L-R John Geen and Peter Sykes

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn arddangos ehangder "aruthrol" o ymchwil mewn cynhadledd flynyddol

21 Rhagfyr

Croesawodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg y nifer mwyaf erioed o bobl i’w gynhadledd Ymchwil a Datblygu flynyddol yng Ngwesty'r Vale yn Hensol.

Daeth cynrychiolwyr o bob rhan o'r GIG, y diwydiant, y byd academaidd a'r trydydd sector at ei gilydd i wrando ar amrywiaeth eang o gyflwyniadau ar bynciau megis effaith cwrs addysgol i bobl sy'n byw gyda Nam Gwybyddol Ysgafn; yr hyn sy’n rhwystro ac yn hwyluso bwydo ar y fron ymhlith cymunedau Sipsiwn a Theithwyr; gwerthuso newid o wrthfiotigau mewnwythiennol i wrthfiotig a roddir drwy’r geg mewn haint newydd-anedig a sut y gallai rhaglen adsefydlu cardiaidd wella ansawdd bywyd cleifion.

Ochr yn ochr â'r cyflwyniadau roedd arddangosfa yn cynnwys 60 o bosteri.

Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro John Geen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a chroesawodd yr Athro Peter Sykes, Deon Cyswllt Arloesi a Menter ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, a'r Athro Dean Harris, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a'r Rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ei Gadeiryddion Gwyddonol. Roedd yn cynnwys prif gyflwyniad gan Dr Rob Orford, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Moondance.

Yn ei sylwadau agoriadol, pwysleisiodd yr Athro Geen yr angen i wreiddio ymchwil fel rhan ganolog o weithgareddau'r bwrdd iechyd. Dywedodd

Gall pob un ohonom gyfrannu at ymchwil. Er mwyn datblygu gweithgarwch ymchwil, mae angen i ni ddatblygu gallu ymchwil a sicrhau bod ymchwil yn cael ei integreiddio mewn darpariaeth gwasanaeth clinigol a gwasanaeth anghlinigol yn hytrach na chystadlu â nhw.”

Meddai'r Athro Dean Harris, "Mae'r digwyddiad hwn yn ffordd wych i Gwm Taf Morgannwg arddangos yr ymchwil y maent yn ei wneud. Mae ehangder yr ymchwil sy'n digwydd yn aruthrol; mae'n amlwg bod angerdd amdano ar draws y bwrdd iechyd, ac mae yn eu DNA i gyflwyno ymchwil i'r safon y maent yn ei wneud.”

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, "Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i gysylltu â chydweithwyr a phartneriaid a thynnu sylw at rywfaint o'r gwaith arloesol sy'n digwydd yng Nghwm Taf Morgannwg. Mae'n fy ngwneud yn hynod falch o weld cymaint o astudiaethau'n cael eu harddangos ac yn bwysicaf oll clywed pa wahaniaeth y maent yn ei wneud i fywydau cleifion.”