woman having her temperature checked for COVID-19

Gall cleifion yng Nghymru chwarae rhan hanfodol o ran deall Cofid hir

1 Rhagfyr

Gall dioddefwyr Cofid hir, a’r rhai sydd yn gofalu amdanynt, fod yn rhan o astudiaethau ymchwil hanfodol i geisio canfod triniaethau ar gyfer y cyflwr. Mae adroddiad newydd o Ganolfan Tystiolaeth Cofid-19 Cymru  (WCEC) yn amlinellu naw astudiaeth sydd – neu a fydd – yn chwilio am wirfoddolwyr yng Nghymru.

Yn y DU, mae tua 1.2 miliwn o bobl yn dioddef o Cofid-19 hir, sef yr enw a roddir ar symtomau COFID-19 fel diffyg anadl, blinder, ‘niwl ymennydd’ a phoen yn y cyhyrau, pan fyddant yn parhau am wythnosau neu fisoedd ar ol i’r haint gilio. Ar y funud, ychydig o dystiolaeth sydd yn bodoli ynghylch pa driniaethau all helpu i ysgafnhau neu wella’r cyflwr hwn, sydd yn gallu gadael y claf yn wan a bregus.

Bydd cael gwell dealltwriaeth o Cofid hir trwy’r gwaith ymchwil hanfodol sydd yn digwydd yng Nghymru o gymorth mawr i ddatblygu dulliau newydd o drin a gofalu am y cleifion hyn a gwella eu bywydau. Mae cael aelodau o’r cyhoedd yn rhan o’r astudiaethau yn hanfodol os yw hyn i ddigwydd.

Trwy ddarllen yr adroddiad, gall cleifion ddysgu am yr holl astudiaethau Cofid hir sydd yn cael eu cynnal yng Nghymru, a sut y gallant hwy fod yn rhan o’r ymchwil hollbwysig hwn, gan gynnwys astudiaethau yn edrych ar y canlynol:

  • Deall yr effeithiau tymor hir ar gleifion sydd wedi bod yn yr ysbyty gyda COFID-19 (PHOSP-COVID).
  • Adnabod triniaethau fydd y rhwystro symtomau newydd COFID-19 rhag datblygu a  lleihau anabledd o ganlyniad i’r haint (HEAL-COVID).
  • Galluogi cleifion i hunan-reoli rhai o’r symtomau allweddol er mwyn cyflymu adferiad (LISTEN)
  • Cyfweld cleifion er mwyn gwella dealltwriaeth o Cofid hir.

Dyma eiriau Sharon Frayling, Arweinydd Tïm Ynchwil yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd, sydd yn gweithio ar astudiaeth HEAL-COVID:  “Mae Cofid hir yn cael effaith wirioneddol ddinistriol ar fywydau cleifion, rydym wedi gweld cleifion na allant weithio, mynd am dro na chwblhau tasgau arferol fel dringo’r grisiau yn eu cartref heb lwyr golli eu hanadl. Gall daflu eu bywydau yn hollol wyneb i waered.

“Mae astudiaethau ymchwil fel HEAL-COVID mor bwysig, rydym eisiau gwella cyfleoedd ein cleifion o gael byw yn rhydd oddi wrth symtomau COFID-19 yn yr wythnosau a’r misoedd wedi iddynt adael yr ysbyty. Trwy ymchwil yn unig y gallwn ddarganfod y triniaethau hanfodol hynny y mae cleifion eu hangen, felly rydym yn gwneud yn siwr bod pob claf cymwys yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r ymchwil hwn.”

Cafodd y WCEC ei greu ym mis Mawrth 2021 gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ran Llywodraeth Cymru i adolygu’r cyfoeth o ymchwil COFID-19 hollbwysig sydd ar gael, er mwyn sicrhau bod y dystiolaeth a ddefnyddir i gyrraedd penderfyniadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfredol ac yn berthnasol i Gymru.

Dyma dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Tystiolaeth COFID-19 Cymru: “Rydym yn credu bod astudiaethau COFID-19 hir sydd ar gael i bobl yng Nghymru yn mynd i gyflwyno’r dystiolaeth orau bosibl ynghylch y modd y gellir dylunio gwasanaethau i gwrdd ag anghenion pob grŵp o gleifion gyda Cofid hir.

“Mae ymchwil yn sicr yn allweddol i allu trin Cofid hir yn effeithlon ac o bosibl llwyddo i’w atal. Rydym eisiau helpu pobl i gael eu bywydau normal yn ôl.”

I gael gwybod am yr holl astudiaethau COFID-19 sydd yn mynd ymlaen yng Nghymru, ewch i’n gwedudalen COFID-19 (COVID-19 webpage.)