Uwch ymarferydd nyrsio yn ennill ysgoloriaeth ymchwil am waith ‘ysbrydoledig’ mewn canolfan feddygol ym Mae Colwyn
23 Hydref
Mae uwch ymarferydd nyrsio wedi ennill gwobr ysgoloriaeth genedlaethol fawreddog ar ôl hyrwyddo ymchwil yn ei chanolfan feddygol.
Mae Lucie Parry, sy’n gweithio yng Nghanolfan Feddygol West End, Bae Colwyn, wedi ennill Gwobr Ysgoloriaeth Sefydliad Betsi Cadwaladr gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka.
Y gobaith yw, drwy gyflwyno diwylliant o ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth i’r practis, y byddant yn cadw staff ac yn denu eraill i weithio yno.
Mae Nia Boughton, sy’n nyrs ymgynghorol gofal sylfaenol, yn gweithio gyda Lucie a thynnodd sylw at ei hymdrechion – a phwysigrwydd gwella diwylliant ymchwil y practis. Dywedodd hi:
Mae hyn yn ymwneud â Lucie a’r hyn y mae hi wedi’i wneud i wella ein hamgylchedd gwaith. Mae hi mor ysbrydoledig. Doedd dim byd o ran ymchwil tan ei bod hi’n ymuno â’r practis. Un o’r pethau sy’n helpu i gadw staff yw’r cyfle i gynnal ymchwil. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i gleifion gael ymyriadau a thriniaethau na fydden nhw’n eu cael fel arall."
Mae’r gwobrau, a weinyddir gan y Coleg Nyrsio Brenhinol, ar agor i bob nyrs, bydwraig a nyrs iechyd cyhoeddus gymunedol arbenigol gofrestredig.
I gael eu hystyried, rhaid i ymgeiswyr ragori naill ai ym maes arweinyddiaeth, ymarfer clinigol, ymchwil a datblygu neu addysg a hyfforddiant.
Helpodd Lucie i ddatblygu grŵp o wyth gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud ag ymchwil, gyda thair astudiaeth yn recriwtio ac wyth arall yn cael eu sefydlu. Maent wedi cyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol ac wedi cydweithio â thimau ymchwil eraill. Ychwanegodd Lucie:
Fe ofynnais i i’r staff pa mor bwysig oedd ymchwil yn eu barn nhw, yna fe wnaethon ni gymryd rhan mewn astudiaethau cenedlaethol ac fe wnaethon ni gychwyn rhai eraill.
Mae cleifion eisiau cymryd rhan ac mae’r staff wir yn ei fwynhau. Mae’n beth positif.
Gobeithio y bydd y wobr yn ein helpu ni i gael yr arian hwnnw i wneud mwy o ymchwil."
Bydd Lucie yn cael ei gwobr, a siec am £1,500 i’w helpu i ddatblygu gwaith ymchwil y tîm, yng Nghaerdydd ym mis Hydref.