Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn llywio rheolau diogelwch newydd ynghylch tatŵs a thyllu yng Nghymru
22 Rhagfyr
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer gweithdrefnau arbennig, gan gynnwys tatŵs, tyllu, aciwbigo ac electrolysis, penderfyniad cafodd ei lywio gan waith Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Adolygodd y Ganolfan dystiolaeth ymchwil ynghylch y risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â'r gweithdrefnau hyn, gan ganolbwyntio ar heintiau ac adweithiau alergaidd, ac amlygu pwysigrwydd arferion atal a rheoli heintiau.
Defnyddiwyd canfyddiadau'r adolygiad hwn gan Lywodraeth Cymru i greu'r Canllawiau newydd ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig yng Nghymru, gan gynnwys gwybodaeth am sut y gellir lleihau risgiau iechyd drwy:
- Glanhau a chynnal yr amgylchedd yn ogystal â gosodiadau a ffitiadau lle mae'r weithdrefn arbennig yn cael ei pherfformio.
- Hylendid dwylo
- Glanhau croen digonol trwy ddefnyddio antiseptig cyn i'r driniaeth gael ei chyflawni
- Gwell arferion dadlygru, gan gynnwys glanhau a sterileiddio
- Sicrhau bod inciau, pigmentau a dŵr yn ddi-haint er mwyn osgoi halogiad
Wedi'i lansio yn 2023, crëwyd y Ganolfan i ddarparu tystiolaeth ymchwil hanfodol i Weinidogion a llunwyr penderfyniadau eraill i fynd i'r afael â heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n wynebu Cymru.
Meddai'r Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae mwy a mwy o bobl yn y DU yn cael triniaethau arbennig a all fod yn gysylltiedig â risgiau iechyd, felly mae'n hanfodol ein bod yn deall sut y gallwn atal a rheoli haint.
"Mae gwaith y Ganolfan wedi bod yn hanfodol i helpu i lywio rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru gan sicrhau y gall pobl ledled Cymru fod yn siŵr eu bod yn cael gweithdrefn gan weithiwr proffesiynol trwyddedig mewn amgylchedd glân a diogel."
O dan y rheolau newydd bydd angen i bob ymarferydd gwblhau cwrs atal a rheoli heintiau wedi'i deilwra i weithdrefnau arbennig. Bydd angen i'w safleoedd neu gerbydau hefyd fodloni safonau diogelwch a hylendid llym er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni gofynion iechyd y cyhoedd.
Cadwch i fyny â'r holl waith diweddaraf gan Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy ymuno â'n bwletin wythnosol.