Farhana Badat

Diwrnod Treialon Clinigol Rhyngwladol 2025: Triniaeth canser y fron sy’n ymestyn bywyd ar gael ar y GIG diolch i ymchwil yng Nghymru

19 Mai

Y Diwrnodau Treialon Clinigol Rhyngwladol hwn (20 Mai 2025), rydym yn rhannu stori Farhana Badat, y mae ei chyfranogiad mewn treial clinigol arloesol, a arweiniwyd gan Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd ac a gefnogwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi arwain at gymeradwyo cyffur newydd sy’n gallu arafu datblygiad canser y fron na ellir ei wella.  

Mae Farhana, yn dal i gofio’r foment y cafodd wybod bod ganddi chwe mis i fyw.

Cafodd y cyn-bostfeistres o Gasnewydd ddiagnosis o ganser y fron yn 2013. Erbyn 2016, roedd wedi lledu i’w hesgyrn. Cafodd ddewis cael cemotherapi ymosodol neu gymryd rhan mewn treial clinigol newydd, anhysbys a oedd â’r potensial i arafu cynnydd y canser ac ychwanegu misoedd – neu efallai hyd yn oed blynyddoedd – at ei bywyd.

Doedd Farhana ddim eisiau cael cemotherapi. Gyda’r disgwyl y byddai ei hail wyres yn cael ei geni’n fuan, roedd cymryd rhan yn y treial yn teimlo fel yr opsiwn gorau – roedd yn gynnig siawns, o leiaf, iddi weld ei theulu’n tyfu a threulio amser gwerthfawr gyda’i hanwyliaid.

Gan gofio’n ôl i’r foment y cafodd y diagnosis gyntaf, dywedodd Farhana, “Rwy’n cofio un deigryn yn rhedeg i lawr fy wyneb. Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth.

“Fe ddywedais i wrth fy ngŵr nad oeddwn i eisiau cael cemotherapi. I ddechrau, roedd e’ mewn sioc, ond roedd cymryd rhan yn y treial yn teimlo fel y penderfyniad iawn i fi.” 

Cafodd Farhana ei chofrestru ar dreial FAKTION, a arweiniwyd gan Ganolfan Ganser Felindre mewn partneriaeth ag AstraZeneca a Phrifysgol Caerdydd. Fis diwethaf, cafodd Capivasertib, y feddyginiaeth oedd yn cael ei phrofi, ei chymeradwyo i’w defnyddio ar gleifion y GIG yn Lloegr a disgwylir iddi fod ar gael i gleifion GIG Cymru mor gynnar â’r haf hwn.

Dangosodd treial FAKTION fod Capivasertib yn gallu arafu datblygiad canser y fron na ellir ei wella, gan ychwanegu misoedd a hyd yn oed blynyddoedd at fywyd cleifion. Mae’r feddyginiaeth yn cael ei chymryd fel tabled, ddwywaith y diwrnod, ac ychydig iawn o sgil-effeithiau a geir o gymharu ag effeithiau llethol cemotherapi, sy’n golygu ei bod yn fuddiol i ansawdd bywyd cleifion hefyd.

Mae tua 75% o achosion o ganser y fron yn bositif i dderbynyddion oestrogen, sy’n golygu bod y canser yn ymateb i therapi hormonau. Fodd bynnag, dros amser, gall y canser ddechrau gwrthsefyll y feddyginiaeth a dechrau tyfu. Yn y treial, dangoswyd bod Capivasertib yn gweithio ochr yn ochr â therapi hormonaidd safonol, Fulvestrant, drwy atal gweithgarwch protein, AKT, y dangoswyd ei fod yn cyfrannu at ymwrthedd i therapi hormonau. 

Dywedodd Farhana ei bod yn “falch iawn” o’r rhan y mae hi wedi’i chwarae yn y gwaith o ddatblygu’r driniaeth arloesol hon yn y frwydr yn erbyn canser. 

Dywedodd: “Unwaith es i heibio’r chweched driniaeth, y pwynt canolog ar gyfer y treial cyffuriau ar yr adeg honno, fe deimlais i’n fwy hyderus bod pethau’n dechrau gwella ac fe ddechreuais i deimlo’n llawer mwy gobeithiol. 

