Cydweithredu rhwng Prifysgolion Abertawe, Birmingham a Rhydychen yn sicrhau cyllid ar gyfer ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial
6 Awst
Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR), sydd wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgolion Birmingham a Rhydychen i deall cydafiachedd yn well trwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.
Mae’r bartneriaeth ymhlith 22 o brosiectau ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer iechyd sy’n rhannu £13m oddi wrth Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI). Nod y prosiect yw trawsnewid iechyd gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a mireinio diagnosteg a gweithdrefnau.
Cydafiachedd yw’r gair am fod â dau neu fwy o gyflyrau iechyd hirdymor ar yr un pryd, ac mae’n un o heriau mwyaf gofal iechyd. Mae’r prosiect, dan arweiniad Prifysgol Rhydychen, wedi sicrhau £640,000 i gyflymu ymchwil i fodel deallusrwydd artiffisial sylfaenol ar gyfer rhagweld risg glinigol a allai gadarnhau pa mor degybol ydyw y bydd yna broblemau iechyd yn y dyfodol, ar sail cyflyrau presennol unigolyn.
Meddai’r Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth: “Mae’r gwaith hwn yn mabwysiadu dull arloesol newydd o fynd ati i ddeall clefyd a sut y mae un cyflwr yn gallu arwain at gyflwr arall yn yr un person. Mae angen dull newydd o weithredu i fynd i’r afael â chyd-glefydau cymhleth, ac rydyn ni yn Labordy Data NCPHWR yn falch iawn o fod yn rhan o waith arloesol yr Athro Yau a’i dîm ym Mhrifysgol Rhydychen.”
Gallwch chi ddarllen mwy am y prosiect yma