Award winners

Hyrwyddo’r ymchwil orau yng Nghymru yng nghynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

19 Hydref

Unwaith eto, mae ymchwilwyr o bob cwr o Gymru wedi cael eu cydnabod am eu gwaith yng Ngwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024. 

Mae’r gwobrau’n cydnabod cymuned ymchwil arloesol ac ysbrydoledig Cymru ar draws pedwar categori – Cynnwys y Cyhoedd, Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Seren Ymchwil sy’n dod i’r Amlwg ac Arloesi mewn Ymarfer. Rhoddir y bumed wobr am yr arddangosfa fwyaf diddorol yn y gynhadledd. 

Cafodd yr enillwyr ym mhob categori eu dewis gan banel o feirniaid o bob rhan o’r sector. Mae pob un ohonynt wedi cael cyllid o hyd at £250 i fynychu cwrs hyfforddi, cynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad tebyg i ddatblygu maes o’u set sgiliau ymchwil.  

Cyflwynwyd y gwobrau yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 10 Hydref, gan yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy’n ymadael, a ddywedodd: 

“Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod y gorau o’n cymuned ymchwil ac yn dangos y gwaith sy’n gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau yma yng Nghymru. 

“Roedd y ceisiadau a gyflwynwyd o safon uchel iawn ac, fel bob amser, roedd hi’n dasg anodd i’n beirniaid ddewis yr enillwyr. 

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cael eu cydnabod gyda’r gwobrau hyn, p’un a ydyn nhw wedi dod yn gyntaf neu’n ail, a’r rhai a gafodd ganmoliaeth uchel am y ceisiadau a gyflwynwyd hefyd.” 

Enillwyr Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024 

Gwobr Cynnwys y Cyhoedd – Arolwg o Brofiad Pobl, CEDAR ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – Kathleen Withers 

Mae’r wobr hon yn cydnabod y defnydd gorau o weithgarwch cynnwys y cyhoedd mewn astudiaeth ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol, gan ddefnyddio Safonau’r Deyrnas Unedig ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. 

Aeth y wobr i Kathleen Withers o CEDAR ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am ei gwaith ar yr Arolwg o Brofiad Pobl, sy’n cefnogi gwaith i wella gwasanaethau yn y GIG yng Nghymru.  

Yn ôl y panel beirniaid, roedd y cais yn un eithriadol o dda ac roedd yn amlwg yn cyflawni pob un o chwe Safon y Deyrnas Unedig ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Un o’r pethau a greodd yr argraff fwyaf ar y panel oedd y dulliau cynnwys arloesol, megis cyfweliadau, grwpiau ffocws, a sawl cylch o brofion ar yr arolwg, y gwnaeth pob un ohonynt helpu i lywio’r prosiect. Roedd y cais hefyd yn dangos ymrwymiad cryf i gynwysoldeb drwy ymgysylltu ag amrywiaeth eang o sefydliadau ac estyn cyfle i deuluoedd a ffrindiau gymryd rhan. Roedd y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yn nodwedd arbennig a oedd yn hyrwyddo hyd yn oed mwy o gynwysoldeb wrth lywio’r ymchwil. 

Dywedodd Kathleen:  "Roedd hwn yn ddarn gwych o waith ac roeddem wrth ein bodd i gymryd rhan.   Roedd yn brosiect ledled Cymru a gefnogwyd yn ariannol gan Lywodraeth Cymru, a chawsom gyfranogiad gan arweinwyr profiad cleifion ledled Cymru; roedden ni’n gwybod ei bod hi’n bwysig iawn cael profiadau uniongyrchol pobl yng Nghymru i ddarganfod beth oedd yn bwysig iddyn nhw."  

Gwobr Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Treial BRIGHT – Nicola Innes, Prifysgol Caerdydd 

Mae’r wobr hon yn cydnabod y gwahaniaeth mae ymchwil yng Nghymru yn ei wneud i fywydau bob dydd pobl a’r gwahaniaeth y gall pobl ei wneud i’r ymchwil honno.  

Roedd Treial BRIGHT, a ariannwyd gan NIHR, yn ymyriad newid ymddygiad aml-gydran a oedd yn cynnwys gwers ar iechyd y geg a dwy neges destun y dydd. Nod yr ymyriad oedd sicrhau bod mwy o blant ysgol uwchradd yn brwsio eu dannedd, gan leihau pydredd dannedd, a chafodd ei gymharu ag addysg arferol a dim negeseuon testun.  

Yn ôl y beirniaid, roedd y cais buddugol yn dangos effaith drwy ddefnyddio un o ganlyniadau annisgwyl y prosiect i helpu athrawon i gyflwyno cynlluniau gwersi mewn ysgolion uwchradd, a’r effaith mae hyn wedi’i chael ar y gefnogaeth ar gyfer gwersi iechyd y geg. 

