Medication machine at Dolgellau Hospital

Treialu peiriant i geisio gwella mynediad at feddyginiaeth i gleifion mewn ardaloedd gwledig

10 Ebrill

Mae technoleg arloesol, sy’n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cael ei threialu yn Nolgellau i ganiatáu i gleifion gasglu meddyginiaeth frys ar adegau pan fo fferyllfeydd lleol ar gau.  

Mae peiriant REMEDY yn brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â’r gwneuthurwr a’r cyflenwr a Phrifysgol Rhydychen.  

Mae sicrhau bod meddyginiaethau yn fwy hygyrch i gleifion yn hanfodol er mwyn lleihau’r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau a gwasanaethau brys.   

Yn ystod y treial, a fydd yn para dwy flynedd, bydd pobl sy’n cysylltu â GIG 111 y tu allan i oriau ac y mae angen meddyginiaeth arnynt ar frys yn cael yr opsiwn o’i chasglu’n uniongyrchol o’r peiriant y tu allan i Ysbyty Dolgellau drwy god unigryw.  

Dywedodd Dr Adam Mackridge, Arweinydd Strategol ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 

Mae’n syml iawn ac fe fydd e’n fuddiol iawn i’r boblogaeth yn ardal Dolgellau sydd cryn bellter o wasanaethau eraill, yn enwedig ar benwythnosau a chyda’r nos.  

“Mae hwn yn gydweithrediad cadarnhaol iawn i geisio helpu i wella tegwch mynediad at feddyginiaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd.”   

Dywedodd Dr Rebecca Payne, Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau ac Academydd Clinigol: “Mae’r peiriant hwn wedi cael ei ddatblygu’n benodol ar gyfer y prosiect gyda’r gwneuthurwr, Videosystems, a’r cyflenwr, Omnicell, mewn partneriaeth â’r Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd. Er ei fod yn addasiad o dechnoleg bresennol, dyma’r tro cyntaf i’r dechnoleg gael ei defnyddio yn y ffordd hon yn Ewrop.   

“Mae’n wych gweld Gogledd Cymru yn arwain y ffordd, yn datblygu technoleg o’r radd flaenaf a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, yn enwedig i’r rhain mewn ardaloedd gwledig fel Dolgellau.”  

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni a Chyd-gyfarwyddwr Interim Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Unwaith eto, rydym yn falch o allu darparu arian ar gyfer amrywiaeth o ddyfarniadau personol a phrosiectau a fydd yn cefnogi datblygiad ein hymchwilwyr ac yn mynd i’r afael â meysydd pwysig o angen o ran iechyd a gofal.”