Treial yn Ysbyty Singleton yn arwain at gynnydd “trawiadol” mewn cyfraddau goroesi melanoma
21 Rhagfyr
Mae’r Sefydliad Canser yn Ysbyty Singleton yn Abertawe, wedi’i gefnogi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi chwarae rhan bwysig mewn treial byd-eang sydd wedi trawsnewid triniaeth a chyfraddau goroesi ar gyfer math o ganser y croen.
Yn y treial, rhoddwyd dau gyffur imiwnotherapi, Ipilimumab a Nivolumab, i gleifion â melanoma metastatig, yn lle cemotherapi, a chafwyd canlyniadau rhyfeddol. Rhoddwyd Ipilimumab, sef y driniaeth safonol ar yr adeg honno, i un grŵp, rhoddwyd y cyffur Nivolumab i ail grŵp, a rhoddwyd y ddau gyffur gyda’i gilydd i drydydd grŵp.
Bum mlynedd ar ôl y treial, dangosodd dadansoddiad fod 53 y cant o’r cleifion a gafodd gyfuniad o’r cyffuriau dal yn fyw. Yn gynharach eleni, dangosodd y dadansoddiad 10 mlynedd fod 43 y cant o’r cleifion a gafodd y driniaeth gyfunol dal yn fyw.
Llwyddodd y Sefydliad i recriwtio 18 o gleifion i gyd, gan olygu ei fod ymhlith y deg canolfan recriwtio fwyaf i gymryd rhan.
Roedd yr Athro John Wagstaff, sydd wedi ymddeol o’r Sefydliad Canser erbyn hyn, yn un o awduron yr holl gyhoeddiadau a oedd yn ymwneud â’r treial a dywedodd fod y canlyniadau yn “drawiadol iawn”:
Roedd y canlyniadau yn drawiadol iawn. Gyda’r driniaeth gyfunol, roedd y cyfraddau lleihau i fyny ar tua 65 y cant. Wrth i amser fynd heibio, daeth yn amlwg bod y gollyngdod roedden ni’n ei weld gyda’r triniaethau hyn yn llawer gwell nag yr oedden ni’n ei weld yn flaenorol.”
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi ymchwil canser ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda’r Sefydliad yn gweithredu o ystafelloedd treialon clinigol penodedig yn Ysbyty Singleton. Roedd yn un o bum safle yn y DU a gymerodd ran yn nhreial CheckMate 067 i felanoma metastatig, canser y croen sydd wedi lledaenu o amgylch y corff.
Ychwanegodd Dr Nicola Williams, Pennaeth Cenedlaethol Cefnogi a Chyflawni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae’r treial arloesol hwn yn dangos y pŵer sydd gan ymchwil i drawsnewid cyfraddau goroesi ar gyfer y math hwn o ganser, gan roi gobaith i gleifion ledled y byd.
“Mae Ysbyty Singleton wedi dod yn un o brif safleoedd ymchwil canser y DU, gyda’r capasiti i gynnal cynifer â 30 o dreialon ar unrhyw adeg benodol a record lwyddiannus iawn o recriwtio cleifion. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch iawn o fod wedi cefnogi’r twf mewn ymchwil canser yn y bwrdd iechyd.”