“Mae’n wyth mlynedd a hanner nawr ers i fi ddechrau’r treial a, diolch i Dduw, rwy’n gwneud yn dda. Pan ddechreuais i’r treial, roedd fy ail wyres newydd gael ei geni; nawr, mae gen i chwech o wyrion ac wyresau, ac rwy’n addoli pob un. Mae cymryd rhan yn y treial wedi rhoi’r amser yna i fi allu eu gweld nhw’n tyfu i fyny ac i fy ngŵr a minnau ymweld â chymaint o leoedd newydd. Mae wedi rhoi persbectif ar fywyd i mi ac wedi fy annog i fwynhau pob dydd. 

“Rwy’n dal i fod mewn cysylltiad ag un o’r bobl eraill a gymerodd rhan yn y treial. Roedd y ddau ohonon ni arno am amser hir ac fe wnaethon ni ddatblygu cyfeillgarwch cryf. Mae’n teimlo’n anhygoel bod y ddau ohonon ni wedi mynd drwy’r profiad gyda’n gilydd. 

Rwy’n teimlo’n falch iawn y bydd y feddyginiaeth ar gael ar y GIG yn fuan. Diolch i’r treial, bydd rhywun arall yn ei chael ac fe fydd wir yn ei helpu nhw, fel y mae wedi fy helpu i. Mae’n gwneud i mi deimlo’n dda fy mod i wedi helpu mewn ffordd fydd yn helpu pobl eraill hefyd.”

Dywedodd yr Athro Rob Jones, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Ymchwil yn Felindre, Athro Oncoleg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrif Ymchwilydd treial FAKTION: 

Cafodd treial FAKTION ei ddatblygu a’i arwain gan y tîm yn Felindre ac rydyn ni’n falch o’r rôl ganolog y mae’r ymchwil hon a arweiniwyd yng Nghymru wedi’i chwarae wrth sicrhau ein bod yn cyrraedd y pwynt hwn.  

“Nid yn unig rydyn ni wedi dangos bod gan Capivasertib y potensial i ymestyn bywyd cleifion yn sylweddol iawn, ond gallwn ni hefyd nodi’r cleifion hynny sydd fwyaf tebygol o elwa ar y driniaeth drwy gynnal profion genetig ar feinwe eu canser. Mae ansawdd bywyd cleifion sy’n cael y driniaeth hefyd yn well o gymharu â chael cemotherapi. 

“Gallai tua 40% o gleifion sydd â chanser metastatig y fron elwa ar y feddyginiaeth hon, sy’n cyfateb i filoedd o gleifion yn y DU a miliynau yn fyd-eang bob blwyddyn. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gyfraniadau pobl fel Farhana a gymerodd ran yn y treial, sydd wedi helpu i wneud y driniaeth hon yn realiti.” 

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cefnogi a Chyflawni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, “Fel sefydliad cenedlaethol sy’n goruchwylio’r gwaith o gyflawni treialon clinigol yng Nghymru, rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod mwy o gleifion yn gallu cymryd rhan mewn mwy o dreialon clinigol, drwy feithrin ein capasiti a’n gallu a gweithio gyda’n holl bartneriaid i sefydlu treialon yn gyflym, fel bod gennym gymaint o amser â phosibl i recriwtio pobl o Gymru. Drwy ddenu mwy o astudiaethau i Gymru, gallwn ni greu mwy o gyfleoedd i gleifion gymryd rhan, sy’n golygu, yn y pen draw, y bydd yr ymchwil a wneir heddiw yn effeithio ar y gofal a roddir yn y dyfodol.  

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy na 15,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn dros 500 o astudiaethau ymchwil weithredol o ansawdd uchel mewn dros 30 o arbenigeddau gwahanol, gan roi gwybodaeth hanfodol i ni am ffyrdd newydd, neu’r ffordd orau, o drin salwch penodol.

“Wrth i ni ddathlu Diwrnod Treialon Clinigol Rhyngwladol , hoffwn i dalu teyrnged i bawb sy’n gysylltiedig â chyflawni treialon clinigol ledled Cymru, p’un a ydynt yn ymchwilydd, yn aelod o’r GIG, yn bartner diwydiant neu’n glaf fel Farhana. Mae popeth rydych chi’n ei wneud yn caniatáu i ni gynnal astudiaethau o ansawdd uchel i wella iechyd pobl a newid bywydau.” 

O ran pwysigrwydd cymryd rhan mewn ymchwil, dywedodd Farhana, “Does neb yn gwybod am ba mor hir y bydd pob un ohonon ni o gwmpas ond os gallwch chi roi rhywbeth yn ôl, mae’n hyfryd. Dyma fy ffordd i o roi nôl a gwneud gwahaniaeth, nid yn unig i fy iechyd fy hun ond i iechyd pobl eraill yn y dyfodol.”