nyrs yn gofalu am glaf

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu cyllid ar y cyd gwerth £2.1 miliwn ar gyfer triniaethau canser newydd

18 Ionawr

Bydd yr ymdrech i chwilio am driniaethau canser newydd yng Nghymru yn derbyn cyllid sylweddol o dros £2 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf diolch i bartneriaeth rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a dwy elusen genedlaethol.

Bydd Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd yn derbyn £2,184,783 i helpu meddygon a gwyddonwyr i ddarganfod triniaethau canser y dyfodol ar gyfer oedolion a phlant, gan roi gobaith i bobl sydd wedi cael diagnosis canser.

Mae’r cyllid wedi’i wneud yn bosibl gan bartneriaeth rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru,  Ymchwil Canser y DU, a’r Little Princess Trust yn benodol ar gyfer canser plant.

Mae Caerdydd yn rhan o rwydwaith o 17 o ganolfannau o’r fath ledled y DU, a ariennir gan Cancer Research UK, sy’n darparu treialon clinigol ar gyfer triniaethau newydd addawol. Ers 2007, pan gafodd y rhwydwaith ei sefydlu am y tro cyntaf, mae tua 30,000 o gleifion wedi cymryd rhan mewn 2,100 o dreialon.

Bydd y cyllid yn caniatáu i driniaethau newydd, arbrofol - gan gynnwys imiwnotherapïau - gael eu datblygu ar gyfer amrywiaeth eang o ganser, yn ogystal â gwella triniaethau sy’n bodoli eisoes.

Mae’r Canolfannau Meddygaeth Canser Arbrofol yn gweithio ar y cyd gyda chyfleusterau’r GIG lleol i ddarparu cyfle i fanteisio ar driniaethau canser arloesol. Mae profi’r triniaethau hyn yn helpu i sefydlu ffyrdd newydd o ganfod a monitro’r clefyd a gwerthuso sut mae’n ymateb i’r driniaeth.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Rydym yn falch o gefnogi datblygu triniaethau canser newydd, blaengar drwy’r dull partneriaeth cyffrous ac arloesol hwn. 

Dangoswyd bod ymchwil yn ganolog yn y frwydr yn erbyn y clefyd hwn, gan ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen ar glinigwyr y GIG i aros un cam ar y blaen o’i esblygiad, yn ogystal â galluogi datblygu therapïau arbenigol ac ôl-ofal effeithiol i’r rhai y mae’n effeithio arnynt."

Ychwanegodd yr Athro Oliver Ottman a’r Athro Robert Jones, Cyd-arweinwyr Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd:

Rydym yn falch iawn bod Caerdydd wedi sicrhau’r cyllid hwn, i’n helpu ni i ehangu ein hymchwil sy’n canolbwyntio ar gleifion a darparu therapïau arloesol.

Mae treialon clinigol yn hanfodol er mwyn mabwysiadu triniaethau newydd a gwell yn driniaethau safonol gan y GIG. Mae ein dull cydweithredol unigryw yn cyfuno arbenigedd treialon mewn canserau’r gwaed a thiwmorau solet gydag ymchwil yn y labordy a chaiff ei gefnogi gan amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chynrychiolwyr cleifion

Mae miloedd o gleifion eisoes wedi cael cyffuriau a therapïau sydd wedi achub bywydau drwy Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd. Edrychwn ymlaen at ddarparu cyfleoedd triniaeth newydd i gleifion yng Nghymru a thu hwnt."