
“Wnes i erioed ddychmygu y byddai’r llwybr gyrfa hwn yn agored i mi fel bydwraig”
29 Gorffennaf
Mae Bydwraig Ymchwil sydd wedi’i lleoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi croesawu lansio cynllun gweithredu newydd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i gynllunio i wella sgiliau a chyfleoedd ymchwil ar draws bydwreigiaeth, nyrsio a’r proffesiynau perthynol i iechyd.
Mae Rebekah de Silva yn trafod gwerth cynyddu cyfleoedd i fydwragedd gymryd rhan mewn ymchwil, yn ogystal â’r ddealltwriaeth maen nhw mewn sefyllfa unigryw i’w chynnig. Dywedodd, "Roedd fy mhrifysgol yn rhoi pwyslais gwirioneddol ar ddysgu yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd dysgu sut i edrych ar lenyddiaeth, ei beirniadu ac ystyried sut mae’n effeithio ar bolisi ac ymarfer yn rhywbeth a oedd wedi’i wreiddio’n ddwfn o’r dechrau ac a oedd o ddiddordeb mawr i mi.
“Pan oeddwn i’n gweithio fel bydwraig gymunedol yn Ne Swydd Gaerloyw, roeddwn i’n gofalu am lwyth achosion eithaf amrywiol o fenywod, yr oedd gan lawer ohonyn nhw ddiddordeb mewn dulliau mwy amgen o ymdrin â beichiogrwydd a genedigaeth. O’r herwydd, roedd hi’n bwysig iawn fy mod i’n gwybod beth oedd y dystiolaeth er mwyn i mi allu ei rhannu â’r menywod i lywio eu penderfyniadau, ac fe wnaeth fy annog i wneud yn siŵr fy mod i’n gwybod am yr ymchwil fwyaf diweddar.”
Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Rebekah bob amser yn chwilio am gyfleoedd ymchwil, ond roedd yn ei weld yn fwy o lwybr hyfyw ar gyfer gyrfaoedd gofal iechyd eraill. Parhaodd, “Mae gan Gymru Fydwragedd Ymchwil ym mhob bwrdd iechyd, ond dydy hynny ddim yn wir yn Lloegr. Doedd gofal mamolaeth ddim yn teimlo fel y maes mwyaf gweithredol o ran ymchwil, ac roeddwn i’n ei weld fel rhywbeth i feddygon yn fwy nag i mi. Roeddwn i’n ymwybodol o ymchwilwyr bydwreigiaeth da iawn oherwydd roeddwn i wedi darllen eu gwaith, ond doeddwn i ddim yn gweld sut allwn i ddilyn y llwybr hwnnw fy hun.”
Newidiodd popeth pan ddechreuodd yn ei swydd bresennol a darganfod diwylliant ymchwil hollol wahanol.
Mae’r diwylliant o amgylch ymchwil mor gadarnhaol a chalonogol. Alla’ i ddim canmol y tîm ddigon o ran y gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi.”
Ar ôl cael ei hannog i edrych ar gyfleoedd ariannu, dyfarnwyd Gwobr Hyfforddiant Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i Rebekah ym mis Gorffennaf 2024 i ymgymryd â gradd Meistr mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (Seicoleg) ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers hynny, mae hi wedi sicrhau gwobr Ymchwilydd sy’n Dod i’r Amlwg, a fydd yn ei galluogi i neilltuo amser gwarchodedig i ddatblygu cynnig PhD o amgylch ei diddordeb mewn colli babi yn gynnar yn ystod beichiogrwydd a chefnogaeth i fenywod ym maes gofal camesgor.
Mae Rebekah yn angerddol dros y ddealltwriaeth y gall bydwragedd ei chynnig i astudiaethau ymchwil, oherwydd y rôl unigryw maen nhw’n ei chwarae.
Parhaodd, “Mae bydwreigiaeth yn yrfa wirioneddol unigryw. Mae agwedd feddygol ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud, ond mae llawer o’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn gymdeithasol. Rydyn ni’n cael cymaint o gyswllt â chleifion a llawer o barhad gyda’r bobl rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw. Mae hynny’n gyfle anhygoel o ran ymchwil.
“Rwy’n credu’n gryf bod bydwragedd yn cynnig dealltwriaeth glinigol hanfodol ac y dylen nhw fod yn gyfranwyr allweddol at ymchwil ym maes iechyd menywod, gan chwarae rôl ganolog wrth lunio blaenoriaethau ymchwil ac arwain gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol. Mae mor bwysig bod menywod yn teimlo nid yn unig eu bod nhw’n cyfrannu trwy roi atebion, ond hefyd eu bod nhw’n llunio’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn.”
Mae ei safbwyntiau yn cael eu hategu gan Karen Jewel, Prif Swyddog Bydwreigiaeth Cymru, a groesawodd y cynllun gweithredu newydd hefyd. Dywedodd Karen,
Mae bydwragedd mewn sefyllfa unigryw i arwain newid ar draws y system iechyd a gofal a dylanwadu arno. Mae’r cynllun gweithredu ymchwil hwn yn cydnabod y rôl hanfodol mae bydwreigiaeth yn ei chwarae wrth lunio arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n diwallu anghenion menywod, babanod a theuluoedd. Trwy ymwreiddio ymchwil ym mhob cam o yrfa bydwraig, o addysg i ymarfer uwch, rydyn ni nid yn unig yn gwella gofal, ond hefyd yn meithrin gweithlu hyderus sy’n chwilfrydig yn broffesiynol. Rwy’n falch o gefnogi’r cynllun hwn a’r cyfleoedd mae’n eu creu i fydwragedd gyflawni canlyniadau gwell i bobl Cymru.”
Mae Rebekah yn gyffrous am ddyfodol ymchwil bydwreigiaeth yng Nghymru. Dywedodd, “Pan ddechreuais i ar fy ngyrfa, wnes i erioed ddychmygu y byddai’r llwybr gyrfa hwn yn agored i mi fel bydwraig, ond nawr rwy’n teimlo bod cymaint mwy o ddiddordeb ac ysgogiad i gynnwys pobl sydd ddim yn glinigwyr mewn ymchwil ac rwy’n ddiolchgar i fod yn rhan ohono.”
Darllenwch fwy am y cynllun gweithredu yma.