
Nod astudiaeth yw gwneud meddyginiaeth sgitsoffrenia yn fwy diogel i gleifion
25 Gorffennaf
Nod astudiaeth a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw gwneud triniaeth ar gyfer sgitsoffrenia yn fwy diogel trwy alw am gyflwyno profion gwrthgyrff arferol ar gyfer cleifion sy'n cymryd clozapine.
I nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Sgitsoffrenia (25 Gorffennaf 2025), mae ymchwilwyr a chyfranogwr yn astudiaeth dadansoddiad banc data SAIL o ganlyniadau cysylltiedig â haint mewn cleifion â sgitsoffrenia sy’n cymryd clozapine (SIROC) yn trafod sut y gallai'r newid syml, cost-effeithiol hwn drawsnewid ansawdd bywyd cleifion.
Mae sgitsoffrenia yn salwch meddwl cyffredin a dinistriol sy'n effeithio ar 1 o bob 100 o'r boblogaeth. Gellir rhagnodi'r clozapine gwrthseicotig i gleifion â sgitsoffrenia sy'n gwrthsefyll triniaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith eu bod yn effeithiol iawn, mae pobl sy'n cymryd clozapine â risg uwch o ddioddef heintiau difrifol, ailadroddol ar y frest. Gall hyn achosi iddynt fynd yn sâl yn aml yn ogystal â gwaethygu eu sgitsoffrenia.
Cadarnhaodd ymchwilwyr o Ganolfan Diffyg Imiwnedd Cymru, sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, bod cysylltiad rhwng cymryd clozapine a diffyg gwrthgyrff. Mae gwrthgyrff yn rhan allweddol o system imiwnedd y corff sy'n ein helpu i ymladd haint. Mae'r tîm bellach yn galw am brofion gwrthgyrff fel rhan arferol o’r broses o fonitro clozapine.
Esboniodd Dr Mark Ponsford, Imiwnolegydd Ymgynghorol a Phrif Ymchwilydd ar gyfer astudiaeth SIROC,
Clozapine yw'r unig gyffur trwyddedig ar gyfer sgitsoffrenia sy'n gwrthsefyll triniaeth ac felly y mae wedi bod dros y 30 mlynedd diwethaf. Fe wnaethom ddarganfod bod y gyfradd o ddiffyg gwrthgyrff mewn cleifion sy'n cymryd clozapine tua dwywaith yn uwch na’r hyn a ddisgwylir yn y boblogaeth yn gyffredinol."
Aeth tîm SIROC ymlaen i ddefnyddio Banc Data SAIL, a ariennir hefyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cadw data gofal iechyd dienw cleifion o bob cwr o Gymru, i archwilio cyfraddau heintio mewn oedolion sy'n derbyn meddyginiaethau gwrthseicotig.
Mae cleifion sydd eisoes yn cymryd clozapine yn cael profion gwaed rheolaidd, sy'n ei gwneud hi'n gymharol syml cyflwyno sgrinio ychwanegol o samplau i fonitro lefelau gwrthgyrff. Meddai Mark drachefn, "Yn rhyfeddol i ni, er gwaethaf profion gwaed helaeth a rheolaidd, nid yw diffyg gwrthgyrff yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Tynnwyd ein sylw at y syniad o ddefnyddio samplau dros ben gan un o'r cleifion, sy'n dangos pa mor hanfodol yw cynnwys cleifion wrth ddylunio'r astudiaeth, gan y gallant gyfrannu cymaint o fewnwelediad pwysig a phrofiad bywyd at y dyluniad.
"Rydym yn falch o fod wedi cadarnhau’r cyswllt hwn, a awgrymwyd gyntaf mewn gwaith gan Brif Ymchwilydd SIROC, yr Athro Stephen Jolles. Cydnabu y gall prawf gweithrediad yr afu syml helpu i nodi diffyg imiwnedd yn brydlon. Mae'r prawf hwn yn costio cyn lleied â 17 ceiniog. Mae hwn yn newid syml, cost isel a allai gael effaith sylweddol ar fywydau cleifion.
"Nawr ein bod wedi cadarnhau’r cyswllt hwn, hoffem ei weld yn cael ei gydnabod yn ehangach, gan gynnwys fel rhybudd meddyginiaeth ar gyfer clozapine gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), sy'n casglu ac yn monitro pryderon diogelwch sy'n gysylltiedig â chynhyrchion gofal iechyd."
Gweithiodd tîm yr astudiaeth yn agos gyda grŵp cynrychiolwyr cleifion Canolfan Diffyg Imiwnedd Cymru, gan gynnwys cyd-gadeirydd y Grŵp, Cara Jenkins, 42 oed, o Gaerdydd, a gafodd ddiagnosis o fath o ddiffyg imiwnedd o'r enw Diffyg Imiwnedd Amrywiol Cyffredin (CVID) yn 2011.
Dywedodd Cara, "Mae diffyg imiwnedd yn gyflwr anweledig, sy'n ei wneud mor anodd ei adnabod. Cyn i mi gael diagnosis, roeddwn i mor sâl gyda heintiau dro ar ôl tro. Roedd bron yn gyson.
"Ers i mi ddechrau triniaeth, mae fy ansawdd bywyd wedi’i drawsnewid. Diolch byth, cafodd fy nghyflwr ei ganfod cyn i mi ddatblygu niwed i'r ysgyfaint y mae llawer o gleifion diffyg imiwnedd yn ei ddatblygu.
"Mae cymaint o bobl yng Nghymru eto i gael diagnosis o ddiffyg gwrthgyrff, gan gynnwys pobl â sgitsoffrenia sy'n cymryd y feddyginiaeth hon, a fyddant yn cael budd o gael y driniaeth wrthgyrff sy'n newid bywydau ond dydyn nhw ddim yn gwybod eto."
Mae Cara, sydd hefyd â phrofiad blaenorol o gymryd meddyginiaeth gwrthseicotig, yn angerddol am bwysigrwydd ymchwil wrth ddatblygu triniaeth ar gyfer diffyg imiwnedd a salwch meddwl. Meddai, "Mae'n golygu llawer i fod yn rhan o'r ymchwil hon, i gael mwy o wybodaeth am gyflwr y mae pobl o bosibl â llai o ymwybyddiaeth ohono, ac sy'n cyfuno iechyd meddwl a iechyd corfforol. Ar ôl gweld manteision imiwnotherapi fy hun, rwy'n credu’n gryf y gallai drawsnewid bywydau cleifion yn y dyfodol."