Scientist looking into microscope

Rhaglen waith gyntaf y Ganolfan Dystiolaeth yn ceisio helpu i fynd i'r afael â heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

28 Gorffennaf

Yn dilyn ei lansiad yn gynharach eleni, mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen waith gyntaf yn amlinellu blaenoriaethau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol y Ganolfan ar gyfer haf/hydref 2023.

Mae'r rhaglen yn rhannu manylion 12 pwnc adolygu tystiolaeth a chwe astudiaeth ymchwil newydd a fydd yn rhoi tystiolaeth hanfodol i Weinidogion a phobl eraill sy’n gwneud penderfyniadau i fynd i'r afael â'r heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n wynebu Cymru.

Gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael ag ystod eang o faterion, megis cymorth gwrth-ysmygu, mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ac anghenion cleifion mewn gofal deintyddol brys, bydd y Ganolfan yn gweithio gyda phartneriaid cydweithredol ledled Cymru i gyflwyno'r rhaglen newydd.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cafodd y Ganolfan ei lansio ym mis Mawrth 2023 i helpu i sicrhau bod polisïau a gwasanaethau yn defnyddio canfyddiadau'r ymchwil mwyaf diweddar a thrylwyr.

Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Er mwyn nodi'r blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf arwyddocaol ledled Cymru, mae'r Ganolfan wedi estyn allan i 40 o grwpiau rhanddeiliaid gan gynnwys byrddau iechyd y GIG, Cymuned Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Academi'r Colegau Brenhinol.

“Rydym ni hefyd am sicrhau bod ein gwaith yn mynd i'r afael â'r materion sydd o bwys gwirioneddol i bobl Cymru; felly mae'r Ganolfan yn gweithio'n agos gyda'n Grŵp Partneriaeth Gyhoeddus o 14 aelod i ddatblygu'r rhaglen waith. Mae'n hanfodol ein bod ni’n clywed barn y rhai mae ein hymchwil yn ceisio eu helpu, mae cyd-gynhyrchu wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

“Y flaenoriaeth gyffredinol ar gyfer ein hymchwil yw ei bod yn cael ei chynnal yn gyflym ond yn drylwyr a’i bod ar gael i glinigwyr, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill, a bod modd gweithredu arni.”

Yn ddiweddar, adolygodd y Ganolfan dystiolaeth ymchwil a oedd yn edrych ar nifer y bobl y gallai cyflyrau hirdymor effeithio arnynt, fel diabetes, arthritis a gorbwysedd, yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i gynllunio gwasanaethau'r GIG ar gyfer y dyfodol.

Nod y Ganolfan yw darparu tua 15 adolygiad ac ymgymryd â thua 10 astudiaeth ymchwil newydd y flwyddyn, gan ddarparu tystiolaeth ymchwil gadarn i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe: “Mae'n hanfodol ein bod ni’n deall y ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud pethau, beth sydd orau i'r cyhoedd, cleifion, staff a beth yw'r gwerth gorau am arian. Mae'r gwaith y gall Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ei ddarparu yn hanfodol ar gyfer datblygu'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau ar sail tystiolaeth i bobl Cymru.

“Rydym ni’n falch o fod wedi ariannu'r Ganolfan a'i bod ar gael i ni yma yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Athro Edwards a'r tîm dros y pum mlynedd nesaf.”

Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf gan Gymuned Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru trwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr wythnosol.