Prosiect Dementia ac Amrywiaeth

Tair gwobr yn dathlu ymchwil fydd yn newid bywydau yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021

19 Hydref

Mae ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi’u gwobrwyo am eu gwaith fydd yn newid bywydau ym maes gwneud penderfyniadau ynghylch defnyddio gwrthfiotigau, lleihau gwaedlif ôl-enedigol a gwneud gwasanaethau dementia yn fwy cynhwysol.

Mae Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a gyflwynwyd yn y gynhadledd flynyddol, yn cydnabod cyflawniadau anhygoel cymuned ymchwil Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cyflwynwyd dau gategori newydd yng ngwobrau blynyddol eleni, y Wobr Effaith a Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol, ochr yn ochr â Gwobr Cynnwys y Cyhoedd.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Cyflawnwyd cymaint dros y 12 mis diwethaf, gydag ymchwilwyr o Gymru yn gwneud cyfraniadau sylweddol i sawl astudiaeth i frechlynnau COVID-19 a thriniaethau effeithiol. 

"Mae'r gwobrau hyn yn gyfle gwych i gydnabod yr ymdrechion anhygoel i gyflwyno tystiolaeth a fydd yn gwella bywydau pobl yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill, yn enwedig wrth i ni edrych y tu hwnt i'r pandemig. Diolch i bawb a ymunodd â'r gwobrau eleni a hefyd i'r paneli beirniadu am roi eu hamser a'u cyfraniadau gwerthfawr."

Gwobr Effaith 

Derbyniodd Dr Sarah Bell, anaesthetydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, y Wobr Effaith, ar ran prosiect Strategaeth Gwaedu Obstetreg (OBS) Cymru. Mae'r Wobr hon yn cydnabod y gwahaniaeth y mae ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn ei wneud i fywydau bob dydd pobl.

Dywedodd Sarah: "Mae'n wych bod effaith prosiect OBS Cymru yn cael ei gydnabod. Mae'r prosiect yn ganlyniad deng mlynedd o ymchwil i'r ffyrdd gorau o nodi a thrin gwaedu sylweddol ar ôl genedigaeth. Mae bellach wedi'i fabwysiadu yn rhan o ofal mamolaeth arferol ledled Cymru, ac mae 160 o fenywod y flwyddyn bellach yn osgoi'r angen am drallwysiad gwaed. 

"Rydym yn llawn cyffro i weld effaith bellach yr ymchwil hon, gan fod dull OBS Cymru yn debygol o newid canllawiau gwaedlif ôl-enedigol ledled y DU ac yn rhyngwladol yn y dyfodol." 

Roedd yr astudiaeth hon yn enillydd clir i'r panel beirniadu, gan ei bod nid yn unig yn dangos manteision iechyd i gleifion ond mae hi hefyd wedi arwain at newid mewn gofal mamolaeth arferol yng Nghymru a ledled y DU.

Gwrandewch ar Sarah yn siarad am brosiect OBS Cymru: 

Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol

Rhoddwyd Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol 2021 i Dr Emily Holmes, Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r wobr hon ar gyfer unigolion yng nghyfnod cynnar eu gyrfa ymchwil, sydd eisoes yn gwneud cyfraniad eithriadol i'w maes ac yn datblygu fel arweinwyr y dyfodol.

Dywedodd Emily: "Mae'n anrhydedd i mi gael fy nghydnabod a derbyn y wobr hon. Datblygais ddiddordeb mewn economeg iechyd am y tro cyntaf yn ystod fy ngradd israddedig pan astudiais economeg canser y fron. Rwyf bellach yn ymchwilio i sut mae pobl yn gwneud penderfyniadau am eu dewisiadau triniaeth, yn enwedig o ran cymryd gwrthfiotigau. Rwyf wedi ymrwymo i ddarparu tystiolaeth a fydd yn helpu'r GIG i roi'r dewisiadau triniaeth gorau i gleifion."

Dywedodd y beirniaid fod Emily yn ymgeisydd eithriadol o gryf ac yn dangos cyflawniadau mawr ym maes ymchwil economeg iechyd.

Gwrandewch ar Emily yn sôn am ei gwaith:

Gwobr Cynnwys y Cyhoedd

Rhoddwyd Gwobr Cyflawni Cynnwys y Cyhoedd 2021 i'r Prosiect Dementia ac Amrywiaeth, sy'n cydnabod y defnydd gorau o gynnwys y cyhoedd i helpu i lunio ymchwil.

