Research activity board

Aelodau Bwrdd Annibynnol i hyrwyddo ymchwil ar draws GIG Cymru

20 Mawrth

Mae byrddau iechyd a sefydliadau’r GIG yng Nghymru wedi penodi un o’u cyfarwyddwyr anweithredol i fod yn llais ymchwil a datblygu ar eu Byrddau, fel rhan o fenter newydd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae cynyddu amlygrwydd ymchwil a’i wreiddio yn holl wasanaethau’r GIG yn hanfodol er mwyn ysgogi gwelliant, yn ogystal â sicrhau bod gan bob claf fynediad at y triniaethau diweddaraf a gofal o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys ataliaeth.

Ym mis Mawrth 2021, ymrwymodd pedair gwlad y DU i weledigaeth 10 mlynedd newydd ar gyfer ymchwil Arbed a Gwella Bywydau: Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol yn y DU - sy'n nodi'r uchelgais i greu amgylchedd ymchwil clinigol o'r radd flaenaf yn y DU.

Fel rhan o ymrwymiad Cymru i wreiddio ymchwil ar draws y GIG, mae’r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, wedi gofyn i holl sefydliadau’r GIG enwebu aelod Annibynnol ar y Bwrdd i hyrwyddo ymchwil fel rhan o’u portffolio ehangach o gyfrifoldebau.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno menter o'r fath.

Bydd yr aelodau Annibynnol yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Gweithredol sy’n gyfrifol am ymchwil, yn ogystal â chyfarwyddwyr Ymchwil a Datblygu ym mhob sefydliad, i sicrhau bod ymchwil ar y radar ar lefel Bwrdd a bod proffil ymchwil yn cael ei godi ymhlith staff a chleifion ar draws yr holl fyrddau iechyd a sefydliadau’r GIG.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelodau Annibynnol sydd wedi derbyn yr her hon ac wedi cytuno i fod yn hyrwyddwr ymchwil ar Fyrddau eu sefydliad,” meddai Dr Atherton. “Fel y dangoswyd yn ystod y pandemig, mae rôl ymchwil yn hollbwysig wrth ddod o hyd i atebion, ac wrth i ni ddod allan o’r pandemig, mae angen ymchwil iechyd a gofal ehangach i’n helpu i ddod o hyd i driniaethau arloesol ar gyfer y dyfodol ac i gwrdd â’r heriau ychwanegol y mae ein poblogaeth, a’r system iechyd a gofal, yn eu hwynebu”.

Bydd rôl hyrwyddwr y Bwrdd ar gyfer Ymchwil a Datblygu yn cynnwys: 

  • datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd ymchwil fel sbardun allweddol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol da, cefnogi'r gwaith o hyrwyddo ymgyrchoedd ymchwil Cymru gyfan, ac
  • ymgysylltu â'r Cyfarwyddwr Gweithredol arweiniol a'r arweinydd Ymchwil a Datblygu i sicrhau bod gweithgarwch ymchwil lleol yn cael ei hyrwyddo a'i gefnogi, ei fonitro a'i adrodd yn effeithiol ar lefel y Bwrdd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe, ei fod yn croesawu’r penodiadau ac yn edrych ymlaen at ddarparu cymorth i’w galluogi i hyrwyddo ymchwil yn effeithiol.

“Mae gan holl sefydliadau’r GIG ran sylweddol i’w chwarae wrth hwyluso amgylchedd cefnogol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn trwy wreiddio ymchwil fel rhan o’r holl wasanaethau gofal iechyd,” meddai.

“Gwyddom fod sefydliadau’r GIG sy’n weithgar mewn ymchwil yn gweld canlyniadau iechyd gwell, nid yn unig i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn ymchwil, ond i bob claf. Yn ogystal, mae buddsoddi mewn ymchwil yn arwain at fanteision economaidd i’r GIG a all gefnogi gwasanaethau rheng flaen gan gynnwys datblygu a chadw’r gweithlu.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bob hyrwyddwr Aelod Annibynnol ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.