Two people helping with research through a phone

Arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn uno i wella’r modd y mae’r cyhoedd yn cael eu cynnwys mewn ymchwil

9 Mawrth

Mae cyllidwyr, rheoleiddwyr a sefydliadau ymchwil sy’n chwarae rhan bwysig yn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol y DU wedi dod ynghyd, gan weithio gydag aelodau o’r cyhoedd, i ymuno mewn ymrwymiad newydd ar y cyd i wella’r modd y caiff y cyhoedd eu cynnwys mewn ymchwil.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio gyda’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a llu o sefydliadau ledled y DU i gyflwyno newidiadau a fydd yn codi safonau mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol

Mae’r datganiad, wedi’i lofnodi gan arweinwyr ym mhob sefydliad, yn nodi:

‘Mae cynnwys y cyhoedd yn bwysig, yn ddisgwyliedig ac yn bosibl ym mhob math o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Gyda’n gilydd, mae ein sefydliadau a’n haelodau yn ariannu, cefnogi a rheoleiddio ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Y datganiad hwn yw ein hymrwymiad ar y cyd i wella y graddau y caiff y cyhoedd eu cynnwys a safon y cyfranogiad hwnnw ledled y sector fel ei fod yn gyson ragorol.

Mae gan bobl yr hawl i gymryd rhan ym mhob astudiaeth ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cynnwys y cyhoedd mewn modd rhagorol yn rhan hanfodol o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol a dangoswyd ei fod yn gwella ei safon a’u heffaith. Dylai profiadau bywyd pobl fod yn ysgogwr allweddol ar gyfer ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Pan fyddwn ni’n sôn am gynnwys y cyhoedd, rydym ni’n golygu’r holl ffyrdd y mae’r gymuned ymchwil yn cydweithio â phobl gan gynnwys cleifion, gofalwyr, eiriolwyr, defnyddwyr gwasanaethau, ac aelodau o’r gymuned. Mae cynnwys y cyhoedd mewn modd rhagorol yn gynhwysol, yn gwerthfawrogi pob cyfraniad, yn sicrhau bod gan bobl lais ystyrlon yn yr hyn sy’n digwydd ac yn dylanwadu ar ganlyniadau, fel sydd wedi’i nodi yn ‘Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd 

Gan weithio gyda’n gilydd, byddwn yn cefnogi’r gymuned ymchwil i gyflawni cynnwys y cyhoedd mewn modd rhagorol. Byddwn yn darparu neu’n rhannu canllawiau, polisïau, systemau a chymhellion. Byddwn ni’n:

  • gwrando ar y bobl a’r cymunedau yr ydym yn eu cynnwys ac yn  cymhwyso ac yn rhannu’r hyn y byddwn yn ei ddysgu
  • datblygu a rhannu’r dystiolaeth ynghylch sut i gynnwys y cyhoedd a’r effaith a gaiff hynny
  • cefnogi gwelliannau mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth gynnwys y cyhoedd
  • hyrwyddo Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd

Byddwn yn ymgorffori’r ymrwymiad hwn ym mhrosesau gwneud penderfyniadau ein sefydliadau.’

Gallwch ddod o hyd i fwy gan bob un o’r llofnodwyr – a’r hyn y byddant yn ei wneud - drwy glicio ar y dolenni isod:

Mae’r ymrwymiad ar y cyd yn datblygu gwaith cynharach, dan arweiniad yr Awdurdod Ymchwil Iechyd. Ym mis Ionawr y llynedd, lluniodd yr Awdurdod Ymchwil Iechyd  adroddiad ar y cyd gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd, ar eu gwasanaeth paru cynnwys y cyhoedd a gafodd ei sefydlu mewn ymateb i’r gostyngiad sylweddol yng nghyfraddau cynnwys y cyhoedd a oedd i’w weld mewn astudiaethau a gafodd eu cyflwyno i’w cymeradwyo ar ddechrau pandemig COVID-19. Ysgrifennodd y tîm adroddiad Cynnwys y Cyhoedd mewn Pandemig a dynnodd sylw at bedwar bwlch a oedd wedi arwain at hepgor cynnwys y cyhoedd o geisiadau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae cynnwys y cyhoedd wedi bod wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru erioed. Mae gennym ni berthynas wych â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, ac rydym eisoes yn rhannu ein profiadau o sut y gwnaethom sicrhau bod gan y cyhoedd lais drwy ymchwil brys COVID-19 a aeth ymlaen yn y pen draw i achub bywydau.