Derbyniodd Dr Sofia Vougioukalou, Cymrawd Ymchwil yn Y Lab, labordy arloesi'r gwasanaethau cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, y wobr ar ran y prosiect, a gyflwynwyd mewn cydweithrediad â Chymdeithas Alzheimer Cymru, Diverse Cymru a Reality Theatre.

Nod y prosiect ymchwil yw gwella gwasanaethau dementia ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tan-wasanaethu, er enghraifft oherwydd eu hethnigrwydd, eu hiaith, eu rhywioldeb neu eu hanabledd. Y rheswm am hyn yw bod pobl o'r grwpiau hyn yn llai tebygol o dderbyn gwasanaethau dementia ac roedd y prosiect yn ceisio deall pam. Roedd y prosiect yn defnyddio dulliau artistig o greu mannau cydraddoli lle gallai pobl fynegi profiadau gwahanol o ofal dementia ar eu telerau eu hunain i'r ymchwilwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, a myfyrwyr.

Dywedodd Sofia: "Rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon ar ran y tîm ymchwil Dementia ac Amrywiaeth ac aelodau'r cyhoedd a'n cynghorodd ar gyfer yr astudiaeth hon. Mae cymaint o bobl wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn ac mae'n wych i'n holl waith caled gael ei gydnabod gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Rwyf wrth fy modd yn annog pobl i chwarae eu rhan mewn ymchwil ac wedi dysgu cymaint gan ein harbenigwyr cyhoeddus drwy brofiad. 

"Mae cydweithio a chyd-gynhyrchu yn rhan hanfodol o sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith ac yn berthnasol i fywydau pobl a hefyd yn berthnasol i'n gwasanaethau cyhoeddus sy'n gyfrifol am ddarparu'r gofal hwn. Roedd yn bwysig i ni fod pobl sydd â phrofiad bywyd o fod o grŵp lleiafrifol sy’n cael eu tan-wasanaethu ac o ofal dementia yn arwain popeth a wnaethom a bod eu lleisiau'n cael eu hatseinio drwy'r celfyddydau.

"Rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at weld sut y bydd ein hadnoddau creadigol ar-lein a gyd-gynhyrchwyd yn cael eu defnyddio gan eraill mewn ymchwil, addysgu a datblygiad proffesiynol."

Dywedodd y beirniaid fod hon yn enghraifft flaenllaw o gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, ac maen nhw’n gobeithio y gellir eu hymgorffori mewn prosiectau ymchwil eraill yn y dyfodol.

Gwrandewch ar Sofia yn siarad am y prosiect ymchwil hwn:

Derbyniodd yr enillwyr fwrsariaeth o £250 i fynychu cwrs hyfforddi, cynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad tebyg i ddatblygu maes o'u sgiliau ymchwil.

Dywedodd Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a gyflwynodd y gwobrau, fod y dewis cryf o ymgeiswyr ac ansawdd y ceisiadau eleni wedi gwneud argraff arbennig o dda ar y beirniaid, a chafodd llawer o'r ceisiadau Ganmoliaeth Uchel.

Canmoliaeth Uchel:

Gwobr Effaith 
•    Rhagfynegi Risg a Chyfathrebu canlyniadau yn dilyn llawdriniaeth sylweddol i dorri rhan isaf y goes i ffwrdd, astudiaeth gydweithredol (PERCEIVE), dan arweiniad David Bosanquet, Canolfan Ymchwil Treialon
•    Dyfais Rhybudd Cynnar Wisgadwy ac Adsefydlu Rhithwir (Prosiect EWWD), dan arweiniad Mohammad Al-Amri, Prifysgol Caerdydd
•    Gwneud penderfyniadau a rennir mewn clefydau prin yn y Deyrnas Unedig, dan arweiniad Dr Natalie Joseph-Williams, Canolfan PRIME Cymru.

Gwobr Cynnwys y Cyhoedd
•    Prosiect Treialon Siarad, wedi'i gyd-arwain gan Sarah Bridges a Martina Sobodova, Canolfan Ymchwil Treialon

Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol
•    Rhiannon Owen, Athro Cysylltiol Ystadegau ym Mhrifysgol Abertawe
•    Dr Victoria Shepherd, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd
•    Dr Aimee Grant, Uwch Swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe 

Yn dilyn llwyddiant cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2020, cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein am yr eildro gan ganolbwyntio ar y thema dysgu o bandemig COVID-19 ac edrych i’r dyfodol.

Rhagor o wybodaeth am y siaradwyr a'r cyflwyniadau o'r gynhadledd eleni. 

Capsiwn lluniau: Llun o dîm y Prosiect Dementia ac Amrywiaeth (Dr Sofia Vougioukalou)