Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn helpu i lansio Canolfan Dystiolaeth newydd

30 Mawrth

Bu Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn agor digwyddiad lansio Canolfan Dystiolaeth newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yr wythnos hon, sef digwyddiad lle gwelwyd mwy na 140 o fynychwyr yn ymuno ar-lein.

Mae’r Ganolfan newydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi’i sefydlu i ddarparu tystiolaeth ymchwil hanfodol i Weinidogion a phenderfynwyr eraill i fynd i’r afael â’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n wynebu Cymru.

Gyda ffocws ar fynd i’r afael ag amrywiaeth eang o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, bydd y Ganolfan yn helpu i sicrhau bod polisïau a gwasanaethau yng Nghymru’n tynnu ar ddarganfyddiadau’r ymchwil fwyaf diweddar a thrylwyr.

Yn ystod ei haraith, dywedodd y Gweinidog: “Mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n hanfodol i ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dwi’n edrych ymlaen at weld y pethau anhygoel y bydd y Ganolfan yn eu cyflawni.”

Caiff mwy na £7 miliwn dros y pum mlynedd nesaf ei fuddsoddi yn y Ganolfan newydd a fydd hefyd yn cynnal ymchwil newydd gyflym i werthuso datblygiadau arloesol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gwella bywydau yng Nghymru

Yn y digwyddiad, esboniodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Adrian Edwards, i’r mynychwyr mai nod y Ganolfan newydd yw gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru trwy ymchwilio i bynciau fel effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd, atal trais domestig a chefnogi plant y mae profedigaeth wedi effeithio arnyn nhw.

Meddai Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe, a wnaeth cyflwyniad yn y digwyddiad hefyd: “Bydd y Ganolfan yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gleifion a chymunedau. Rydyn ni’n falch o gael y Ganolfan ar gael i ni... a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag Adrian a’i dîm dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.”

Dysgu o COVID-19

Mae COVID-19 wedi dangos mor hanfodol ydy tystiolaeth ymchwil i benderfynu ar bob lefel ac mae angen i dystiolaeth gadarn ddarparu sail ar gyfer penderfyniadau ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

Mae’r Ganolfan newydd yn adeiladu ar lwyddiant Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, a sefydlwyd ym mis Mawrth 2021 ac sydd wedi bod yn hanfodol mewn darparu sail ar gyfer rheoli’r pandemig ac adfer ohono.

Meddai’r Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Gan adeiladu ar y profiad a’r sgiliau a ddatblygwyd yng Nghanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, nod y Ganolfan newydd yw gwneud yn siŵr bod polisi ac arferion iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn seiliedig ar y dystiolaeth orau bosibl.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn deall y ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud pethau, beth sydd orau i’r cyhoedd, cleifion, staff a beth yw’r gwerth gorau am arian. Mae’r dystiolaeth y gall y Ganolfan newydd ei darparu yn hanfodol yn y cyfnod heriol hwn.”

Y cyhoedd wrth graidd pethau

Canolbwyntiodd y digwyddiad hefyd ar sut y mae’r cyhoedd yng Nghymru wrth galon y Ganolfan newydd a sut y bydd yn allweddol i lywio blaenoriaethau ymchwil a gwneud yn siŵr bod ei gwaith yn berthnasol, yn glir ac yn ddefnyddiol.

Meddai Debs Smith, Arweinydd Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd yng Nghanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae’n wych gwybod bod lleisiau pobl y mae ymchwil yn effeithio arnyn nhw yn cael eu clywed. Dwi’n falch iawn o gael y cyfle i arwain gwaith cynnwys y cyhoedd Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn falch y bydd cydgynhyrchu wrth wraidd popeth a wnawn.” 

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cofrestrwch i dderbyn bwletin Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.