"Rydym yn falch o fod yn rhan o’r grŵp cydweithredol hwn ac edrychwn ymlaen at ddatblygu’r ymrwymiad hwn drwy gydweithio i ddatblygu ein hymchwil a’n prosesau - gan ddefnyddio profiadau bywyd go iawn i helpu i lunio ymchwil wirioneddol ystyrlon."

Dywedodd Eirwen Malin o Wenfô, a oedd yn gweithio fel cyfrannwr cyhoeddus i’r prosiect hwn: "Roedd yn ysbrydoledig ac yn galonogol i fod yn rhan o ddrafftio’r ymrwymiad ar y cyd hwn fel cyfrannwr cyhoeddus. Roedd pob sefydliad yn gwbl gefnogol o gynnwys aelodau o’r cyhoedd mewn ymchwil a gwnaethant ddangos sut i wneud hyn drwy ein gwerthfawrogi a’n parchu ni fel cyfranwyr llawn i’r trafodaethau. "

Nod yr ymrwymiad ar y cyd yw mynd i’r afael â’r bylchau sydd wedi’u nodi mewn arweinyddiaeth a chyfathrebu drwy ddod â chleifion a chyfranwyr cyhoeddus ac arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd i nodi’n weithredol bwysigrwydd cynnwys y cyhoedd ym mhob cynllun ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gyda’r uchelgais o ddarparu gwell iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd Yr Arglwydd Kamall, Y Gweinidog Technoleg, Arloesi a Gwyddorau Bywyd: ‘Mae ymrwymiad cyhoeddus heddiw ledled y sector yn datgan yn gryf bod y sefydliadau sy’n cofrestru, dan arweiniad yr Awdurdod Ymchwil Iechyd a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, yn cydnabod ac yn croesawu pwysigrwydd cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

‘Rydym ni eisiau i’r DU fod yn un o’r lleoedd gorau yn y byd i fuddsoddi mewn busnes gwyddorau bywyd ac i ddarparu ymchwil sydd o fudd i bawb. Yr allwedd i hyn yw datblygu partneriaethau cryfach rhwng ymchwil a chleifion a’r cyhoedd yn ehangach. Bydd cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil yn helpu ymchwilwyr i gynnal gwell astudiaethau sy’n agored i bawb. Bydd ymchwil gynhwysol o’r fath yn galluogi’r DU i gyflawni datblygiadau sy’n arwain y byd ac sy’n newid bywydau yn fwy mewn gwyddoniaeth a gwelliannau, a fydd yn ei dro yn gwella iechyd ein cenedl.’

Dywedodd Matt Westmore, Prif Weithredwr Awdurdod Ymchwil Iechyd: "Mae cynnwys y cyhoedd yn rhan hanfodol o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ardderchog. Mae’n gwella ymchwil ac mae gan bobl yr hawl i gymryd rhan.

"Bydd y datganiad ar y cyd hwn, wedi’i ddatblygu gyda chleifion, cyfranogwyr ymchwil ac arweinwyr mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, yn sicrhau bod cynnwys y cyhoedd yn rhan annatod o’r system ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

"Am y tro cyntaf mae’r system ymchwil gyfan yn anfon yr un neges gref. Mae cynnwys y cyhoedd bob tro’n bwysig, bob tro’n ddisgwyliedig a bob tro’n bosibl.

"Mae hefyd yn dweud ein bod ni’n gryfach gyda’n gilydd – mae’r 13 arweinydd dylanwadol ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn gryfach gyda’i gilydd - mae’r cyhoedd a’r gymuned ymchwil yn gryfach gyda’i gilydd. A gyda’n gilydd byddwn yn cyflawni newid gwirioneddol.