Annual report front cover

Mae cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn hyrwyddo'r unigolion sy'n gwneud i ymchwil ddigwydd

12 Hydref

Canmolodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, rôl hanfodol ymchwil dda o ran gwella gwasanaethau a chanlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru cyn cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Thema'r gynhadledd oedd "Pobl sy’n gwneud ymchwil", gyda siaradwyr a phynciau yn tynnu sylw at y rhan hanfodol y mae unigolion a thimau cyflawni wedi'i chwarae yn llwyddiannau ymchwil Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cofnodir y llwyddiannau gorau yn adroddiad blynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a gyhoeddwyd ddydd Iau 12 Hydref, ac a lansiwyd yn ystod y gynhadledd yn Arena Abertawe.

Darparodd y gynhadledd a'r adroddiad blynyddol gyfleoedd hefyd yn darparu cyfleoedd i edrych ar sut i fanteisio ar y momentwm hwn, gwella a diogelu dyfodol ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru; o gyfleoedd datblygu gyrfa i staff ymchwil ar bob lefel, i ymrwymiadau cyllido newydd sylweddol a galwadau am fwy o gydbwysedd o ran cyllid ledled y DU.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi parhau i ariannu canolfannau ymchwil, prosiectau a dyfarniadau unigol gan gynnwys 29 o ddyfarniadau ymchwil newydd sy'n cyfateb i fuddsoddiad o bron i £4.5 miliwn. Sefydlodd Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd sy'n anelu at gefnogi datblygiad gyrfa ymchwil ar bob lefel, ac adeiladu ar lwyddiant Canolfan Dystiolaeth COVID-19 gyda lansiad Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y mae wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy na £7 miliwn ynddi dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Ms Morgan: 

Rwyf mor ddiolchgar i bob un person sydd wedi cyfrannu at ymchwil yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf – o'r ymchwilwyr sy'n gweithio mewn prifysgolion a byrddau iechyd, i glinigwyr sy’n gweithio ym mhob proffesiwn, i reolwyr ac uwch arweinwyr gan gynnwys aelodau byrddau iechyd, nyrsys ymchwil, ymarferwyr gofal cymdeithasol a staff cymorth a chyflawni sy'n gwneud i ymchwil ddigwydd. Rydych chi i gyd wedi chwarae, ac yn parhau i chwarae, rôl hanfodol yn ein llwyddiant ym maes ymchwil.

Roeddwn i’n falch iawn, yn gynharach eleni, i gymeradwyo cynllun Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer 2022-2025, sy'n nodi agenda clir a heriol ar gyfer gwella ymchwil iechyd a gofal a sicrhau bod Cymru'n chwarae rhan lawn yn yr agenda ymchwil ledled y DU ac yn rhyngwladol."

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

Eleni, gwnaethom ymgynghori, drafftio a chyhoeddi ein cynllun gweithredu tair blynedd, "Mae ymchwil yn bwysig: ein cynllun ar gyfer gwella ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru". Er ein bod yn canolbwyntio ar gyflawni'r hyn y mae'r cynllun hwnnw'n ei addo, mae hefyd yn bwysig i ni atgoffa ein hunain o ba mor bell yr ydym wedi dod eleni.

Drwy ein cynhadledd a’n hadroddiad blynyddol, rwy'n falch unwaith eto i fod yn dangos y rhagoriaeth a’r ymdrechion ymchwil a welwyd ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda ffocws arbennig ar yr unigolion a'r timau ysbrydoledig y mae eu gwaith diflino yn torri tir newydd, yn trawsnewid gofal ac yn sicrhau canlyniadau i bobl a chymunedau ledled Cymru.” 

Roedd y gynhadledd yv Arena Abertawe yn cynnwys yn dangos yr ymchwil ddiweddaraf ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, o ddatblygu polisïau i gyfranogiad y cyhoedd. Roedd sesiynau ar ddatblygu gyrfa ymchwil yng Nghymru, effaith gweithio gyda diwydiant ar gleifion mewn treialon a pham nad yw amrywiaeth heb gynhwysiant yn ddigon, yn ogystal â sgyrsiau ar ffurf TED gan bum ymchwilydd yn archwilio eu teithiau ymchwil personol.

Siaradwyr yn gynwysedig Dr Lilian Hunt, Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Gwyddoniaeth ac Iechyd, Wellcome Trust; Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol Iechyd yng Nghymru; yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

I weld rhaglen lawn y gynhadledd, cliciwch yma.