Wrth dderbyn y wobr ar ran Nicola, dywedodd ei chydweithiwr, Dr Heather Lundbeck:  "Fel deintydd rwy'n falch iawn o weld iechyd y geg yn cael ei gydnabod oherwydd ei fod yn aml yn faes gofal iechyd y gellir ei anwybyddu.  Felly rwy'n credu ei bod yn anhygoel gweld cydnabyddiaeth o weithio gyda chymunedau o amgylch iechyd y geg a chydnabod holl waith caled fy nghydweithwyr." 

Gwobr Seren Ymchwil sy’n dod i’r Amlwg – Samuel Chawner, Prifysgol Caerdydd 

Mae’r wobr hon ar gyfer Sêr Ymchwil sy’n dod i’r Amlwg – ymchwilwyr sydd ar gamau cynnar eu gyrfa ym maes ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol, sy’n gwneud cyfraniadau pwysig yn eu maes, ac sy’n dangos arwyddion o fod yn arweinwyr y dyfodol.  

Cafodd y panel ei synnu ar yr ochr orau gan lefel yr ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd gennym yng Nghymru sy’n gwneud gwahaniaeth, ac roedd hi’n anodd iawn dewis enillydd.  

Enillydd y wobr Seren Ymchwil sy’n dod i’r Amlwg oedd Samuel Chawner o Brifysgol Caerdydd. Cafodd rhaglen ymchwil arloesol ac effeithiol Samuel, a ariennir gan ddyfarniad Datblygu Gyrfa mawreddog Wellcome Trust, ei chanmol gan y panel. Nodwyd ymrwymiad gwirioneddol i amrywiaeth a chynhwysiant a chefnogaeth i’r gymuned ymchwil ehangach a fydd yn ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yng Nghymru.  

Dywedodd Samuel:  "Mae wedi bod yn syndod mawr ac mae'n anrhydedd ennill y wobr hon.   Rwy'n gobeithio y bydd yn codi ymwybyddiaeth o anhwylder cymeriant bwyd cyfyngol osgoi a datblygu'r ymchwil hwn.   Mae cymaint o deuluoedd a chlinigwyr wedi dweud wrthyf am y trafferthion y maent yn eu hwynebu gyda phobl sy'n byw gydag anhwylder cymeriant bwyd cyfyngol osgoi a dod o hyd i ofal amdano, a'r angen felly am ymchwil. Rwy'n gobeithio y bydd y wobr hon yn helpu i godi proffil yr anhwylder hyd yn oed ymhellach." 

Gwobr Arloesi mewn Ymarfer – Datblygu capasiti i gynnal treialon clinigol Cyntaf mewn Pobl ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol ymchwiliadol – Orod Osanlou, Dîm Cyfadran Ymchwil Glinigol Gogledd Cymru

Mae’r wobr hon yn cydnabod yr arloesi mewn ymarfer a’r gwerth y mae timau ac unigolion wedi’i wneud yn eu maes ymarfer ac i fywydau pobl. 

Enillydd y wobr Arloesi mewn Ymarfer oedd Orod Osanlou o Dîm Cyfadran Ymchwil Glinigol Gogledd Cymru, am ei waith ar sefydlu capasiti i gynnal treialon clinigol Cyntaf mewn Pobl ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol ymchwiliadol.  

Yn ôl y panel, roedd cais Orod yn drawiadol ac roedd ei effaith yn glir. Roedd yn amlinellu’n glir yr hyn y mae’r tîm yn ei wneud, sut mae wedi cyflawni hynny a’r effaith y mae’n ei chael nawr ac y bydd yn ei chael yn y dyfodol. Mae’r cynlluniau ar gyfer lledaenu’r gwaith hwn ar draws safleoedd yng Nghymru yn glir iawn hefyd, ac roedd yn gadarnhaol clywed am Gymru yn datblygu capasiti ar gyfer y treialon cyntaf mewn pobl, sy’n bwysig iawn.  

Wrth dderbyn y wobr ar ran Orod, dywedodd ei gydweithiwr Lynne Grundy:  "Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr, mae'n ymdrech tîm ac mae'n wych gallu cyflwyno treialon dynol cyntaf yng Nghymru."  

Gwobr am yr Arddangosfa Fwyaf Diddorol     

Roedd yr arddangosfa yn cynnwys 23 o stondinau o bob rhan o gymuned ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a oedd yn tynnu sylw at ymchwil o fyrddau iechyd i ofal cymdeithasol i blant ac oedolion, i ymchwil canser ac ymchwil cardiofasgwlaidd. Aeth y wobr am y stondin fwyaf diddorol a chreadigol, y bu cynrychiolwyr yn pleidleisio drosti drwy gydol y dydd, i Parc Geneteg Cymru.

Wales Gene Park virtual reality activity