David Morgans

Mae triniaeth inswlin wythnosol yn cynnig gobaith i bobl â diabetes yng Nghymru

21 Ionawr

Fis Ionawr 1922, derbyniodd Leonard Thompson o Ganada’r pigiad cyntaf o inswlin, ond heb ymchwil fyddai hyn erioed wedi digwydd. Ers y driniaeth gyntaf hon, mae ymchwilwyr yng Nghymru wedi bod yn gweithio ar ffyrdd arloesol i drin diabetes â’r cyffur hwn sy’n achub bywydau.

Mae triniaeth inswlin wythnosol ymchwiliol newydd sy’n cael ei threialu yn Ysbyty Singleton yn Abertawe yn cynnig gobaith o ansawdd bywyd gwell i bobl â diabetes.

Mae pawb sydd â diabetes math 1 yn chwistrellu inswlin sawl gwaith y dydd i reoli lefel y siwgr yn eu gwaed, sy’n galw am fonitro eu corff a’r hyn y maen nhw’n ei fwyta yn ofalus. Mae angen i lawer o bobl sydd â diabetes math 2 hefyd chwistrellu inswlin fel rhan o'u triniaeth.

Dim ond unwaith yr wythnos y caiff y driniaeth inswlin hirdymor hon ei chwistrellu o’i chymharu â thriniaethau inswlin eraill, sy’n cael eu cymryd bob dydd.

Dywedodd yr Athro Steve Bain, Arweinydd Arbenigol ar gyfer Diabetes yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phen Ymchwilydd y treialon hyn: “Roedd triniaethau diabetes cynnar yn galw am lawer o bigiadau poenus i gleifion ac roedd yr inswlin a ddefnyddiwyd bryd hynny yn llai pur, a oedd yn arwain at fwy o sgil-effeithiau.

“Yn ffodus, mae ymchwil wedi datblygu triniaethau ac mae bywyd bob dydd pobl sydd â diabetes yn well o lawer nawr, ond mae rhai yn dal i orfod cymryd pedwar neu bum pigiad y dydd.

“Gallai’r inswlin newydd hwn rydyn ni’n ei dreialu olygu llai o bigiadau ac ansawdd bywyd gwell o bosibl i bobl â diabetes.”

Mae dau dreial clinigol ar y gweill yn Ysbyty Singleton. Mae ONWARDS 6 yn profi sut mae’r inswlin unwaith yr wythnos yn gweithio i bobl sydd â diabetes math 1 ac mae ONWARDS 1 ar gyfer y rheini sydd â diabetes math 2. Mae’r ddau dreial yn cael eu cyflenwi gan y Cyd-gyfleuster Ymchwil Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae David Morgans, 70, yn athro ysgol gynradd wedi ymddeol o Sgeti yn Abertawe. Cafodd ddiagnosis o ddiabetes math 1 am y tro cyntaf ym 1969 pan oedd yn 17 oed ac mae’n cymryd rhan yn y treial ONWARDS 6.

Meddai David: “Pan ges i ddiagnosis o ddiabetes roedd bron yn rhyddhad i gael gwybod. Yn anffodus, bu farw fy ewythr o ddiabetes math 1 pan oedd yn 21 oed, felly pan ddechreuais golli llawer o bwysau a chael symptomau eraill yn fy arddegau es yn syth at fy meddyg teulu. Cefais bigiad inswlin ac o fewn ychydig ddyddiau roeddwn i’n teimlo’n well.

“Mae cymryd rhan mewn ymchwil wedi fy helpu i ddysgu mwy am ddiabetes, yn ogystal â datblygiadau newydd mewn triniaethau a thechnoleg. Rwyf wedi byw gyda diabetes ers dros 50 mlynedd ac mae cymaint wedi gwella diolch i ymchwil. Pan gefais ddiagnosis am y tro cyntaf, nid oedd gennon ni chwistrellau tafladwy na monitorau glwcos gwaed, sydd bellach yn ei gwneud yn haws cymryd inswlin. Os y bydd y treial hwn o inswlin sy’n cael ei gymryd unwaith yr wythnos yn llwyddiannus, gobeithio y bydd o fudd i lawer o bobl fel fi yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol.”

Meddai Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Diolch i ddatblygiad triniaeth inswlin gall pobl sydd â diabetes heddiw fyw bywydau hir ac iach. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn parhau i gefnogi a chyflenwi datblygiadau ymchwil yma yng Nghymru a fydd yn gwella bywydau pobl â diabetes ledled y DU ac yn rhyngwladol.”

Dysgwch fwy am sut y gallwch chi fod yn rhan o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

[Cyhoeddwyd gyntaf 19 Ionawr 2022]