Lleddfwch y boen yn eich cymalau gartref: astudiaeth newydd sy’n ymchwilio i fuddion rhaglen ffisiotherapi ar-lein
5 Hydref
Yng Nghymru, mae tua 1 ymhob 3 o bobl yn dioddef poen yn y cyhyrau, cymalau a meinwe meddal, a phroblemau cefn ac osteoarthritis yn y pen-glin yw’r mwyaf cyffredin o’r rhain. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi lansio astudiaeth newydd yn ystyried manteision rhaglen ffisiotherapi ddigidol a gynhelir gartref.
Bydd yr astudiaeth yn cynnwys rhoi cynlluniau ymarferion, cofnod ymarferion, heriau penodol i gyfranogion unigol a mynediad o bell at ffisiotherapydd drwy fideo personol. Bydd y cyfuniad o ymgynghoriadau ar-lein â ffisiotherapydd wedi’i hyfforddi’n arbennig a defnydd o adnoddau digidol yn cefnogi unigolion i ymarfer ac ennill y sgiliau i reoli eu cyflwr eu hunain.
Dywedodd y Prif ymchwilydd ac Arweinydd Arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Anhwylderau Cyhyrysgerbydol, Kate Button:
Mae gan y dechnoleg a ddefnyddir yn MyJointPain.co.uk y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Rydym yn deall y pwysau i gael apwyntiadau ac wedi gweld hefyd os gall pobl gynnal eu triniaethau eu hunain gartref lle maen nhw’n gyfforddus ar unrhyw adeg o’r dydd, maen nhw’n fwy tebygol o barhau â’u hymarferion.
Mae’r astudiaeth yn agored i bobl sydd wedi’u lleoli ym Myrddau Iechyd Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Phowys 18 oed neu hŷn â phoen yn y cymalau sy’n gwaethygu drwy wneud gweithgareddau.
Trwy hunangyfeirio ar-lein, cewch eich trefnu ar hap ar ôl i chi gael eich barnu’n gymwys a bydd unigolion yn derbyn hyd at bum ymgynghoriad ar-lein gyda ffisiotherapydd sydd wedi cael hyfforddiant hunan-reoli arbennig. Y cyfranogwr fydd yn penderfynu ar amser a nifer yr apwyntiadau."
Roedd yr ymchwil hwn yn un o’r cyntaf i gael bron i £6.5 miliwn o gyllid oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer galwad cyllid Ymchwil er budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) Cymru 2020-2021 sy’n ariannu ymchwil sy’n gysylltiedig ag arfer o ddydd i ddydd y gwasanaeth iechyd, gyda budd clir i’r cleifion a’r cyhoedd.
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Rydym yn gwybod bod miloedd o bobl ledled Cymru sy’n byw ag anhwylderau cyhyrysgerbydol. Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn cynnydd yr astudiaeth hon a thracio’i photensial i wella’r driniaeth a gynigir i bobl â’r cyflyrau hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth neu i hunan-gyfeirio, ewch i www.myjointpain.org.uk neu anfonwch e-bost i TRAK@cardiff.ac.uk