw ymddiriedaeth y cyhoedd.
Mae’r ymgynghoriad yn rhan o ‘Think Ethics’, menter a lansiwyd i’r gymuned ymchwil ym mis Medi 2021 ac sydd yn barod wedi gwneud newidiadau i wella ymchwil a sut mae’n cael ei hadolygu drwy:
-
gadw cyfarfodydd Pwyllgorau Moeseg Ymchwil ‘rhithiol’ a defnyddiwyd yn ystod y pandemig
-
denu grŵp mwy amrywiol o bobl i ddod yn aelodau o bwyllgorau a galluogi timau ymchwil i weithio’n agosach gyda phwyllgorau i wneud eu hymchwil yn fwy moesegol
-
datblygu polisi newydd i orfodi timau ymchwil i gynnwys cleifion a’r cyhoedd wrth ddatblygu gwybodaeth ar gyfer cyfranogwyr yr astudiaeth. Mae hyn yn rhan o bolisi newydd y byddwn yn ei gyflwyno i sicrhau bod gwybodaeth a roddir i gyfranogwyr astudiaeth yn hygyrch ac yn ddealladwy
-
ystyried barn y cyhoedd ar ymchwil foesegol, gan weithio gydag aelodau o’r cyhoedd i wybod beth maent yn ei werthfawrogi fwyaf a’r hyn y maent o’r farn bod ei angen arnynt i barhau i ymddiried mewn adolygiad moeseg
Mae eich barn chi yn bwysig
Bydd arolwg ar-lein – fydd yn cael ei gynnal ynghyd â chyfres o weithdai – yn archwilio tri newid posibl i’r ffyrdd y cynhelir adolygiad moeseg, sef:
-
cyflwyno offeryn i gefnogi ymchwilwyr i feddwl yn foesegol cyn iddynt gyflwyno eu hastudiaeth i’w hadolygu
-
defnyddio staff arbenigol Gwasanaeth Moeseg Ymchwil wrth adolygu ymchwil sydd â risg is, fydd yn creu amser i bwyllgorau ganolbwyntio ar ymchwil fwy cymhleth
-
dirprwyo adolygiad moeseg ar gyfer astudiaethau sydd o fewn rhaglen ymchwil i sefydliadau ymchwil, fydd yn lleihau biwrocratiaeth ar gyfer rhaglenni sydd eisoes â chymeradwyaeth foeseg
Gofynnir i gleifion, cyfranogwyr ymchwil, ymchwilwyr a sefydliadau sy’n goruchwylio ymchwil i lenwi arolwg ar-lein neu gymryd rhan mewn nifer o weithdai, ar-lein ac wyneb yn wyneb rhwng nawr a dydd Gwener 23 Medi.
Ailddiffinio’r ffordd yr ydym ni’n gweithio
Dywedodd Alex Newberry, Pennaeth Isadran Cynnwys y Cyhoedd, Ymchwil a Datblygu, Llywodraeth Cymru: “Yma yng Nghymru rydyn ni eisiau sicrhau bod pob prosiect ymchwil yn cael adolygiad moesegol fel bod buddiannau cyfranogwyr yn cael eu hystyried yn llawn a’i fod mor effeithiol â phosibl.”
“Rydym ni’n falch o gael aelodau o bwyllgor moeseg Cymru yn helpu ymchwilwyr a chyfranogwyr mewn ymchwil ar amrywiaeth o astudiaethau iechyd a chymdeithasol, fel ein cymheiriaid o bob rhan o’r DU, ac mae’r pandemig wedi dangos sut y gallwn ni ailddiffinio’r ffordd yr ydym ni’n gweithio.”
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi llwyfan gwych i rannu profiadau a syniadau ar sut y gallwn ni wneud arbedion wrth gynnal ansawdd a natur adolygiad moesegol er mwyn sicrhau ein bod yn ariannu ac yn cefnogi ymchwil yn gywir sydd o fudd nid yn unig i bobl yng Nghymru a’r DU ond ledled y byd.”
Moeseg a phobl wrth wraidd ymchwil
Mae’r Athro Andrew George, cyfarwyddwr anweithredol HRA, ymchwilydd canser a chyn-aelod o’r Pwyllgor Moeseg Ymchwil, wedi bod yn cadeirio grŵp cynghori arbennig i helpu i ddatblygu’r syniadau fydd yn cael eu trafod yn y sgwrs.
Dywedodd: “Ers lansio ‘Think Ethics’ ym mis Medi 2021, rydym wedi bod yn sgwrsio gydag amrywiaeth o bobl sydd â diddordeb, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd, am sut y gallai adolygiad moeseg newid er mwyn sicrhau bod moeseg a phobl wir wrth wraidd ymchwil.
Ymgynghorir hefyd â staff o Wasanaeth Moeseg Ymchwil y DU ac aelodau’r Pwyllgor Moeseg Ymchwil.
Mae’r Gwasanaeth Moeseg Ymchwil yn cynnwys 84 o Bwyllgorau Moeseg Ymchwil sydd ag enw da ledled y byd. Mae adolygu moeseg ymchwil yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn foesegol ac yn canolbwyntio ar bobl. Chwaraeodd ran hanfodol yn ymateb ymchwil i bandemig COVID-19, gan adolygu ymchwil i’r un safonau uchel mewn ffracsiwn o’r amser. Dangosodd y profiad hwn i ni y gallent adeiladu ar y sylfeini cadarn hynny i ddatblygu’r gwasanaeth gorau yn y byd.
“Rydyn ni eisiau clywed gennych chi”
Ychwanegodd Jonathan Fennelly-Barnwell: “Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. P’un ai ydych chi’n aelod o’r cyhoedd, yn aelod neu’n gyn-aelod o’r Pwyllgor Moeseg Ymchwil, staff sy’n ymwneud ag adolygu ymchwil, yn ymchwilydd, sefydliad ymchwil neu wedi cymryd rhan mewn astudiaeth, mae eich barn yn bwysig i ni.”
Cymryd rhan yn yr arolwg ar-lein sy’n cael ei gynnal o 13 Mehefin tan 23 Medi 2022.